Myfyrwraig yn dathlu llwyddiant gradd a gwobr fusnes fawreddog
Pan fydd Kayleigh Thieme, 21 oed, yn graddio’r wythnos hon o Gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bydd yn gwneud hynny nid yn unig gyda BA mewn Rheoli Busnes ond hefyd fel derbynnydd balch o Wobr y cwrs Busnes a Rheolaeth.

Mae Kayleigh, o Lanelli, wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad, ei gwytnwch a’i pherfformiad academaidd rhagorol trwy gydol ei hastudiaethau. Mae’r wobr yn cydnabod ei hymroddiad cyson i gyflawni canlyniadau rhagorol, yn ogystal â’i chyfranogiad gweithredol ac ymgysylltiedig mewn darlithoedd.
Mae Kayleigh wedi gweithio ers yn16 oed ac wedi llwyddo i gydbwyso ei thaith academaidd gyda rĂ´l ran-amser yn McDonald’s, lle mae hi wedi cael ei dyrchafu’n rheolwr shifft yn ddiweddar. Cafodd ei dewis i astudio yn y Drindod Dewi Sant ei ysbrydoli gan ei chwaer, sydd hefyd yn raddedig o Gampws Caerfyrddin.
“Dewisais astudio yn y Drindod Dewi Sant wrth i fy chwaer hĹ·n raddio dair blynedd yn Ă´l a chanmol y brifysgol, yn benodol Campws Caerfyrddin,” meddai Kayleigh. “Ar Ă´l ymweld ar ddiwrnod agored, roeddwn i’n gwybod yn syth fy mod i eisiau astudio yma - roedd pawb mor gadarnhaol a chroesawgar, ac roedd yr awyrgylch yn hyfryd.”
Cafodd ei phenderfyniad i ddilyn Rheoli Busnes ei yrru gan brofiad yn y byd go iawn. Dewisais y cwrs hwn ar Ă´l gweithio mewn dau gwmni gwahanol o 17 oed”, meddai. “Sylwais ar wahaniaeth mawr rhwng sut roedd pob cwmni yn cael ei redeg a sut roedd staff yn cael eu trin. Magodd hyn ddiddordeb mewn busnes a rheolaeth, yn benodol y cwrs hwn, gan ei fod yn cynnwys llawer o agweddau ynghylch cynaliadwyedd, sy’n chwarae rhan fawr o fewn busnes a’i ddyfodol ac sy’n bwysig i mi yn bersonol”.
Breuddwyd Kayleigh i ddechrau oedd gweithio ym maes Adnoddau Dynol ond yn ddiweddar mae wedi cael ei dyrchafu’n rheolwr shifft yn McDonald’s lle mae hi wedi gweithio ochr yn ochr â’i hastudiaethau Prifysgol ac yn gobeithio parhau i wneud cynnydd yno.
“Mae gen i ddiddordeb dyfnach mewn rheolaeth a sut y gall pob sefydliad nid yn unig helpu eu hunain ond hefyd dyfodol y blaned,” meddai. “Rwy’n ddyledus iawn i’r cwrs hwn a’m darlithwyr, gan fy mod wedi dysgu cymaint nid yn unig am fusnes a rheolaeth ond hefyd am fy hun a’m huchelgeisiau yn y dyfodol. Mae hyn i gyd oherwydd y gefnogaeth anhygoel rydw i wedi’i dderbyn”.
Ymhlith uchafbwyntiau ei chyfnod yn y Drindod Dewi Sant roedd lleoliad addysgol gydag adran Mentrau Cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin, a’i thraethawd hir ar effaith technoleg ac AI yn y sector lletygarwch – ymchwil a oedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’i phrofiad yn McDonald’s.
Dywedodd: “Roedd llawer o brofiadau gwahanol yn ystod fy amser yn y Drindod Dewi Sant yr oeddwn i’n ffodus i gymryd rhan ynddynt; fodd bynnag, mae dau sy’n sefyll allan i mi.
“Yn ystod yr ail flwyddyn, roeddwn i’n gallu cwblhau lleoliad tri mis gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn yr adran Mentrau Cymdeithasol. Roedd hyn yn hynod fuddiol i mi, gan fy mod wedi ennill hyder a chymaint o wybodaeth, megis mentrau cymdeithasol, yr economi gylchol, a chyfathrebu effeithiol. Yr ail brofiad oedd cwblhau fy nhraethawd hir, a oedd yn dwyn y teitl “Ymchwiliad i sut mae’r sector lletygarwch yn addasu i dechnoleg newydd ac AI”. Dewisais yr ymchwil hon gan ei fod yn cyfuno sawl uned trwy gydol fy nghwrs a fy amser yn gweithio yn McDonald’s. Cwblheais yr ymchwil hon trwy gynnal cyfweliadau ag aelodau o staff o McDonald’s er mwyn derbyn gwybodaeth onest ac effeithiol. Cefais fy arwain gan fy nhiwtor, Anthony Burns, trwy gydol y prosiect hwn trwy dderbyn adborth, cyngor a chymhelliant”.
Er gwaethaf yr heriau o reoli aseiniadau ac ymrwymiadau gwaith, mae Kayleigh yn credydu’r cwrs am wella ei sgiliau trefnu yn sylweddol a’i pharatoi ar gyfer dyrchafiad gyrfa.
“Mae astudio tra’n gweithio wedi fy ngalluogi i gymhwyso fy nysgu prifysgol yn uniongyrchol i’r gweithle - ac i’r gwrthwyneb,” meddai. “Mae gan McDonald’s ffocws cryf ar gynaliadwyedd, sy’n ategu fy ngwaith academaidd. Mae’r cwrs nid yn unig yn cefnogi fy natblygiad proffesiynol ond mae hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer twf gyrfa yn y dyfodol.”
Wrth edrych ymlaen, mae Kayleigh yn parhau â’i thaith academaidd ac wedi cofrestru ar MBA mewn Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd y Drindod Dewi Sant yn rhan-amser – i gyd wrth barhau â’i rĂ´l fel rheolwr shifft.
“Byddwn i’n bendant yn argymell y cwrs hwn i eraill,” ychwanega. “Mae wedi rhoi gwybodaeth gref i mi am fusnes, rheoli a chynaliadwyedd - i gyd yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Rwy’n gyffrous am yr hyn sy’n dod nesaf.”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;01267&˛Ô˛ú˛ő±č;676790