Myfyrwyr Dylunio Graffig yn Dod â Brand Ffordd o Fyw Newydd yn Fyw gyda Lansiad Ymgyrch Gymdeithasol Elsie a Marj
Mae myfyrwyr Dylunio Graffig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu lansiad llwyddiannus ymgyrch gymdeithasol newydd ar gyfer Elsie a Marj, brand ffordd o fyw ac anhregu a ysbrydolwyd gan etifeddiaeth deuluol a dweud storïau ystyrlon.

Lluniodd y cydweithrediad ran o’r rhaglen interniaeth a delir gan PCYDDS, sy’n cysylltu myfyrwyr dawnus â briffiau creadigol gan gleientiaid byw o’r byd go iawn. Gwelodd y prosiect 20 o fyfyrwyr o bob grŵp blwyddyn ar y cwrs BA Dylunio Graffig yn ymgymryd â her broffesiynol a osodwyd gan Claire Gaffey, sylfaenydd Elsie a Marj, i lunio hunaniaeth ac iaith weledol y brand.
Roedd briff Claire yn un o’r galon ac yn ymdrechgar i’r un graddau: sef datblygu brand â’i wreiddiau yng ngheinder ac etifeddiaeth ei mamau cu, Elsie a Marj. Gofynnwyd i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad manwl o gystadleuwyr, llunio strategaeth brand, a chreu hunaniaeth gydlynol er mwyn cipio hanfodion gwerthoedd y brand.
Ar ôl rownd o gyflwyniadau cysyniad, creodd Claire restr fer derfynol o wyth ymgeisydd i’w cyfweld, a dewisodd Svitlana Ulianych, myfyrwraig ail flwyddyn, y bu ei gwaith yn adlewyrchu calon y brand orau.
“Dangosodd Svitlana wir ddealltwriaeth o fwriad dyfnach y brand a throdd hynny yn hunaniaeth weledol hardd ac ystyrlon,” meddai Claire. “Bu gweithio gyda PCYDDS yn brofiad hynod o gadarnhaol. Dangosodd y myfyrwyr angerdd a phroffesiynoldeb drwy’r cyfan, roedd hi’n fy ysbrydoli i weld sut daethon nhw at y briff gyda chraffter mor greadigol.”
Canmolodd Donna Williams, Rheolwr y Rhaglen BA Dylunio Graffig, y cydweithrediad am ei ddilysrwydd a’i effaith:
“Mae Claire wedi bod yn gleient eithriadol. Cynigiodd ei briff meddylgar a chroyw wir her a ysbrydolodd ein myfyrwyr. Rydym yn hynod falch o’r canlyniad ac wrth ein boddau i weld brand Elsie a Marj yn mynd yn fyw gydag ymgyrch gymdeithasol symbylol. Y tu hwnt i’r hunaniaeth weledol, roedd hyn yn brofiad i lunio gyrfaoedd ein myfyrwyr.”
Cefnogwyd llwyddiant y prosiect ymhellach gan dîm interniaeth a menter y Brifysgol, y mae eu gwaith distaw bach yn cysylltu myfyrwyr â gwaith ystyrlon a phrofiadau adeiladu portffolio.
“Diolch yn arbennig i Amanda Hayden, Uwch Reolwr Prosiect, y mae ei hymrwymiad i greu llwybrau i ddiwydiannau go iawn yn dal i fod o fudd i’n myfyrwyr mewn ffyrdd anhygoel,” ychwanegodd Donna.
Yn adlewyrchu ar y profiad, meddai Svitlana Ulianych: “Mae wedi bod yn wir bleser i ddod i nabod Claire a gweithio ar ei brand hardd. Datblygon ni gysylltiad cryf o safbwynt deall y cysyniad a’r weledigaeth y tu ôl i Elsie a Marj. Mae Claire yn gleient sy’n feddylgar ac yn ysbrydoli, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i PCYDDS am greu cyfleoedd fel hyn, lle gall myfyrwyr ymwneud â phrosiectau o’r byd go iawn mewn ffyrdd ystyrlon.”
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau PCYDDS:“Mae cydweithio â diwydiant wrth galon ein hagwedd at addysg greadigol. Mae prosiectau fel hyn nid yn unig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau mewn cyd-destunau o’r byd go iawn, ond hefyd yn codi eu hyder, eu rhwydweithiau a’u parodrwydd proffesiynol. Mae’r cydweithrediad ag Elsie a Marj yn enghraifft berffaith o sut y gall partneriaethau ystyrlon alluogi egin ddylunwyr i greu gwaith sy’n berthnasol yn fasnachol yn ogystal â chyseiniol yn bersonol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071