O Brentis i Beiriannydd: Taith Ysbrydolus Aeron Smitham gyda PCYDDS
Mewn diwydiant peirianneg sy’n datblygu’n gyflym, ni fu’r angen am weithwyr proffesiynol sy’n cyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol erioed yn fwy. Mae taith Aeron Smitham o weithredwr cynhyrchu i Beiriannydd Trydanol ym Mott MacDonald yn enghraifft ddisglair o sut gall gradd-brentisiaethau yn PCYDDS baratoi’r ffordd i symud ymlaen yn eich gyrfa.

Dechreuodd Aeron ei yrfa yn Timet, gan weithio’n weithredwr cynhyrchu dros dro cyn sicrhau prentisiaeth drydanol. Ac yntau’n awyddus i wella’i arbenigedd technegol, astudiodd HNC mewn Peirianneg Drydanol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Roedd ei brofiad cadarnhaol yno ar y cyd ag enw da, cadarn ac opsiynau dysgu hyblyg y brifysgol, wedi gwneud PCYDDS yn ddewis naturiol pan benderfynodd barhau â’i astudiaethau gyda BSc mewn Peirianneg Drydanol.
“Roedd parhau â BSc Peirianneg Drydanol yn gwneud synnwyr ar gyfer symud ymlaen yn fy ngyrfa,” meddai Aeron. “Roeddwn i am wella fy ngwybodaeth, ennill cymwysterau ychwanegol, a pharhau i ddatblygu f’arbenigedd technegol wrth weithio yn y diwydiant.”
Canolbwyntiai astudiaethau Aeron yn PCYDDS ar gymwysiadau yn y byd go iawn, yn enwedig mewn awtomeiddio diwydiannol a systemau rheoli. Un o uchafbwyntiau ei gwrs oedd gweithio gyda Siemens PLCs, profiad a gafodd effaith sylweddol ar ei ddatblygiad proffesiynol. Yn sgil ei arbenigedd yn y maes hwn daeth yn Arbenigwr Mater Pynciol i Siemens PLCs o fewn ei gwmni, gan chwarae rôl allweddol mewn gwelliannau o ran awtomeiddio a rheoli systemau.
“Roedd y profiad dysgu ymarferol yn amhrisiadwy, am ei fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’m swydd gan ganiatáu i mi gymhwyso sgiliau newydd mewn senarios yn y byd go iawn,” meddai.
Yn debyg i lawer o weithwyr proffesiynol sy’n dilyn addysg uwch, wynebai Aeron her cydbwyso gwaith, astudiaethau, ac ymrwymiadau personol. Tra oedd yn cwblhau’i radd, fe’i dyrchafwyd i rôl hŷn, a gynyddai’i gyfrifoldebau. Roedd rheoli morgais ac ymrwymiadau rhiant ochr yn ochr â’i astudiaethau’n gofyn am ddull disgybledig, ond gyda chymorth ei gyflogwr a’i deulu, yn ogystal â hyblygrwydd gradd-brentisiaeth PCYDDS, llywiodd ei ffordd yn llwyddiannus drwy’r heriau hyn.
“Gwnaeth strwythur y cwrs hi’n bosibl rheoli popeth yn effeithiol,” meddai.
Ers cwblhau’i radd, mae Aeron wedi sicrhau rôl yn Beiriannydd Trydanol ym Mott MacDonald, ymgynghoriaeth beirianneg fyd-eang. Mae’n priodoli’r cyflawniad hwn i’r sgiliau a’r cymwysterau a enillodd drwy PCYDDS, a gryfhaodd ei ymgeisyddiaeth am rolau peirianneg ar lefel uwch.
Gan edrych i’r dyfodol, mae Aeron yn bwriadu gwneud cais am achrediad gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ac mae’n ystyried mynd â’i astudiaethau ymhellach gyda gradd Meistr. Ei nod yw cyrraedd statws Peiriannydd Siartredig, gan ganiatáu iddo ymgymryd â rolau mwy datblygedig o fewn y diwydiant. At hynny, mae’n awyddus iawn i eirioli dros radd-brentisiaethau, gan sicrhau bod mwy o ddarpar beirianwyr yn eu cydnabod yn llwybr gwerthfawr ac uchel eu parch.
Mae Aeron yn argymell yn gryf gymryd llwybr y radd-brentisiaeth. “Dyma’r ffordd orau o ennill cymhwyster tra byddwch yn parhau i symud ymlaen yn eich gyrfa. Gallwch gymhwyso beth rydych yn ei ddysgu’n uniongyrchol yn y gweithle, cael profiad yn y byd go iawn, ac ennill gradd heb gymryd amser i ffwrdd o’ch gwaith.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071