Ҵý

Skip page header and navigation

Ar ôl blynyddoedd o roi ei theulu yn gyntaf, penderfynodd Jamilla Robinson ei bod hi’n bryd mynd ar drywydd breuddwyd yr oedd hi wedi’i gohirio, nid yn unig iddi hi ei hun, ond yn esiampl bwerus i’w phlant. Heddiw wrth iddi raddio gyda gradd meistr mewn iechyd cyhoeddus o PCYDDS Birmingham, mae stori Jamilla yn un o wydnwch eithriadol, trawsnewid personol, a phenderfyniad diwyro. 

Jamilla graduating

I Jamilla, fel llawer o famau, roedd gofynion magu teulu unwaith yn gwthio ei huchelgeisiau ei hun i’r cefndir. 

“Doeddwn i erioed wedi meddwl am fynychu’r brifysgol ar ôl gadael y coleg oherwydd dechreuais i weithio ar unwaith ac yna dechreuais i fy nheulu,” meddai. “Ond yn ddiweddar, gan fod fy mhlant yn hŷn, roeddwn i am wneud rhywbeth i mi fy hun. Roeddwn i am brofi i mi fy hun y gallwn i fynd i’r brifysgol… nad dim ond mam oeddwn i.” 

Yn 2020, cofrestrodd Jamilla ar raglen BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS gyda’r nod o adeiladu gyrfa yn y sector iechyd meddwl. Fodd bynnag, cymhlethwyd ei thaith yn fuan gan ddiagnosis anodd: clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). 

“Ces i ddiagnosis ychydig cyn dechrau Lefel 5,” eglura Jamilla. “Mae COPD yn eich gwneud chi’n sâl iawn ar adegau, ac roeddwn i’n hunanymwybodol am fy mheswch. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gallu parhau.” 

Ond dyna a wnaeth hi, diolch yn rhannol i’w dycnwch ei hun, ac i’r cymorth diwyro gan dimau anabledd ac academaidd y brifysgol. 

“Mae’n dal i fod yn frwydr rai dyddiau,” meddai, “ond mae’n gymaint o ryddhad gwybod bod gen i help a chymorth. Dyna sydd wedi caniatáu i mi ddal ati.” 

Er gwaethaf ei heriau iechyd, darganfu Jamilla angerdd am ddysgu, yn enwedig mewn modylau a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â’i phrofiadau ei hun megis Ffisioleg a Gofal Cymunedol a Rheoli Cyflyrau Hirdymor. Rhoddodd perthnasedd ei hastudiaethau i’w bywyd bob dydd gryfder academaidd ac iachâd personol iddi. 

“Fe wnes i gymhwyso’r hyn roeddwn i’n ei ddysgu i fy mywyd fy hun a bywyd fy nheulu ac roedd y cysylltiad hwnnw yn gwneud fy nysgu mor ystyrlon.” 

“Datblygodd y cwrs fy hyder. Doeddwn i ddim yn meddwl bod gen i ddyfodol proffesiynol, ond nawr rwy’n gwybod bod gen i. Rwy’n gallu gwneud.” 

Bellach mae Jamilla yn paratoi i ymuno â’r gweithlu yn yr union sector a ysbrydolodd ei thaith. 

“Rwy’n dal i gael dyddiau anodd gyda fy nghyflwr,” meddai. “Ond rwy’n unigolyn penderfynol. Mae fy astudiaethau yn bwysig i mi, a gyda chymorth fy mhlant a PCYDDS, rwy’n rhygnu ymlaen. Rwyf am wneud fy mhlant yn falch a helpu i wella cymaint o fywydau ag y galla i.” 

Mae Jamilla am annog eraill i gymryd y naid yr oedd hi’n meddwl unwaith ei bod hi allan o gyrraedd: 

“Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd ag angerdd am ddysgu a gofalu. Doeddwn i erioed wedi meddwl y gallwn i fynd mor bell, ond dyma fi, ac rydw i wedi cwblhau fy ngradd meistr. Nid y person roeddwn i ar Lefel 4 yw’r person rydw i heddiw. Mae’r profiad hwn wedi newid fy mywyd.” 

Jamilla crossing the stage

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon