O Hunan amheuaeth i Ragoriaeth Academaidd: PCYDDS yn Dathlu Enillydd Gwobr Yr Athro Alan MacFarlane a Sarah Harrison mewn Anthropoleg, Aria Anderson.
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi mai Aria Anderson sy’n derbyn Gwobr Yr Athro Alan MacFarlane a Sarah Harrison mewn Anthropoleg, eleni, i gydnabod ei chynnydd academaidd eithriadol, ei gwytnwch wrth wynebu heriau personol, a’i hymrwymiad i ddefnyddio addysg yn offeryn ar gyfer newid.

Stori o ddyfalbarhad a thrawsnewid yw un Aria. Dim ond yn ei thridegau y cafodd ddiagnosis o ADHD, a threuliodd dipyn o’i bywyd yn ymgodymu heb y cymorth yr oedd ei hangen arni.
“Roedd yr ysgol yn her fawr. Roeddwn i’n teimlo fy mod ar ei hôl hi o’i gymharu â’m cyfoedion drwy’r amser, yn academaidd ac yn gymdeithasol fel ei gilydd. Yn y diwedd, des i i gredu nad oedd addysg i’w fod i mi.”
Ond yn ystod y cyfnodau clo, newidiodd rhywbeth. Gydag anogaeth ei theulu ac ymdeimlad cynyddol ei bod wedi colli allan ar rywbeth gwerthfawr, penderfynodd Aria ddychwelyd i addysg, penderfyniad a newidiodd ei bywyd. Cofrestrodd yn PCYDDS i astudio anthropoleg, wedi’i denu at y pwnc yn sgil chwilfrydedd oes am amrywioldeb y profiad dynol.
“Mae bod yn niwroamrywiol yn gallu ei gwneud hi’n anodd ffitio i mewn, rydych chi’n teimlo fel estron ymhlith cyfoedion. Fodd bynnag, mae hyn yn troi’n sgil ddefnyddiol yn y gwyddorau cymdeithasol, oherwydd rydych chi’n fwy tueddol o edrych ar y byd trwy lens chwilfrydig a beirniadol. Rydw i’n wastad wedi ymddiddori mewn amrywioldeb ymddygiadau pobl a’r cwestiwn o ran beth sy’n ein gwneud yn ddynol, sef yr hyn y mae anthropoleg yn ymwneud ag ef.”
Er gwaethaf ei hansicrwydd academaidd, roedd gan Aria awch am wybodaeth, ac roedd hi am ddatblygu ei sgiliau ymchwil.
“Ers dechrau yn y brifysgol, rhoes fy mryd ar raddio gyda gradd dosbarth cyntaf ag anrhydedd, er mwyn profi i mi fy hun fy mod yn alluog er gwaethaf fy anawsterau dysgu. Roeddwn am herio fy hun a gallu tyfu fel person.”
Gydag arweiniad arbenigol a chefnogaeth ddiysgog timau academaidd a lles PCYDDS, a Nuala Davies ac Alastair Walter yn arbennig, datblygodd Aria’r sgiliau a’r hyder i weithio gyda’i ADHD yn hytrach nag yn ei erbyn. Ychwanega:
“Roedd eu cymorth yn anhepgor. Fe wnaethant fy helpu i gredu ynof fi fy hun, ac fe ddysgais strategaethau newydd i reoli fy nysgu mewn ffordd a oedd yn gweithio i mi.”
Drwy gydol ei gradd, archwiliodd Aria ystod eang o bynciau hynod ddiddorol a ddyfnhaodd ei dealltwriaeth o ddiwylliannau a systemau cred byd-eang. Ymhlith yr uchafbwyntiau yr oedd astudiaethau achos defodau Vodou Haitïaidd, metaffiseg Akanaidd, a defodau angladdol Tibetaidd a ddaliodd ei sylw deallusol a’i hysbrydoliaeth emosiynol.
Meddai Aria:
“Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu’n bersonol trwy wella fy hyder ynof fy hun a’m galluoedd. Rwy’n teimlo wedi fy ngrymuso i gyflawni unrhyw beth yr wyf yn rhoi fy meddwl arno.”
Bellach yn enillydd bwrsariaeth balch, mae cyraeddiadau Aria’n siarad drostynt eu hunain, ond mae hi’n bell o fod wedi gorffen. Mae hi’n bwriadu dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder troseddol, gyda ffocws ar gefnogi menywod sydd wedi profi cam-drin domestig. Mae’r mater yn un personol iawn i Aria, ac mae’n ymroddedig i greu effaith ystyrlon. Yn y pen draw, mae hi’n gobeithio dychwelyd i’r byd academaidd i ddilyn gradd Meistr a doethuriaeth o bosibl, gan ymchwilio i drais yn erbyn menywod a merched.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476