Ҵý

Skip page header and navigation

Yn ddiweddar bu myfyrwyr o’r rhaglen Technoleg Cerddoriaeth Greadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cydweithio â Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro i recordio dau fand roc a phop talentog.  Cynhaliwyd y sesiynau recordio cyffrous yn Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd yn  ystod hanner tymor mis Chwefror, gan roi cyfle unigryw i gerddorion ifanc sy’n gysylltiedig â Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro i recordio eu cyfansoddiadau gwreiddiol yn broffesiynol.

A student playing electronic drums.

Lansiwyd y fenter hon yn 2024 gan Max Griffiths tra’r oedd yn dal i fod yn fyfyriwr ar y rhaglen Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn PCYDDS.  Erbyn i’r digwyddiad gael ei gynnal, roedd Max wedi graddio, gan ddangos effaith barhaol prosiectau dan arweiniad myfyrwyr wrth feithrin profiadau dysgu arloesol ac ymgysylltu â diwydiant.

Meddai Dr David Bird, Darlithydd mewn Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn PCYDDS: “Roedd yn ysbrydoledig i weld cerddoriaeth yn cael ei chefnogi mewn ffyrdd arloesol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae cronfa dalent anhygoel yn dod i’r amlwg yn Sir Benfro, ac mae’n fraint i ni fod wedi recordio’r cerddorion hyn ar ddechrau eu gyrfaoedd cerddorol.  Hefyd cafodd ein myfyrwyr brofiad amhrisiadwy, gan wneud hwn yn gyfle cyffrous i bawb oedd yn rhan ohono.”

Meddai Miranda Morgan, Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfle i gydweithio â staff a myfyrwyr technoleg cerddoriaeth PCYDDS. 

“Roedd y diwrnod cyfan yn brofiad buddiol iawn i’n disgyblion sydd mewn ensemble roc a phop, a wnaeth nid yn unig fwynhau recordio eu gweithiau gwreiddiol ond a gafodd gipolwg hefyd ar dechnoleg cerddoriaeth a’r broses recordio.  Edrychwn ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol.”

Pwysleisiodd Philippa Roberts, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, effaith y profiad ar y cerddorion ifanc:

“Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro yn falch iawn o fod wedi partneru â PCYDDS. Roedd y profiad yn amhrisiadwy, ac fe wnaeth ein myfyrwyr elwa’n fawr o arbenigedd y tiwtoriaid a’r cerddorion medrus. Diolch yn arbennig i diwtoriaid cerdd Sir Benfro am eu hymroddiad a’u hanogaeth i feithrin ein darpar gerddorion roc.”

Mae cynlluniau ar waith i ddatblygu’r bartneriaeth gydweithredol hon ymhellach, gyda gweithdai ar y gweill a fydd yn canolbwyntio ar Dechnoleg Cerdd.  Nod y gweithdai hyn fydd ysbrydoli ac arfogi cerddorion ifanc â’r sgiliau technegol y bydd eu hangen arnynt i lywio’u ffordd trwy’r diwydiant cerddoriaeth sy’n esblygu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: d.bird@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon