PCYDDS yn cynnal gweithdy ar Robotiaid Sgerbwd Allanol Meddal a Gofal Iechyd Digidol
Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) weithdy arloesol, o’r enw ‘Robotiaid Sgerbwd Allanol Meddal a Gofal Iechyd Digidol’, gan ddod ag arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd i archwilio dyfodol technolegau adsefydlu.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Adeilad IQ y Brifysgol ar gampws SA1 Glannau Abertawe, ac roedd y digwyddiad yn nodi moment arwyddocaol mewn cydweithredu traws-sector gyda’r nod o gyd-ddylunio datrysiadau arloesol, sy’n canolbwyntio ar gleifion.
Dan arweiniad Dr Seena Joseph a Dr Tim Bashford o PCYDDS, roedd y gweithdy yn rhan o’r Prosiect Roboteg Sgerbwd Allanol Meddal, ymdrech gydweithredol a ariennir gan Rwydwaith Arloesi Cymru (WIN). Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd bartneriaid o Met Caerdydd (Dr Wai Keung Fu), Prifysgol De Cymru (Dr Leshan Uggalla) a’r Sefydliad Roboteg, Bwlgaria (Dr Tony Punnoose), i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu technolegau adsefydlu.
Ymgynullodd y gweithdy diwrnod llawn arweinwyr o feysydd roboteg a pheirianneg, gofal iechyd ac ymarfer clinigol, y byd academaidd a diwydiant, gan sbarduno deialog amlddisgyblaethol ar ddatblygu a chymhwyso robotiaid sgerbwd allanol meddal yn y byd go iawn ar gyfer adsefydlu. Ymhlith y mynychwyr roedd academyddion, ymchwilwyr, clinigwyr, arloeswyr, a dylanwadwyr polisi, wedi’u huno gan nod cyffredin: llunio technolegau gofal iechyd mwy effeithiol, hygyrch ac sy’n canolbwyntio ar bobl.
Dr Kapilan Radhakrishan, Cyfarwyddwr Academaidd (Cyfrifiadura Cymhwysol) PCYDDS, a gyflwynodd yr anerchiad croeso a rhoddodd drosolwg o’r prosiect. Dywedodd bod y gweithdy yn llwyfan gwerthfawr i gyflwyno’r prosiect a gosod y llwyfan i archwilio syniadau ymchwil newydd ac i danio gwaith cydweithredol ystyrlon gydag arbenigwyr ar draws disgyblaethau ym maes iechyd robotig meddal a digidol.
Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru y Brifysgol a agorodd y digwyddiad: “Cydweithio yw’r gair cyffrous, ac mae’n bwysicach nag erioed. Yn y dirwedd gymhleth, sy’n newid yn gyflym sydd ohoni, mae gweithio gyda’n gilydd ar draws disgyblaethau a sectorau yn hanfodol i yrru arloesi a chyflawni canlyniadau ystyrlon. Mae’r gweithdy hwn yn enghraifft berffaith o sut y gall dod ag arbenigwyr o’r byd academaidd, diwydiant a gofal iechyd at ei gilydd sbarduno syniadau newydd. Rydym yn falch o gynnal digwyddiad mor effeithiol a blaengar.â€
Uchafbwyntiau’r Gweithdy
Roedd y gweithdy yn cynnwys cyfres o sgyrsiau cymhellol ac arddangosiad byw o brototeip robot sgerbwd allanol meddal ar gyfer adsefydlu strôc a ddatblygwyd gan Dr Tony Punnoose (Sefydliad Roboteg, Bwlgaria), un o aelodau’r tîm.
Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:
Dr Fatma Layas a Dr Yajie Zhang (ATiC) yn cyflwyno dulliau gwerthuso cynnyrch sy’n canolbwyntio ar bobl mewn gofal iechyd.
Cyflwynwyd “Trosolwg Gofal Iechyd Digidol†gan Dr. Tim Bashford, un o drefnwyr y gweithdy. Rhoddodd ei gyflwyniad safbwynt eang ar rôl esblygol technolegau digidol mewn gofal iechyd, gan osod yr olygfa ar gyfer trafodaethau’r diwrnod ac amlygu cyfleoedd ar gyfer arloesi a chydweithio.
Dr Wai Keung Fung (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd) un o’r cyd-drefnwyr yn amlinellu egwyddorion dylunio craidd Sgerbydau Allanol Meddal.
Cyflwynodd Dr Gokul Kandaswamy (GIG Cymru) sgwrs gyffrous ar sut mae technolegau robotig yn trawsnewid gofal cleifion, gan sbarduno trafodaethau ystyrlon, ac ysbrydoli syniadau ar gyfer gwaith cydweithredol yn y dyfodol.
Dr Udayanga Galappaththi, partner diwydiant o Far UK Ltd, yn archwilio integreiddio deunyddiau cynaliadwy mewn sgerbydau allanol dwylo robotig.
Cafwyd cyflwyniad gan Dr Seena Joseph ar “Tueddiadau Diweddar mewn Sgerbydau Allanol Robotig Meddal: Mewnwelediadau o Adolygiad Llenyddiaeth Systematig,†gan gynnig trosolwg cynhwysfawr o ddatblygiadau ymchwil byd-eang, technolegau sy’n dod i’r amlwg, a chyfeiriadau’r dyfodol yn y maes.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill roedd y cyflwyniad gan nifer o arbenigwyr: Cyflwynodd yr Athro Eggbeer, Dominic o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd gyflwyniad ar effaith prif ddefnyddwyr ac argraffu 3D ar ddatblygu technoleg chwaraeon addasol, tra rhannodd Dr Rajan Prasad, o Brifysgol Khalifa, Abu Dhabi, ddyluniadau arloesol seiliedig ar efelychiadau ar gyfer sgerbydau allanol sy’n cael eu gyrru gan gebl, gan gynorthwyo adferiad cerddediad ar ôl strôc.
Arddangosiad prototeip byw gan Dr Tony Punnoose (Sefydliad Roboteg, Bwlgaria), yn arddangos robot sgerbwd allanol meddal dwyochrog ar gyfer adsefydlu strôc. Pwysleisiodd bwysigrwydd symud ymdrechion ymchwil tuag at ddatblygu systemau robotig cyfochrog ar raddfa fach, hawdd eu defnyddio y gall cleifion eu cymryd gartref, gan alluogi adsefydlu mwy cyson, hygyrch ac effeithiol y tu hwnt i’r lleoliad clinigol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth banel egnïol, wedi’i chanoli gan Dr Fung, gyda phanelwyr yn plymio i gymwysiadau ymarferol, ystyriaethau moesegol, a chyfeiriadau ymchwil yn y dyfodol ar gyfer datrysiadau robotig meddal mewn cyd-destunau iechyd. Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad, dywedodd:
“Gwnaeth canoli’r drafodaeth banel fy atgoffa nad yw dyfodol adsefydlu yn ymwneud â pheiriannau clyfrach yn unig - mae’n ymwneud â chydweithrediad dyfnach rhwng peirianwyr, clinigwyr, a defnyddwyr i gyd-greu technolegau sydd wir yn grymuso defnyddwyr.â€
Adfyfyriodd sawl aelod o’r panel ar y gweithdy, gan bwysleisio gwerth cydweithredu rhyngddisgyblaethol a dyfodol addawol technolegau robotig meddal:
Dywedodd DR Tony Punnoose Valayil:
“Mae robotiaid cyfochrog yn cynnig manteision sylweddol o ran adsefydlu ar ôl strôc gyda’u manwl gywirdeb ac oherwydd eu bod yn fach. Yn ystod y gweithdy, pwysleisiais bwysigrwydd datblygu systemau robotig cyfochrog hawdd eu defnyddio y gall cleifion eu cymryd adref, gan wella hygyrchedd a chysondeb mewn adsefydlu.â€
Dr Federico Colecchia (Prifysgol Brunel):
“Roedd y gweithdy ‘Soft Exoskeleton Robots and Digital Health Care’ wedi’i drefnu’n dda iawn a rhoddodd gyfle gwych i ymgysylltu ag arloeswyr gofal iechyd o’r DU a thu hwnt. Mae’r trafodaethau ysgogol eisoes wedi sbarduno syniadau newydd ar gyfer partneriaethau ymchwil moesegol ac effeithiol. Roedd yn anrhydedd cyfrannu at banel mor ddeinamig.â€
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn rhwydweithio gynhyrchiol, wedi’i hwyluso gan Dr Leshan Uggalla (Prifysgol De Cymru) o dîm y prosiect. Rhoddodd y sesiwn hon gyfle gwerthfawr i fynychwyr gysylltu, cyfnewid syniadau, a meithrin cysylltiadau cydweithredol posibl mewn amgylchedd hamddenol a diddorol.
Nid yn unig y gwnaeth y gweithdy atgyfnerthu ymrwymiad PCYDDS i feithrin ymchwil rhyngddisgyblaethol ac arloesi yn y byd go iawn ond hefyd tanlinellodd ei huchelgais i wasanaethu fel canolbwynt ar gyfer deialog arloesol sy’n siapio dyfodol gofal ac adsefydlu.
Dywedodd Dr Seena Joseph, trefnydd y gweithdy:
“Rwy’n falch o fod wedi arwain trefnu’r gweithdy llwyddiannus hwn ochr yn ochr â’m tîm prosiect ymroddedig, gan ddod ag arbenigwyr blaenllaw o’r byd academaidd, diwydiant a gofal iechyd at ei gilydd. Mae’r trafodaethau deinamig a’r ysbryd cydweithredol eisoes wedi ysbrydoli mentrau ymchwil newydd addawol. Mae llwyddiant y gweithdy yn adlewyrchu ymdrechion cydweithredol tîm y prosiect a’r gefnogaeth weinyddol ardderchog a ddarparwyd gan Nicola Powell (PCYDDS). Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad hwn yn un effeithiol.â€
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil PCYDDS ym maes iechyd a pheirianneg ddigidol, neu i gymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol yn y dyfodol, ewch i:
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071