Pobl, Natur ac Iachusrwydd … Rydym ni i gyd yn un!
Yn y darn meddwl hwn, mae James Moore o Ganolfan Arloesi Cymdeithasol PCYDDS yn gosod gweledigaeth feiddgar: nid yw pobl, natur ac iachusrwydd yn bethau ar wahân, maen nhw’n un. Gan dynnu ar ymchwil, effaith yn y byd go iawn, ac ymrwymiad dwfn i’r gymuned, mae’n ein herio i ailfeddwl sut rydyn ni’n byw, yn symud ac yn cysylltu. Mae’n alwad i weithredu sydd wedi’i gwreiddio mewn lle, pwrpas, a’r gred bod gwir lesiant yn dechrau gydag ailddarganfod ein cyswllt â’r byd naturiol.

Credaf ei bod yn bwysig, yn wir yn hanfodol, i brifysgolion fod wrth galon eu cymunedau lleol wrth helpu i lunio dyfodol gwell i bawb. Mae bod ag ymdeimlad o iachusrwydd ac ymdeimlad o le yn ein hardal yn gysylltiedig â’n ffordd o fyw, ein cynefin.
Ceir tystiolaeth gynyddol, wrth i fodau dynol esblygu tuag at amgylcheddau “modern” tra rheoledig, ein bod yn aml wedi colli ein cysylltiad â’r hyn sy’n ein gwneud ni’n hapus ac yn iach. Ar yr un pryd, rydym wedi niweidio’r union eco-systemau sy’n hanfodol i’n hiachusrwydd. Rydym yn parhau i weithio’n galed i helpu i gefnogi a herio pobl, cymunedau a sefydliadau i ddysgu a gwneud pethau’n wahanol. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy ddefnyddio tystiolaeth, rhannu straeon ac yna helpu i greu lle i bobl arbrofi a “mynd allan i’r awyr agored a symud!”
Gwyddom ein bod ni’n teimlo’n well pan rydyn ni ym myd natur, yn enwedig pan fyddwn yn egnïol ac yn talu sylw i rywbeth. Mae hyn yn amlwg gan mai dyma yw ein cyflwr a’n gofod naturiol. Rydym wedi esblygu o’r rhythmau beunyddiol o olau a thywyllwch, gan ddeall sut mae ein hamgylchedd lleol yn darparu dŵr, bwyd a lloches, a thrwy symud. Mae ymchwil wedi dangos ein bod yn arfer symud tua 20 km y dydd ar gyfartaledd trwy isdyfiant trwchus wrth chwilio am fwyd. Rhai dyddiau, byddem yn symud tua 40km. Dyma pryd y datblygodd ein cyrff a’n hymennydd ar eu cyflymaf. Mae ein cyflwr mwyaf iach yn ail-greu hyn. Mae eistedd yn llonydd dan do a bwyta bwyd wedi’i brosesu yn wael i ni; mae talu sylw i natur a bod yn egnïol ym myd natur yn dda i ni!
Ceir ymchwil cynyddol sy’n dangos hyn. Mae treulio o leiaf 20 munud mewn unrhyw amgylchedd natur lleol bob dydd yn rhoi gwell iechyd corfforol a meddyliol i ni (White et al, 2019) gan ei fod yn lleihau ein tocsinau, yn ailgyflenwi ein hegni ac yn adeiladu ein gwytnwch. Mae symud yn helpu i leihau gorbryder a chynhyrchu proteinau BDNF (gwrtaith yr ymennydd), felly rydym yn teimlo ac yn meddwl yn well (Medina, 2009). Mae gan blant sy’n treulio amser ym myd natur ordewdra is na’r rhai sy’n treulio mwy o amser dan do. Mae pobl sy’n treulio amser ym myd natur yn fwy tebygol o deimlo’n gysylltiedig â’u cymuned ac yn llai tebygol o gyflawni trosedd. Mae amser ym myd natur yn arwain at well cydlyniant cymunedol, yn lleihau unigrwydd, ac yn cynyddu iechyd cymunedol. Po fwyaf yw bioamrywiaeth yr ardal, y gorau yw’r canlyniadau iechyd i bobl sy’n byw yno. Mae bod ym myd natur yn ein helpu i fod yn garedig i ni ein hunain, yn fwy caredig i eraill ac yn fwy caredig i’n hamgylcheddau (Ryan, 2010).
Yn Cynefin, Hwb Iechyd Gwyrdd PCYDDS, rydym yn cefnogi (ac yn herio!) pobl a chymunedau i symud o fewn eu byd natur lleol a sylwi ar natur yn fwy. Gyda chefnogaeth Cyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym yn darparu lleoliad i bartneriaid lleol i ddarparu mwy o wasanaethau ym myd natur ochr yn ochr â’n cynigion natur/ iachusrwydd ein hunain. Mae’r ystod o weithgareddau yn cynnwys y canlynol:
- Mae Tara Crank, ein myfyrwraig PhD sy’n ymgymryd ag astudiaethau unigryw yn fyd-eang, yn helpu i ddeall beth yw’r ffordd orau y gallwn alinio technoleg ddigidol ag ymwybyddiaeth o natur i greu gwell iachusrwydd.
- Cefnogi pobl Castell-nedd Port Talbot i dreulio mwy o amser yn eu byd natur lleol, a’i ddeall a’i garu’n fwy drwy brosiect Gweithio gyda Natur y Bartneriaeth Natur Leol.
- Rydym wedi hwyluso 73 o Deithiau Cerdded ym myd Natur ar gyfer 952 o bobl yng nghymunedau CNPT.
- Fe wnaethom gefnogi ysgolion a grwpiau cymunedol lleol (gan gynnwys hyfforddi 40 o bobl i deimlo’n hyderus a gallu helpu eraill i fod ym myd natur).
- Rydym hefyd wedi darparu rhaglen Arweinyddiaeth Natur Gymunedol unigryw ar gyfer 49 o bobl leol fel bod ganddynt y sgiliau a’r hunan-gred i helpu eraill i garu eu byd natur lleol yn fwy.
Gwyddom fod hyn yn gwneud gwahaniaeth! Dywedodd pob cyfranogwr eu bod yn teimlo’n fwy iachus ac y byddant yn treulio mwy o amser ym myd natur. Rydyn ni eisiau gwneud mwy! Mae ein Canolfan Arloesi Cymdeithasol yn bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac mae eisoes yn darparu’r ffocws a’r ysgogiad i’n helpu i herio “sut rydyn ni’n gwneud pethau” a chefnogi pobl i roi cynnig ar wahanol bethau er mwyn i ni fod yn fwy iachus. Mae ein stori’n mynd yn fyd-eang. Rydym wedi bod yn falch iawn o’i rhannu yn arddangosfa ddiweddar y World Expo yn Japan.
Ein hegwyddor arweiniol sy’n ein hysgogi yw’r ddealltwriaeth bod llesiant pobl a natur wedi’i gysylltu’n ddwfn trwy gryfder ein perthynas â’r ddau.”
Rydym yn gyffrous i chwarae ein rôl dros ein planed, a ni ein hunain, i fod yn fwy iach!
Gwyliwch ein fideo a chael eich ysbrydoli:
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476