Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu llwyddiant myfyrwyr yn Seremoni Graddio Llambed
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o groesawu diwrnod o ddathlu heddiw (11 Gorffennaf) wrth i Ddosbarth 2025 ddod ynghyd ar gampws Llambed i nodi uchafbwynt eu teithiau academaidd.

Mae’r seremoni raddio yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr, gan roi cyfle i gymuned gyfan y Brifysgol anrhydeddu eu cyflawniadau trawiadol.
Mynegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, arwyddocâd yr achlysur: “Mae graddio yn rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu a ffrindiau.
Graddedigion, dechreuoch chi eich taith academaidd mewn byd llawn cymhlethdod a newid, ac rydych chi wedi dangos gwydnwch, penderfyniad ac ysbryd gwych drwy gydol eich astudiaethau. Gobeithio eich bod chi mor falch o’ch cyflawniadau ag yr ydym ni ohonoch chi.”
I’r rhai sy’n methu mynychu’n bersonol, mae Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ffrydio byw o’r seremoni ar wefan y Brifysgol.
Ymunwch â ni i ddathlu taith a llwyddiant anhygoel Dosbarth 2025 Y Drindod Dewi Sant!
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076