Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn llawn cyffro wrth i ddosbarth 2025 ddathlu eu graddio (15 a 16 Gorffennaf) yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Brangwyn Hall stage for graduation 2025

Mae’r seremonïau hyn yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr, gan roi cyfle i gymuned gyfan y Brifysgol anrhydeddu eu cyflawniadau nodedig.

Mynegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, arwyddocâd yr achlysur: “Mae graddio yn rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu a ffrindiau.

Graddedigion, dechreuoch chi eich taith academaidd mewn byd llawn cymhlethdod a newid, ac rydych chi wedi dangos gwydnwch, penderfyniad ac ysbryd gwych drwy gydol eich astudiaethau. Gobeithio eich bod chi mor falch o’ch cyflawniadau ag yr ydym ni ohonoch chi.”

Mae’r dathliadau’n para dau ddiwrnod, gyda seremonïau ar 15 a 16 Gorffennaf, gan nodi achlysur llawen i raddedigion, eu teuluoedd, a chymuned gyfan y Brifysgol. I ychwanegu at y dathliadau, bydd y Brifysgol yn cyflwyno Gwobr Anrhydeddus i Dr Chantal Lockey BEM yn ystod y drydedd seremoni ar 16 Gorffennaf am 2:30pm.

I’r rhai na allant fynychu’n bersonol, mae’r Brifysgol yn cynnig darlledu byw o bob seremoni:

Graddio Prifysgol Cymru, Abertawe 2025 – Seremoni 1

Graddio Prifysgol Cymru, Abertawe 2025 – Seremoni 2

Graddio Prifysgol Cymru, Abertawe 2025 – Seremoni 3

 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon