Prifysgolion yn cydweithio i gefnogi dysgu proffesiynol mewn ysgolion
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Aberystwyth wedi llofnodi cytundeb partneriaeth a fydd yn gweld y ddwy brifysgol yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion.

Bydd y bartneriaeth strategol hon yn canolbwyntio ar ddarparu datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion, gyda phwyslais cryf ar ddylunio cwricwlwm a chefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae’r cytundeb yn rhan o ymrwymiad y ddwy brifysgol i gefnogi ysgolion wrth iddynt lywio diwygiadau addysgol parhaus, yn enwedig y rhai sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
Drwy gydweithio, bydd y prifysgolion yn cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol wedi’u teilwra i glystyrau o ysgolion sy’n tynnu ar eu harbenigedd ymchwil a’u harweinyddiaeth addysgol gyfunol.
Dywedodd yr Athro Elwen Evans CB, Is-Ganghellor PCYDDS:
“Mae’r bartneriaeth hon yn manteisio ar ein cryfderau sylweddol mewn addysg sy’n seiliedig ar ymchwil wrth gryfhau ymhellach ein cysylltiadau ag addysgwyr.
“Mae wedi’i hadeiladu ar weledigaeth yr ydym ni’n ei rhannu ar gyfer dysgu proffesiynol ar draws y rhanbarth, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a bydd yn ein galluogi ni i gefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ddatblygu cwricwla cynhwysol ac arloesol er budd dysgwyr.â€
Bydd y rhaglenni dysgu proffesiynol yn cael eu cyd-gynllunio gydag ysgolion a’u cyflwyno o fewn clystyrau lleol, gan sicrhau dull cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n mynd i’r afael â heriau go iawn yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Wrth i’r cwricwlwm cenedlaethol newydd wreiddio yn ein hysgolion ledled Cymru, bydd gan y bartneriaeth newydd hon rôl bwysig wrth gefnogi’r proffesiwn addysgu. Rydym ni’n cydnabod grym a photensial cydweithio fel sefydliadau addysg uwch. Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar ein gwaith cydweithredol presennol ac yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd lle mae gennym ni arbenigedd sy’n cyd-weddu, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
“Ein gweledigaeth ar gyfer Aberystwyth yw fel prifysgol sy’n newid bywydau er gwell - tyfu gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru. Mae’r bartneriaeth newydd hon yn cyd-fynd yn dda â’r agenda honno.â€
Mae’r model a’r cynlluniau dysgu proffesiynol eisoes yn cael eu rhannu gydag ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae ymgysylltu pellach wedi’i gynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, gyda’r bwriad o gyflwyno’r sesiynau dysgu proffesiynol dylunio cwricwlwm cyntaf i glystyrau o ysgolion yn nhymor yr hydref.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;01267&²Ô²ú²õ±è;676790