Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD), mewn partneriaeth â Phrifysgol Glasgow, wedi derbyn dros £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Cymorth Grant Cwricwlwm i Gymru.

Dr Sonny Singh, Prif Ymchwilydd PCYDDS, yn siarad â grŵp o bobl yn y gweithdy 'Camau i'r Dyfodol' a gynhaliwyd gan PCYDDS yn gynharach eleni.

Bydd y wobr yn ariannu prosiect arloesol sy’n anelu at gefnogi addysgwyr ar draws ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig i weithredu Cwricwlwm Cymru.

Mae ‘Partneriaethau Dylunio Cwricwlwm: creu dysgu i Gymru (CFWGSP-49)’ yn mabwysiadu dull cydweithredol o ddatblygu gwybodaeth broffesiynol am lunio cwricwlwm, dilyniant ac asesu.

Bydd y prosiect yn cefnogi datblygiad ‘eraill gwybodus’ o fewn clystyrau ysgolion trwy weithio gydag ymarferwyr i ddatblygu dulliau prosesu ar gyfer creu gwersi, addysgeg ystafell ddosbarth a ffyrdd o asesu a fydd yn cefnogi eu dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Bydd deunyddiau cymorth hefyd yn cael eu creu sy’n rhannu arfer ac yn helpu i ddatblygu capasiti ar draws y system ehangach.

Dywedodd yr Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymroddiad i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac addysgwyr ledled y wlad. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd i wneud cyfraniad ystyrlon at ddyfodol addysg yng Nghymru.”

Dywedodd Jeremy Smith, Deon Addysg a’r Dyniaethau:

“Rydym wrth ein bodd yn adeiladu ymhellach ar y corff sylweddol o waith yr ydym wedi’i wneud mewn perthynas â’r Cwriclwlwm i Gymru dros y saith mlynedd diwethaf. Gyda’n partneriaid ym Mhrifysgol Glasgow, mae gan ein hymchwilwyr-addysgwyr ddealltwriaeth unigryw gynhwysfawr o’r Cwricwlwm i Gymru ac, yn hollbwysig, sut mae’n cael ei weithredu a’i ddeall mewn ysgolion. Mae’r cyfle newydd hwn i dynnu ar yr arbenigedd hwnnw i gynnig cefnogaeth ymarferol ar lefel yr ystafell ddosbarth i ysgolion fel rhan o’r rhaglen grant hon yn fraint wirioneddol.”

Dywedodd Dr Sonny Singh, Arweinydd Prosiect yn Y Drindod Dewi Sant:

“Rydym wrth ein bodd yn rhan o’r fenter gyffrous hon i gefnogi gwireddu Cwricwlwm Cymru. Bydd ein prosiect yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr i greu dulliau ystyrlon, sy’n seiliedig ar ymarfer, ar gyfer dylunio cwricwlwm sy’n adlewyrchu cyd-destunau amrywiol ysgolion ledled Cymru. Trwy gydweithio a deialog broffesiynol, ein nod yw adeiladu cymuned gref o addysgwyr a all arwain ac ysbrydoli newid o’r tu mewn.”

Bydd ymarferwyr yn y prosiect yn ffurfio timau dylunio cwricwlwm, yn cymryd rhan mewn gweithdai a sesiynau cyfnos ac yn cael eu cefnogi gan ymweliadau ysgol i ddatblygu dulliau cynaliadwy a pherthnasol yn lleol ar gyfer dylunio cwricwlwm. Mae’r prosiect yn benodol yn meithrin gallu’r rhai sy’n cymryd rhan i gefnogi eraill yn y system i ddatblygu’r ffyrdd hyn o weithio y tu hwnt i oes y prosiect.

Dywedodd Dr David Morrison-Love a Dr Kara Makara Fuller, Arweinwyr Prosiect ar y Cyd ym Mhrifysgol Glasgow: “Mae’n fraint parhau i weithio gydag athrawon yng Nghymru wrth iddynt barhau i ysbrydoli’r hyn sy’n bosibl i blant a phobl ifanc mewn ysgolion ac ystafelloedd dosbarth ledled y wlad. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwahodd newid mewn meddwl ac ymarfer, a gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn darparu’r lle a’r gefnogaeth ymarferol i athrawon o bob sector ddatblygu gwybodaeth, hyder a sicrwydd fel llunwyr cwricwlwm yn eu hysgolion a’u lleoliadau eu hunain.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i /research/camau-ir-dyfodol neu cysylltwch â thîm y prosiect yn uniongyrchol yn Designpartnerships@UWTSD.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon