Rhaglen BA Dawns Fasnachol Y Drindod Dewi Sant yn arddangos talent mewn Digwyddiad DanceXperience Llwyddiannus.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddiwrnod o weithdai dawns a drefnwyd gan y Rhaglen BA Dawns Fasnachol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Haywood ar gampws y Brifysgol yng Nghaerdydd, bu myfyrwyr yn gweithio tuag at greu digwyddiad yn rhan gyntaf y flwyddyn academaidd gan ddatblygu eu sgiliau ym maes rheoli a marchnata’r celfyddydau. DanceXperience yw penllanw’r gwaith hwn, ac mae’n darparu cyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Eleni, roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant megis Amber Howells, Wallis Pipe, a Nina Hayward. Rhannodd pob artist ei arbenigedd, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion newydd ar gyfer eu ffilmiau arddangos. Roedd y myfyrwyr yn teimlo bod y digwyddiad yn hynod werthfawr. Meddai Casey Bowen:
“Rhoddodd gip i mi ar lawer o wahanol arddulliau dawns ac fe fwynheues i weithio gyda’r holl wahanol ddawnswyr proffesiynol”.
Ychwanegodd y fyfyrwraig Elinor Morgan:
“Fe fwynheues i weithio gyda’r holl artistiaid proffesiynol a dysgu llawer o wybodaeth werthfawr. Roedd e’n ddiwrnod gwych!”
Meddai Rheolwr Rhaglen BA Dawns Fasnachol y Drindod Dewi Sant, Tori Johns:
“Fe wnaeth ein myfyrwyr BA Dawns Fasnachol greu a chynnal y digwyddiad hwn yn rhan o fodwl ar y cwrs sy’n canolbwyntio ar reoli a marchnata digwyddiadau, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn ein llwyddiant DanceXperience eleni. Roedd e’n ddiwrnod dwys o weithdai, ac aeth ein myfyrwyr ni ati â’u holl egni i greu darnau gwych. Eleni, rydyn ni’n gyffrous iawn ein bod ni wedi mynd â’r prosiect ymhellach trwy ddarparu recordiad fideo i greu ffilmiau arddangos i fyfyrwyr eu cynnwys yn eu portffolio o ddeunyddiau hyrwyddo.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen BA Dawns Fasnachol yn PCYDDS, ewch i: Dawns Fasnachol (Amser Llawn) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476