Rhannu taith o wytnwch, angerdd dros hedfan a theithio, a phwysigrwydd Prentisiaethau Gradd
Mae taith addysgol Heather Came, Prentis Gradd BEng Peirianneg Fecanyddol sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn adlewyrchu grym dyfalbarhad, y gallu i addasu, a gwerth cyfuno profiad yn y byd go iawn ag astudiaethau academaidd.

Yn wreiddiol o Ddyfnaint ac yn un o gyn-fyfyrwyr Ysgol Ramadeg Merched Torquay, darganfu Heather yn gynnar mai’r ffordd fwyaf effeithiol iddi ymgysylltu ag addysg oedd trwy ddysgu ymarferol.
Arweiniodd hyn ati’n dilyn prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Awyrennau gyda Flybe, a helpodd i danio ei hangerdd dros hedfan. Yn anffodus, yn sgil pandemig Covid-19 aeth Flybe i ddwylo’r gweinyddwyr, gan ddod â’i phrentisiaeth i ben yn sydyn ar Ă´l dim ond saith mis.
Dychwelodd Heather i Goleg Exeter i ymestyn ei diploma peirianneg tra hefyd yn dod yn weithiwr allweddol i’r GIG. Yn ystod y cyfnod hwn y cyflwynodd sgwrs gyda’i thiwtor hi i’r cyfleoedd unigryw sydd ar gael yn PCYDDS : astudio ar gyfer prentisiaeth gradd.
Mae prentisiaethau gradd yn ddewis arall i astudiaethau prifysgol traddodiadol sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae’r cynlluniau hyfforddi seiliedig ar waith yn galluogi myfyrwyr i gael profiad byd go iawn yn y gweithle ac ennill cyflog, tra’n gweithio ar yr un pryd tuag at gymhwyster gradd ar Ă´l cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
Wedi’i hysgogi gan y cyfle hwn, symudodd Heather i Dde Cymru a dywed nad yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae Heather yn canmol y brentisiaeth gradd am ei helpu i sicrhau swydd newydd gyda British Airways, y bydd yn dechrau fis nesaf.
“Mae’r bartneriaeth rhwng y gweithle a’r brifysgol yn wych,” meddai. “Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio, a gall prosiectau fod yn seiliedig ar dasgau bywyd go iawn o’n swyddi, sy’n caniatáu ar gyfer dysgu ymarferol a hyblygrwydd.”
Un o nodweddion amlwg y rhaglen yw’r cymorth a ddarperir gan y brifysgol. “Mae gennym Swyddog Cyswllt Prentisiaid, pwynt cyswllt clir, ac rydyn ni’n derbyn rhybudd ymlaen llaw o arholiadau a darlithoedd, gan ei gwneud hi’n haws rheoli gwaith ac astudiaethau,” meddai Heather.
Ar Ă´l gweld rhewi recriwtio’r diwydiant hedfan yn sgil y pandemig, dywedodd Heather ei bod hi wedi ystyried ei hastudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant yn fodd o ddiogelu ei gyrfa ar gyfer y dyfodol.
“Roeddwn i eisiau cael y wybodaeth a’r sgiliau fel y byddwn i’n barod pan fyddai’r cyfle i ddychwelyd i hedfan yn codi. Fy nod oedd cerdded allan gyda chymhwyster a phrofiad yn y byd go iawn i’m gwneud i’n fwy cyflogadwy — a bellach rwy bellach wedi cyflawni hynny.”
Un o uchafbwyntiau mwyaf y cwrs i Heather fu meithrin cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol o’r un anian ar draws amrywiol ddiwydiannau. “Rydyn ni’n dod o wahanol gefndiroedd, ac mae’r amrywiaeth honno’n golygu ein bod ni’n dod â llawer o wahanol safbwyntiau ac arbenigedd i’r ystafell ddosbarth. Mae wedi bod yn ffordd wych o ddysgu,” ychwanegodd.
Mae hi hefyd yn pwysleisio iddi gael budd mawr o gyfleusterau’r brifysgol, sydd o’r radd flaenaf. “Mae offer y labordy wedi creu argraff arbennig arna i - mae popeth o beiriannau argraffu 3D i dechnoleg robotig wedi gwneud y dysgu’n llawer mwy cyffrous.”
Y tu hwnt i’w chyflawniadau academaidd, mae Heather yn deithwraig frwd sydd wedi gwarbacio ar ei phen ei hun trwy dde-ddwyrain Asia a De America. Mae ei theithiau i leoedd megis Gwlad Thai, Periw a Brasil nid yn unig wedi bod yn brofiadau sydd wedi agor eu llygad ond maen nhw hefyd wedi llunio ei phersbectif ar fywyd.
“Mae teithio yn agor y drws i gwrdd â phobl anhygoel ddi-ri o gefndiroedd amrywiol, a phob un â’i safbwyntiau unigryw a’i straeon bywyd ei hun. Gall ymgysylltu â phobl leol a chyd-deithwyr fel ei gilydd arwain at gyfeillgarwch annisgwyl ac eiliadau bythgofiadwy. Mae’r rhyngweithiadau hyn nid yn unig yn cyfoethogi eich taith ond hefyd yn ehangu eich bydolwg, gan eich galluogi chi i werthfawrogi harddwch gwahanol ddiwylliannau a ffyrdd o fyw.
“Mae cychwyn ar eich anturiaethau teithio eich hun yn ffordd sicr o roi hwb i’ch hyder. Mae llywio lleoedd anghyfarwydd, goresgyn heriau, a chamu y tu allan i’ch parth cysur yn cyfrannu at dwf personol. Mae pob profiad, boed yn archwilio adfeilion hynafol, blasu bwydydd egsotig, neu ddod o hyd i’ch ffordd trwy farchnad brysur, yn ychwanegu at blethwaith eich bywyd ac yn creu atgofion a fydd yn para am oes.
“Mae teithio wedi ehangu fy mydolwg ac wedi rhoi hwb i’m hyder. Mae’n rhywbeth rwy’n ei argymell i bawb.”
Wrth iddi symud yn Ă´l i’r diwydiant hedfan erbyn hyn, mae Heather yn gyffrous i barhau i ddilyn ei brwdfrydedd. “Rwy’n falch iawn o ailymuno â’r sector hedfan a gweithio tuag at fy nhrwyddedau cynnal a chadw awyrennau. Mae’r cymorth a ges i gan Y Drindod Dewi Sant wedi fy ngalluogi i gyflawni’r hyn oedd yn ymddangos yn amhosib i mi ar un adeg — sicrhau swydd gyda chwmni fy mreuddwydion yn gynnar yn fy ngyrfa.”
Mae ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol hefyd yn cynnwys mwy o anturiaethau dramor, a Phatagonia, Seland Newydd, a Kilimanjaro yn uchel ar ei rhestr, ochr yn ochr ag archwilio harddwch y DU trwy brosiectau gwersylla a faniau wedi’u trawsnewid.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07384&˛Ô˛ú˛ő±č;467071