Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi Abertawe Greadigol, rhwydwaith sydd newydd ei sefydlu ar gyfer gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n gweithio ar draws y ddinas, gan ddod â busnesau sefydledig a gweithwyr llawrydd ynghyd ochr yn ochr â busnesau newydd a darpar weithwyr proffesiynol creadigol.

A group of people sat in a line in front of an audience.

Cynhaliwyd y lansiad yn Arena Abertawe ar 26 Medi gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant creadigol a’r sector diwylliannol ar gyfer trafodaeth banel ar sut i gynnal a thyfu’r sector creadigol ar draws ardal teithio i’r gwaith Abertawe. 

Mae Abertawe Greadigol yn cael ei hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’i chefnogi gan wasanaethau diwylliannol o fewn Cyngor Abertawe. Ymhlith y siaradwyr mae cynrychiolwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, The Bunkhouse, Oriel Elysium, Zygo Media, Tramshed Tech, Grand Ambition, tîm adfywio Cyngor Abertawe a Choleg Gŵyr, yn ogystal â’r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Joe David Evans a Huw Williams , a weithiodd yn helaeth yn y diwydiant cerddoriaeth. Anogodd y panel ymagwedd gydweithredol at ddatblygu diwydiant creadigol.

Roedd y digwyddiad lansio yn rhan o gynllun hirdymor i sefydlu rhwydwaith creadigol yn Abertawe a’r cyffiniau. Bydd y rhwydwaith yn trefnu digwyddiadau rheolaidd ar gyfer trafodaethau, rhwydweithio, cyfleoedd cydweithio, sesiynau uwchsgilio, sgyrsiau a mwy.

Caroline Thraves Meddai , Cyfarwyddwr Celf a’r Cyfryngau: Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS, y coleg celf hynaf a mwyaf sefydledig yng Nghymru, yn rhoi llwyfan i artistiaid archwilio ac arloesi, gan gyfrannu at amrywiaeth ddiwylliannol a chadw treftadaeth artistig. 

“Trwy feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid, rydym yn helpu i sicrhau bod y celfyddydau’n parhau’n fywiog ac yn adlewyrchu’r naratifau cymdeithasol sy’n esblygu. 

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Abertawe Greadigol. Mae celf yn gysylltydd pwerus, sy’n dod â grwpiau amrywiol o bobl ynghyd, gan feithrin cydweithredu ar draws rhaniadau diwylliannol, hiliol ac economaidd-gymdeithasol. 

“Trwy berfformiadau, arddangosfeydd, a digwyddiadau cyhoeddus, gallwn greu profiadau a rennir sy’n cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn annog deialog ynghylch materion cymdeithasol pwysig.

“Mae’r diwydiannau creadigol yn sbardun sylweddol i’r economi fyd-eang. Mae ffilm, tecstilau, dylunio a chelfyddydau digidol yn cyfrannu biliynau at CMC mewn llawer o wledydd. Drwy gefnogi’r celfyddydau, gallwn helpu i feithrin talent sy’n bwydo i’r diwydiannau hyn, gan sicrhau arloesi a thwf economaidd parhaus. 

Mae graddedigion o’n rhaglenni creadigol yn aml yn dod yn entrepreneuriaid, gan ddechrau busnesau sy’n cynhyrchu swyddi a chyfalaf diwylliannol.”

Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Diwylliant Cyngor Abertawe, “Rydym wedi bod yn trafod y cyfle i sefydlu rhwydwaith Abertawe Greadigol gyda phartneriaid ac unigolion yn Abertawe a’r ardaloedd cyfagos ers peth amser, gan ddysgu o rwydweithiau tebyg eraill.  Mae’r rhwydwaith yn gyfle gwych i’r sefydliadau yn y rhanbarth a’r sector gydweithio ar bob lefel er lles pawb. Mae’n wych gweld y cyfan yn dod at ei gilydd diolch i’r cyllid a sicrhawyd, ac i weld ymroddiad a brwdfrydedd pawb sy’n gweithio i wneud i hyn ddigwydd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gweithwyr proffesiynol creadigol sefydledig a brwd i lansiad Abertawe Greadigol yn Arena Abertawe.”  

Meddai’r Cynghorydd Elliot King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, “Rydym eisoes yn gwybod bod Abertawe, CNPT a Sir Gaerfyrddin yn gweithredu fel hwb ar gyfer busnesau creadigol ac mae ganddynt gyfleoedd gwych i sefydliadau creadigol ddatblygu, buddsoddi a chynnig gyrfaoedd boddhaus i bobl dalentog sy’n dod i’r amlwg.  

“Drwy sefydlu rhwydwaith Abertawe Greadigol rydym yn gobeithio uno sefydliadau creadigol er mwyn gwella cydweithio ac ystyried opsiynau ar gyfer twf a datblygiad ar draws y sector. Amcangyfrifir bod y sector creadigol a diwylliannol yn cyfrannu dros £120 biliwn i economi’r DU ar hyn o bryd, a hoffem wrando ar yr hyn sydd ei angen ar y sector er mwyn iddo dyfu, gan annog mwy o fuddsoddiad yn y rhanbarth a chynnig mwy o yrfaoedd creadigol yma yn Ne-orllewin Cymru.” 

Meddai Nerys Evans, Rheolwr Strategol y Celfyddydau, Diwylliant a’r Economi Greadigol ac Arweinydd y Cyngor dros y fenter, “Mae’r digwyddiad lansio ‘Dyfodol Creadigol’ yn nodi’r dechrau yn unig ar gyfer rhaglen o drafodaethau panel, rhwydweithio a digwyddiadau gwella sgiliau. Rydym yn annog ymarferwyr, busnesau a gweithwyr proffesiynol creadigol brwd i gysylltu â ni i ddysgu rhagor am y rhwydwaith.” 

Yn dilyn lansio’r digwyddiad ar 26 Medi, cynhelir dwy sesiwn bellach.  

Cynhelir digwyddiad rhwydweithio Esports Cymru a CreaTech ar 24 Hydref yn XP Gaming Bar, gyda siaradwyr o Esports Cymru, Zygo Media, DragonfiAR, Prifysgol Abertawe, Cymru Greadigol a Chyngor Abertawe. Bydd gwesteion gwadd sy’n gyfarwydd â maes ffrydio, a bydd XP Gaming Bar yno hefyd, y disgwylir iddo ddod yr ail leoliad Esports Cymru ‘lleol’ yng Nghymru.  

Cynhelir yr ail ddigwyddiad eleni ar ddyddiad sydd i’w gadarnhau ym mis Tachwedd 2024 yn HQ Urban Kitchen, ar y cyd ag Urban Foundry, a bydd yn darparu’n arbennig ar gyfer busnesau creadigol newydd. Bydd cyngor ar gyllid yn cael ei rannu, gydag arweiniad wedi’i deilwra ar sut i gael gafael ar arian a sut i sefydlu busnes creadigol. Mae siaradwyr i’w cyhoeddi o hyd. 

I ymuno ag Abertawe Greadigol ac i gael rhagor o wybodaeth am y gyfres o ddigwyddiadau am ddim, ewch i  


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon