Steve Witherden AS: o Lambed i San Steffan
Pe baech chi wedi dweud wrth Steve Witherden pan oedd yn ifanc y byddai un diwrnod yn sefyll yn neuaddau San Steffan yn Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, efallai na fyddai wedi eich credu chi. Yn blentyn difrifol ddyslecsig, nid oedd yn gallu darllen nes ei fod yn 11 oed. Eto heddiw, mae’n eiriolwr angerddol dros ei etholwyr, gan gario gydag ef y gwersi gwytnwch, addysg a dyfalbarhad a luniodd ei daith.
Roedd yn awyddus i rannu ei brofiadau â’i hen brifysgol, a siaradodd am y rhwystrau a oresgynnodd, y bobl a’i cefnogodd, a sut y lluniodd y profiadau hyn ei benderfyniad i amddiffyn eraill.

Darganfod ei le yn Llambed
Wedi’i eni a’i fagu yn Llangollen, doedd ffordd Steve i’r brifysgol ddim yn un syml. “Doeddwn i ddim yn gallu darllen nes fy mod i’n 11,” meddai. “Roedd rhaid i mi fynd i uned arbennig i ddysgu. Felly, pan benderfynais fynd i’r brifysgol i astudio Llenyddiaeth Saesneg, roedd hynny’n ymddangos yn rhyfedd iawn i bobl. Athrawon ysbrydoledig fel Mrs Blake yn yr ysgol uwchradd a agorodd y byd hwnnw i mi a deffro fy nghariad at lenyddiaeth Saesneg.”
Pan ddaeth hi’n amser dewis prifysgol, cafodd ei ddenu at Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan – sef PCYDDS erbyn hyn - oherwydd ei lleoliad gwledig, ei awydd i aros yng Nghymru, ac enw da’r adran Llenyddiaeth Saesneg.
“Yn ystod fy nghyfweliad, pan ges i’r cyfle i drafod fy nyslecsia yn fanwl, roeddwn i’n gwybod mai hwn oedd y lle iawn,” esboniodd. “Gwaetha’r modd, yn y 90au roedd hi’n gyffredin iawn diystyru anableddau dysgu. Yn Llambed, dyma bobl yn gwrando arnaf a dweud wrthyf y byddwn i’n cael cefnogaeth trwy gydol fy astudiaethau. Roedd y lefel honno o dderbyniad a sicrwydd yn bwysig.”
Ffynnodd Steve yn Llanbedr Pont Steffan, gan fwynhau cymuned agos y campws a’r dref. Roedd maint bach y brifysgol yn fantais fawr, gan ei gwneud hi’n haws cael mynediad at wasanaethau cymorth a chreu perthynas gref â staff a chyd-fyfyrwyr. “Nid rhif mewn neuadd ddarlithio enfawr oeddwn i - roedd popeth yn teimlo’n fwy personol,” meddai.
Y tu allan i’w astudiaethau, chwaraeodd bêl-droed a rygbi a gweithiodd yng nghanolfan hamdden y brifysgol, gan ei wreiddio ei hun ymhellach yn y gymuned.
Angerdd am eiriolaeth
Nid oedd y daith o raddio i’r Senedd yn un uniongyrchol nac yn un syml. Ar ôl cwblhau ei radd mewn Llenyddiaeth Saesneg, penderfynodd Steve ddod yn athro ond wynebodd rwystr arall - llwyddo prawf cyfwerth â TGAU mathemateg i ddilyn ei TAR. “Fe wnes i fethu y tro cyntaf,” meddai. “Treuliais flwyddyn yn gweithio mewn ffatri argraffu, yn gwneud shifftiau nos a dosbarthiadau nos yn y coleg i wella fy sgiliau mathemateg.”
Talodd ei benderfyniad ar ei ganfed, ac ar ôl cymhwyso’n athro, dyma ei angerdd dros eiriolaeth yn ffurfio mewn gwirionedd. Cafodd foddhad o ysgogi a chefnogi myfyrwyr a oedd yn wynebu heriau tebyg iddo yntau, wrth ddarganfod hefyd hoffter naturiol o waith undebau llafur.
“Ymunais ag undeb athrawon NASUWT yn 2005, a thros amser, fe wnes i gymryd mwy o ran,” meddai. “Erbyn 2009, fi oedd cynrychiolydd yr ysgol. Yna des i’n ysgrifennydd negodi dros Wrecsam, gan weithio gyda’r pum undeb addysgu a’r cyngor. Dyna pryd y dechreuais i weld sut y gallwn i wneud gwahaniaeth.”
Camu i mewn i wleidyddiaeth
Roedd yn gam naturiol pan gododd y cyfle i sefyll yn ymgeisydd Llafur ar gyfer Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn 2024. “Roedd yn teimlo fel yr amser iawn,” esboniodd. “Roedd gen i flynyddoedd o brofiad yn ymladd dros hawliau pobl mewn addysg, ac roeddwn i’n gwybod y gallwn i fynd â’r profiad hwnnw a’i ddefnyddio gyda chynulleidfa ehangach.”
Nid oedd y trawsnewidiad heb ei heriau. Er nad oedd Steve yn ddieithr i eiriolaeth, roedd symud o gynrychioli athrawon i gynrychioli etholaeth gyfan yn brofiad newydd. “Roedd e’n waith dwys, ond hefyd yn fuddiol dros ben,” meddai. “Roedd curo ar ddrysau, siarad â phleidleiswyr, a chlywed eu pryderon yn uniongyrchol yn atgyfnerthu pam roeddwn i eisiau bod mewn gwleidyddiaeth i ddechrau.”
Roedd neges Steve o degwch, cyfle, a gwell cynrychiolaeth yn taro tant gyda phleidleiswyr, a chafodd ei ethol yn llwyddiannus, er bod yr wythnosau cyntaf yn ei rôl newydd yn arbennig o heriol yn dilyn marwolaeth ei fam y diwrnod ar ôl i’r Senedd agor. “Roedd galaru wrth geisio sefydlu swyddfa a dysgu’r drefn yn brofiad llethol,” meddai. “Hi oedd fy nghefnogwr mwyaf erioed, ac yn yr wythnosau anodd cyntaf hynny, fe wnes i ddal at ei geiriau hi - paid byth â rhoi’r gorau iddi.”
Cadw ei wreiddiau yn San Steffan
Ac yntau bellach yn San Steffan, mae Steve yn tynnu ar ei gefndir mewn addysg a’i gysylltiadau dwfn â chefn gwlad Cymru i hyrwyddo materion sy’n bwysig i’w etholwyr. Un o’i brif flaenoriaethau yw gwella seilwaith trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru - her y mae ganddo ddealltwriaeth uniongyrchol ohoni, ar ôl profi anawsterau cysylltedd gwledig yn fyfyriwr yn Llambed.
Er gwaethaf mawredd y Senedd, mae Steve wedi’i gysylltu’n gadarn o hyd â’i wreiddiau. “Dywedodd rhywun wrthyf, ‘Mae’r lle hwn wedi’i adeiladu i wneud i chi deimlo’n fach,’ ac roedden nhw’n iawn,” meddai. “Ond ar ddiwedd y dydd, fy ngwraig, fy mhlant, fy ffrindiau - maen nhw i gyd yn fy nghadw i yn fy lle. Maen nhw’n tynnu fy nghoes i, yn fy atgoffa mai dim ond Steve o Langollen ydw i o hyd.”
I Steve Witherden, nid yw gwleidyddiaeth yn golygu pŵer - mae’n golygu pobl. Mae’n golygu sefyll i fyny dros y rhai sydd wedi cael eu hanwybyddu a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn tyfu i fyny gan feddwl nad ydyn nhw’n ddigon da. “Fy nghyngor i unrhyw berson ifanc yw peidio byth â rhoi’r gorau iddi,” meddai. “Daliwch ati i wthio. Credwch ynoch chi’ch hun, hyd yn oed pan nad yw eraill yn gwneud hynny. Roeddwn i’n lwcus - roedd gen i fy mam i fy nghalonogi. Nawr, rydw i eisiau bod yn llais i eraill.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996