Ҵý

Skip page header and navigation

Heddiw, yn seremoni raddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Abertawe, derbyniwyd Dr Chantal Lockey yn Gymrawd er Anrhydedd i gydnabod ei harweinyddiaeth a’i gwasanaethau rhagorol i ofal a chymorth profedigaeth babanod.

Chantal Lockey in gown for honarary fellow

Fe wnaeth ei cholled dorcalonnus yn sgil marwolaeth ei merch fach, Marnie, yn ddim ond chwe wythnos oed, ysgogi Dr Lockey i helpu teuluoedd eraill sy’n wynebu’r profiad dychrynllyd o golli plentyn. Drwy brofiad personol, sylweddolodd nad oedd teuluoedd yn derbyn gofal profedigaeth digonol gan nad oedd hyfforddiant ar gael i’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen gyda theuluoedd, yn cynnwys bydwragedd, nyrsys, adrannau’r heddlu, prifysgolion a chwnselwyr. Yn 2007 sefydlodd 

Wrth gyflwyno Dr Lockey i’r gynulleidfa, dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru: “Profodd Dr Chantal Lockey, menyw gref a gwydn, un o’r trasiedïau mwyaf torcalonnus y gall rhiant ei ddioddef - colli ei babi gwerthfawr yn sydyn. Yn wyneb galar dwfn, mae Chantal wedi dod yn arwydd o obaith, gan ddefnyddio ei phoen i eiriol dros ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r rhai a effeithir gan farwolaeth baban”.

Trwy ei sefydliad, mae Chantal Lockey wedi gweithio’n ddiflino i dorri’r distawrwydd ynghylch colli babanod ac, fel y dywed, mae’r boen o golli plentyn yn erchyll, does dim modd cuddio hynny. Mae’n bwysau na ddylai unrhyw riant orfod ei oddef byth”. 

A hithau wedi’i geni yn Surrey, yr hynaf o bedwar plentyn, symudodd teulu Chantal i Bournemouth lle cafodd ei magu yn berson hamddenol, di-ofal, merch ifanc a oedd, yn ei geiriau ei hun, yn “mwynhau bywyd i’r eithaf, wrth ei bodd yn teithio, bwyta bwyd da, yn ffrind da i lawer, ac yn bwysig, yn berson ifanc nad oedd wedi wynebu profiadau negyddol yn ei bywyd.”

Pan ddaeth yn feichiog yn 23 oed, dechreuodd ei thaith fel unrhyw fam feichiog arall. Ond yn drist iawn, digwyddodd tro creulon, a bu farw ei babi Marnie o farwolaeth sydyn babanod yn 6 wythnos oed.

Yn hytrach nag ildio i ddyfnderoedd anobaith, canfu Chantal gryfder i drawsnewid ei galar yn weithredu. Daeth yn eiriolwr dros ymwybyddiaeth o golli babanod, yn benderfynol o sicrhau na fyddai teuluoedd eraill yn dioddef yn dawel, ac yng ngeiriau Chantal, mae’r gwaith hwn ynddo’i hun wedi bod yn brofiad llesol iddi hi hefyd.

Mae wedi rhannu ei stori, gan siarad yn agored am y boen, y torcalon, a’r frwydr i ddod o hyd i ystyr yn wyneb trasiedi. Drwy wneud hynny, mae wedi creu lle diogel i eraill rannu eu profiadau eu hunain, gan feithrin cymuned o gefnogaeth a chydymdeimlad.

Mae Chantal Lockey yn deall nad yw taith iachâd yn dilyn llwybr syth. Mae’n cynnwys troeon da a drwg, eiliadau o gryfder, ac eiliadau o fregusrwydd. Mae hi wedi defnyddio ei llwyfan i ddarparu adnoddau a chefnogaeth i rieni sy’n galaru, gan gynnig achubiaeth mewn cyfnod o dywyllwch llethol.

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae Chantal wedi hyfforddi miloedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mron pob Ymddiriedolaeth GIG, a phrifysgolion sy’n cynnig cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth. 

Mae hi hefyd yn gweithio’n helaeth gyda gweithwyr cwnsela proffesiynol, gan gynnig, er enghraifft, hyfforddiant am ddim i’r elusen , sefydliad cwnsela gwirfoddol yng Nghymru. Mae ei rhaglen e-ddysgu wedi cael ei defnyddio mewn nifer o wledydd, gan dderbyn mwy nag 20 o achrediadau sy’n dangos yr angen am yr hyfforddiant ledled y byd.

Mae Dr Chantal Lockey wedi cael ei chydnabod â nifer o wobrau; gan gynnwys Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Swydd Bedford, Gwobr Genedlaethol Arbennig y GIG 2019 am oes o waith, ac yn 2024, dyfarnwyd iddi Fedal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) gan Ei Uchelder Brenhinol Brenin Siarl III yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ofal profedigaeth a lleihau marwolaethau babanod.

Mae wedi dylanwadu ar bolisïau ar golli babanod yn y gweithle; ac mae cannoedd o sefydliadau corfforaethol wedi gofyn am ei chyngor a’i hyfforddiant.  Mae ei stori wedi ei hadrodd dro ar ôl tro, gan helpu i leddfu sefyllfa cannoedd o rieni mewn profedigaeth.

Aeth Dr Cocks ymlaen i ddweud: “Mae dewrder a phenderfyniad Chantal wedi ysbrydoli llu o unigolion sydd wedi wynebu’r torcalon o golli plentyn. Mae ei stori yn ein hatgoffa, hyd yn oed yn nyfnder anobaith, bod gobaith. Mae hi wedi dangos ei bod hi’n bosibl dod o hyd i gryfder mewn bregusrwydd, a thrawsnewid poen yn bwrpas. 

Trwy herio’r stigma sy’n gysylltiedig â galar, annog sgyrsiau agored a darparu rhwydwaith cefnogol i’r rhai mewn angen, mae Chantal wedi helpu i lunio cymdeithas sy’n fwy tosturiol a chydymdeimladol tuag at y rhai sy’n profi colli baban.

Meddai Chantal:  “Diolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am gydnabod fy ngwaith ac am y fraint arbennig o gael fy nerbyn yn Gymrawd er Anrhydedd. Mae fy ngwaith ym maes colled yn ystod Beichiogrwydd a Babandod yn gallu bod yn fater tabŵ o hyd weithiau. Rwy’n gobeithio y bydd y platfform hwn yn codi rhagor o sgyrsiau, mwy o ymwybyddiaeth ac yn ei dro yn sicrhau bod y miloedd o rieni mewn profedigaeth sy’n dioddef colled bob blwyddyn yn y DU, yn cael eu cydnabod a’u cefnogi’n llawn gan wasanaethau proffesiynol.

Mae hefyd yn fraint aruthrol cael bod yn rhan o’ch diwrnod arbennig. Gobeithio eich bod chi i gyd yn teimlo’n hynod falch o’ch cyflawniadau a’ch bod chi’n cael amser hyfryd yn dathlu gyda theulu a ffrindiau. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon