Ҵý

Skip page header and navigation

Cwblhaodd Eunice Moyo ei gradd Meistr mewn Arfer Proffesiynol yn ddiweddar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei gyrfa a gwireddu’i breuddwyd hirdymor o astudiaeth academaidd bellach. 

Eunice Moyo wearing her cap and gown ready for graduation

Dewisodd Eunice y cwrs hwn am ei fod yn cyd-fynd yn agos â’r prosiect yr oedd hi’n ei reoli ar y pryd.  Am fod y cwrs yn seiliedig ar waith bu modd iddi gymhwyso’i hastudiaethau’n uniongyrchol i’w cyfrifoldebau proffesiynol.  Mae’r dull ymarferol hwn wedi bod yn anhygoel o fuddiol, gan gyfoethogi’i galluoedd rheoli prosiectau a gwella’i gallu i ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol a meintiol.  Drwy ddefnyddio’r technegau hyn, mae Eunice wedi gallu paratoi adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer uwch reolwyr, Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac Awdurdodau Lleol. Mae’i gallu newydd i gyflwyno gwerthusiadau eglur a chryno wedi gwella ansawdd ei hadroddiadau’n fawr, gan ddarparu cymariaethau data manwl sy’n fodd i gynllunio digwyddiadau’r dyfodol. 

Mae effaith astudiaethau Eunice ar ei gweithle wedi bod yn sylweddol.  Meddai:

“Nid yn unig y mae’r dyfarniad hwn wedi creu cyfleoedd i werthuso prosiectau eraill, ond hefyd mae wedi caniatáu i mi argymell canfyddiadau sydd wedi arwain at welliannau sylweddol yn ein prosesau gwaith.  Cyflwynwyd y gwerthusiad o’r prosiect i Reolwyr y Gweithlu, a ddefnyddiodd y wybodaeth hon i sicrhau ffrydiau cyllido.  Mae hyn wedi ein galluogi i gyfoethogi ein galluoedd a’n hadnoddau, gan gyfrannu yn y pen draw at weithle mwy effeithlon ac effeithiol.”

Ar lefel bersonol, mae taith Eunice drwy’r cwrs wedi bod yn drawsffurfiol.  Mae hi wedi profi’i gallu i weithio dan bwysau a chyflawni’i nodau er gwaethaf heriau.  Ychwanega:

“Mae’r profiad hwn wedi fy helpu i ddeall fy ngalluoedd yn fwy manwl, ac rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser yn adfyfyrio ar fy natblygiad personol.”

Mae Eunice bellach yn teimlo’n hyderus wrth fentora pobl eraill, gan eu helpu i aros yn gadarnhaol ac â ffocws ar eu cyflawniadau. 

“Mae fy sgiliau trefnu wedi gwella ac wedi fy ngalluogi i reoli nifer o dasgau ar yr un pryd, gan sicrhau bod pob agwedd ar brosiect ar y trywydd iawn ac yn cyd-fynd â’n hamcanion cyffredinol.  Drwy’r cwrs dysgais i fod dyfalbarhad yn allweddol er mwyn cyflawni nodau hirdymor.  Mae wynebu heriau’n uniongyrchol a gweithio’n ddi-baid tuag at atebion wedi dod yn rhan ganolog o fy null, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol, gweladwy.”

Cafodd y cwrs ei deilwra i anghenion Eunice o fewn ei gweithle, gan ganiatáu iddi ddefnyddio’i phrosiect cyfredol yn sail i’w hastudiaethau.  Bu’r ffocws hwn yn fodd i wella’i gallu i ysgrifennu adroddiadau a dogfennau ffurfiol, gan gyflwyno data’n eglur a chyfleu gwybodaeth gymhleth yn gynhwysfawr.  Mae’i sgiliau ysgrifennu ffurfiol gwell wedi ei galluogi hi i gyfathrebu’n fwy argyhoeddiadol â rhanddeiliaid, gan sicrhau bod ei hadroddiadau nid yn unig yn llawn gwybodaeth ond hefyd yn ysgogol. 

Mae’r MA mewn Arfer Proffesiynol wedi agor drysau iddi wneud cais am swyddi uwch wrth iddynt ddod ar gael.  Ychwanega:

“Mae’r cyflawniad hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn fy ngyrfa, gan ddarparu’r cymwysterau angenrheidiol a’r hyder i fynd ar ôl rolau uwch o fewn y sefydliad.”

Mae hefyd yn cefnogi’r arfarniad o’i pherfformiad, gan ddangos ei hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol a chyfoethogi’i gwerth fel gweithiwr. 

Ym marn Eunice roedd y cwrs yn cyd-fynd yn berffaith â’i chyfyngiadau o ran amser a’i chyfrifoldebau proffesiynol.  Roedd wedi’i strwythuro’n dda, gan ganiatáu iddi gydbwyso ymrwymiadau gwaith ar yr un pryd â gwella’i sgiliau a’i gwybodaeth.  Roedd deunydd y cwrs yn berthnasol ar unwaith i’w rôl, gan ei wneud yn brofiad dysgu gwerthfawr ac ymarferol.

Gan adfyfyrio ar ei hamser fel myfyriwr, meddai Eunice:

“Roedd y profiad yn wych, a’r tiwtoriaid yn anhygoel o gefnogol a llawn gwybodaeth.  Roedd eu harweiniad yn ganolog i fy llwyddiant.”

Byddai Eunice yn bendant yn argymell y cwrs hwn i bobl eraill, oherwydd ei berthnasedd, ei natur ymarferol, a’r effaith arwyddocaol y mae wedi’i chael ar ei datblygiad proffesiynol a phersonol.

Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd o fewn y tîm Arfer Proffesiynol: 

“Mae taith Eunice yn enghraifft o bŵer trawsffurfiol y radd MA mewn Arfer Proffesiynol. Mae ein rhaglen wedi’i llunio i integreiddio dysgu academaidd â chymwysiadau yn y byd go iawn, ac mae Eunice wedi dangos pa mor effeithiol y gall hyn gyfoethogi twf personol a gallu proffesiynol.”

Ychwanegodd Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen Arfer Proffesiynol:

“Rydym ni’n falch dros ben o gyflawniadau Eunice. Mae’i llwyddiant yn arddangos gallu’r rhaglen i addasu i anghenion proffesiynol unigol a chefnogi myfyrwyr wrth gyflawni’u dyheadau o ran eu gyrfa. Mae stori Eunice yn tystio i werth ymarferol ac effaith ein cwricwlwm.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon