Ҵý

Skip page header and navigation

Mae diwydiannau creadigol Cymru yn profi oes drawsnewidiol gyda digidoleiddio ac academia yn cydgyfeirio i ailddiffinio eu tirwedd. Mae Roseanna Jiggins, un o raddedigion meistr mewn Tecstilau PCYDDS a sylfaenydd SwatchEditor™ ac RMJ Studios Limited, ar reng flaen y newid hwn. 

Three people standing in front of a table and in front of a screen. One person is holding VR equipment.

Yn y cyfweliad hwn, mae hi’n disgrifio sut mae ei gwaith arloesol, trwy’r prosiect HoloLens cydweithredol, yn cyfuno offer digidol ag arferion cynaliadwy, gyda’r nod o leihau gwastraff a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer myfyrwyr ac ymarferwyr proffesiynol fel ei gilydd.

Creu SwatchEditor™: Datrysiad a Ysbrydolwyd gan y Pandemig

Mewn gwirionedd, ganed “SwatchEditor” yn ystod pandemig Covid-19. Yn debyg i lawer o fusnesau, bu’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd i fasnachu o bell a hynny mewn ffordd oedd yn ddiddorol ac ystyrlon. Rwy’n ddylunydd print arwynebau, ac yn rhedeg RMJ Studios Limited, sef unig stiwdio brint Cymru, hyd y gwn i. 

Rydym yn creu gwaith celf wedi’i beintio â llaw wedi’u seilio ar yr amgylchedd a thueddiadau ar gyfer y farchnad ffasiwn ac addurno mewnol. Yna, caiff y darnau o waith celf hyn eu troi’n batrymau a ailadroddir yn ddigidol a’u delweddu ar gynhyrchion 3D.

Y broblem oedd yn ein hwynebu, yn arbennig yn ystod Covid, oedd sut i fynd i’r afael â gwastraff a dod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy i ddatblygu tecstilau a dillad cyn eu cynhyrchu’n llawn. 

A dyna pryd y gwnaethom ddechrau defnyddio SwatchEditor™. Ap ydyw a gynlluniwyd i wneud y broses datblygu cynnyrch yn fwy syml, gan ein galluogi i wneud penderfyniadau clyfrach, mwy cynaliadwy cyn hyd yn oed cyffwrdd darn o ffabrig. Ei bwrpas yw cyfuno creadigrwydd â thechnoleg mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac yn ymarferol.

Rydych chi’n gweithio ar brosiect HoloLens gydag Ashley Pullen a James Millns o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Allwch chi ddweud mwy wrthym ni am hynny?

Ydym, mae’r prosiect HoloLens yn ofnadwy o gyffrous! Un o heriau’r diwydiant dillad yw pa mor araf mae dulliau digidol newydd yn cael eu mabwysiadu. Mae yna gymaint o rwystrau – ariannol, addysgol, a hyd yn oed diffyg deddfwriaeth yn y DU i ysgogi’r newid hwnnw. Ond roedd arnom ni eisiau archwilio ffordd i wneud digidoleiddio’n fwy diddorol, yn rhyngweithiol ac yn hwyl, hyd yn oed! 

Mae prosiect HoloLens yn galluogi i ddefnyddwyr ryngweithio’n rhithiol gyda gefeilliaid digidol o ffabrigau, gan roi iddynt ymdeimlad go iawn o sut byddai’r defnydd yn ymddwyn mewn realiti. Mae’r potensial hwn yn enfawr oherwydd y gallai leihau’r gwastraff tecstilau, sy’n digwydd fel arfer yn y cyfnod samplo, o 20%. Pe bawn i’n gallu creu sampl digidol sy’n ddigon da i’w ddefnyddio, mae’n torri lawr ar samplo corfforol diangen a’r gwastraff sy’n mynd law yn llaw â hynny.

Sut ydych chi’n meddwl y bydd y prosiect hwn yn effeithio ar eich busnes?

Gallai ymgorffori’r dechnoleg hon i SwatchEditor™ gyflymu’r broses o fabwysiadu digidoleiddio yng nghamau cyntaf datblygu cynnyrch. Mae angen i ni feddwl tu hwnt i wneud y broses yn fwy effeithlon - rydym ni eisiau helpu’r diwydiant cyfan i symud ymlaen tuag at fodel cylchol llawn, lle byddwn yn dileu gwastraff a thirlenwi’n gyfan gwbl.

Mae heriau o’n blaenau o hyd, fel y gwastraff ynni digidol a ddaw yn sgil defnyddio AI, VR, ac AR, ond rydym yn ymchwilio ffyrdd o wneud maint ffeiliau ac allbynnau digidol yn fwy clyfar ac yn fwy effeithlon. Yn y pen draw, mae arnom eisiau adeiladu rhywbeth cynhwysol, rhyngweithiol, a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn rhagweld llawer o botensial ar gyfer defnyddio’r prosiect hwn i gefnogi’r celfyddydau a chynhwysiant cymdeithasol trwy ddigidoleiddio archifau sydd fel arall yn gallu cael eu cloi ymaith ar ffurf gorfforol.

Gwnaethoch chithau astudio yn PCYDDS. Pa rôl mae’r brifysgol wedi chwarae yn eich taith?

Do, gwnes i MA mewn Tecstilau yn PCYDDS, a chefais brofiad ardderchog yno. Mae’r adran patrymau arwyneb a thecstilau yn anhygoel, ac mae’r cyfleusterau sydd ganddynt o’r radd flaenaf. Cefais gyfle i ymuno â’u gweithdai, ac rwy’n cofio teimlo cenfigen tuag at y myfyrwyr! Mae’r cyfoeth o wybodaeth a phrofiad mae’r tiwtoriaid yn eu cynnig heb ei ail.

Ar ôl cwblhau’r MA, roeddwn i’n gwybod bod arna’i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a chreu cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr. Rydym wedi cael interniaid gwych sydd wedi mynd ymlaen  i weithio i gwmnïau enwog fel H&M, JoJo Maman Bébé, a Tesco. Mae gallu rhoi profiad byw, yn y byd go iawn iddynt yn rhoi boddhad i ni. Mae meithrin talent a rhoi carreg sarn i raddedigion i mewn i’r diwydiant yn rhywbeth arbennig.

Beth yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru?

Rwy’n meddwl mai un o’r heriau mwyaf yw cyllid. Yn aml, caiff dylunio a thecstilau eu hesgeuluso o ran cyllid creadigol, sy’n rhwystredig oherwydd bod tecstilau’n rhan mor fawr o ddiwylliant Cymru. Mae llawer o gyfleoedd yn tueddu mynd i CIC neu gwmnïau cyfryngau, ond mae dylunio a thecstilau yn rhan hanfodol o ddiwydiant y cyfryngau, yn arbennig nawr bod gemau a digidoleiddio tecstilau’n uno.

Her arall yw cynnydd ffasiwn gyflym. Mae’n ffenomen gymharol newydd, ond mae’n achosi cymaint o ddifrod i’r blaned. Mae’n hanfodol ein bod yn addysgu pobl am effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol ffasiwn cyflym. Gall offer fel VR, AI a delweddu amser real chwarae rhan wrth newid y ffordd rydym yn meddwl am ffasiwn, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy a moesegol.

Sut ydych chi’n gweld prifysgolion fel PCYDDS yn chwarae rhan yn nyfodol y diwydiannau creadigol?

Mae Prifysgolion mewn sefyllfa gref iawn ar hyn o bryd. Rydym yn mynd i mewn i oes ddigidol newydd, ac mae’n teimlo fel dechrau chwyldro - yn debyg i’r chwyldro diwydiannol, ond y tro hwn mae’n ddigidol. Mae gan PCYDDS a phrifysgolion eraill y cyfle i integreiddio arloesi digidol yn eu cyrsiau, nid dim ond addysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio’r offer hyn ond hefyd eu helpu i ddeall y darlun mwy - yr heriau amgylcheddol a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu.

Rydych wedi bod yn gweithio gyda PACE Cymru PCYDDS. Allwch chi ddweud wrthym ni am hynny?

Gallaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda thîm PACE Cymru PCYDDS, sy’n rhan o brosiect gan Lywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r diwydiannau creadigol trwy ddigidoleiddio. Mae’n fenter mor werthfawr, oherwydd nid yn unig mae’n helpu busnesau yn y sector i groesawu technolegau newydd, ond hefyd mae’n dangos i ni yn union pa mor hygyrch mae’r technolegau hyn yn gallu bod.

Mae llawer o bobl yn meddwl bod offer digidol fel VR ac AI tu allan i gyrraedd busnesau llai, ond trwy brosiect PACE Cymru, maent wedi gallu dangos bod yr offer hwn yn gallu cael effaith go iawn, hyd yn oed ar gwmnïau sydd newydd ddechrau eu taith ddigidol. 

Mae gweithio gyda PCYDDS ar hyn wedi bod yn wych, ac rwy’n credu bod prosiectau fel PACE Cymru yn bwysig i yrru’r sector creadigol ymlaen.

Mae PACE Cymru yn cynnal Clinig Digidol ar gyfer unrhyw fusnes sy’n gweithio o fewn sector y Diwydiannau Creadigol yn Sir Benfro ar ddydd Mercher, Rhagfyr 11eg. Mae’n cael ei gynnal yng Nghyrchfan Bluestone yn Arberth. Cofrestrwch yma: 

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Capsiwn y llun: Yn y llun mae Roseanna Jiggins (canol) gyda Ashley Pullen o PCYDDS (chwith) a James Millns (dde)


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon