Un o Ddarlithwyr PCYDDS a thîm Merched y Môr yn ymweld â'r Senedd cyn ymgymryd â Her Rwyfo Hanesyddol ar draws yr Iwerydd
Mae Denise Leonard, darlithydd BA Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi ymuno â thîm rhwyfo benywaidd arloesol o Gymru sy’n paratoi i ymgymryd ag un o ddigwyddiadau dycnwch anoddaf y byd, sef Her Rhwyfo Anoddaf y Byd: yr Iwerydd.

Yn rhan o’u hymgyrch codi ymwybyddiaeth, bu’r tîm, o’r enw Merched y Môr, ar ymweliad â’r Senedd ddydd Mawrth, 15 Gorffennaf, i dynnu sylw at eu cenhadaeth a’r elusennau hanfodol yng Nghymru a’r DU y maent yn eu cefnogi drwy’r her.
Denise, ochr yn ochr â’i chyd-rwyfwyr, Helen Heaton, Heledd Williams, a Liz Collyer, fydd y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad, gan groesi 3,000 o filltiroedd heb gymorth o’r Ynysoedd Dedwydd i’r Caribî. Dros gyfnod o hyd at 60 diwrnod, byddant yn rhwyfo mewn shifftiau dwy awr yn ddi-baid, gan herio tywydd eithafol, unigedd, tonnau 20 troedfedd, a gofynion corfforol a meddyliol rhwyfo’r môr.
Eu nod uchelgeisiol yw codi £125,000 i gefnogi’r her ac i ariannu pedair elusen bwysig:
Cymorth Arennau Popham, sy’n darparu cymorth hanfodol i gleifion arennau ledled Cymru
Ymddiriedolaeth y Môr Cymru, sy’n hyrwyddo cadwraeth forol a bioamrywiaeth
Gweithredu dros Blant, sy’n cefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed yn y DU
Yr RNLI, y mae ei wirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau achub bywyd o amgylch yr arfordir
Wrth siarad cyn yr ymweliad â’r Senedd, dywedodd Denise Leonard:
“Fel addysgwr awyr agored, mae’r her hon yn berthnasol i bopeth rwy’n ei werthfawrogi, gwytnwch, gwaith tîm, cysylltu â natur, a chefnogaeth gymunedol. Mae’n fwy na thaith gorfforol; mae’n gyfle i ysbrydoli eraill a rhoi yn ôl trwy waith anhygoel yr elusennau hyn.”
Mae Her yr Iwerydd yn cael ei chydnabod fel un o’r rasys dycnwch anoddaf yn y byd - mae llai o bobl wedi rhwyfo’r Iwerydd nag sydd wedi cyrraedd copa Everest neu deithio i’r gofod. Mae criw Merched y Môr nid yn unig yn paratoi ar gyfer y gamp gorfforol ond hefyd yn gweithio’n ddiflino i ledaenu ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer achosion sy’n agos at eu calonnau.
I gael rhagor o wybodaeth, dilyn taith y tîm, neu gyfrannu, ewch i:

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071