ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi camp Hannah Elwin, a raddiodd yn ddiweddar, y mae ei phrofiad gwaith gyda’r adran gelf ar The Gunpowder Siege wedi cyfrannu at ddechrau addawol ei gyrfa. Mae’r gyfres deledu, sy’n cael ei darlledu ar Sianel Sky HISTORY, yn adrodd naratif hanesyddol cymhellol, a lluniwyd lleoliadau dilys y cynhyrchiad ledled De Cymru gan ddwylo medrus Hannah a’i chyd-ddylunwyr set.

A photo am Hannah working on set

Roedd Hannah, a raddiodd yn 2024 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn BA Dylunio a Chynhyrchu Set, yn rhan o’r tîm addurno set a chelf olygfaol. Cefnogodd griw profiadol a gweithiodd yn uniongyrchol ar greu ac addasu propiau a golygfeydd i ddod â dilysrwydd hanesyddol yn fyw. O dan fentoriaeth Adran Gelf The Gunpowder Siege, dan arweiniad y Dylunydd Cynhyrchu arobryn ac Athro Ymarfer Y Drindod Dewi Sant Ed Thomas, cafodd Hannah gip uniongyrchol ar y diwydiant.

Bu Ed Thomas, sy’n adnabyddus am gynyrchiadau clodwiw megis Resident Evil, Escape Room, a Doctor Who, yn curadu amgylchedd dysgu eithriadol ar gyfer myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Cafodd Hannah, sydd hefyd yn fedrus mewn Celf Olygfaol a Rheoli Llwyfan, yn gyfle i gysgodi’r Cyfarwyddwr Celf wrth gefn Ciaran Thompson, cyfrannu at Gelfyddyd Olygfaol pan oedd angen cymorth ychwanegol, a gweithio’n Gynorthwyydd Propiau.

Wrth feddwl am ei phrofiad, meddai Hannah:

“Roedd cwblhau profiad gwaith ar set The Gunpowder Siege ar gyfer Sky HISTORY yn fraint. Bydd y cysylltiadau a wnes i yn ystod fy nghyfnod ar y set yn amhrisiadwy i ddechrau fy ngyrfa yn y diwydiant hwn. Rwy’n ddiolchgar i Ed Thomas am ganiatáu i mi gysgodi’r Adran Gelf y mae wedi’i rhoi at ei gilydd, a oedd bob amser yn groesawgar ac yn darparu profiad dysgu gwych. Rhoddodd Ed ddoethineb ac anogaeth werthfawr iawn i mi  i gymryd naid a mynd amdani.â€

Hannah with a colleague on set

Mynegodd Adran Gelf The Gunpowder Siege eu gwerthfawrogiad hefyd o ymroddiad a thalent Hannah:

“Diolch, Hannah, am dy waith caled a dy ymroddiad. Dymuniadau gorau gan dy gyd-gynllwynwyr ar The Gunpowder Siege.â€

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddarparu addysg sy’n cyd-fynd â’r diwydiant a phrofiad byd go iawn i fyfyrwyr, ac mae cyflawniadau Hannah yn enghraifft o werth y cyfleoedd dysgu ymarferol hyn. Bu Rob Axtell, myfyriwr ail flwyddyn BA Dylunio a Chynhyrchu Set yn Y Drindod Dewi Sant hefyd yn gweithio yn nhîm SFX am bythefnos ar brofiad gwaith.

Dywedodd Cyd-Rheolwr raglen BA Dylunio Set a Chynhyrchu Y Drindod Dewi Sant, Stacey Jo Atkinson: 

“Rhan orau’r swydd yw gweld ein myfyrwyr a’n graddedigion yn mynd allan i’r diwydiant. Mae’r radd Dylunio a Chynhyrchu Set yn rhoi pecyn o sgiliau i’r myfyrwyr i’w paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi hyder iddynt ddilyn amrywiaeth o gyfleoedd a llwybrau gyrfaoedd yn y dyfodol.†

Mae The Gunpowder Siege ar gael i’w wylio ar Sky HISTORY bob nos Lun am 9 p.m. Mae Sky HISTORY ar gael ar Sky 123 (Alban 124), Sky Glass / Sky Stream 115, a Virgin 131.

Am ragor o wybodaeth am raglenni’r Drindod Dewi Sant mewn Dylunio a Chynhyrchu Set, ewch i: Dylunio a Chynhyrchu Set (Amser Llawn) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Hannah working on set

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon