Ҵý

Skip page header and navigation

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) fyfyrwyr o bob rhan o Gymru a Lloegr i’w champysau yn Abertawe a Chaerfyrddin ar gyfer Rhaglen Breswyl Haf dridiau, a drefnwyd gan dîm Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr y brifysgol.

Students Celebrating at the end of UWTSD's Summer Residential

Rhoddodd y cwrs preswyl flas i’r myfyrwyr o fywyd prifysgol, gan gynnig cymysgedd o sesiynau academaidd o’u dewis - pob un yn cynnwys asesiad byr - a gweithgareddau meithrin tîm a gweithdai ymarferol  ar bynciau fel gwneud cais i brifysgol ac ysgrifennu datganiadau personol.

Daeth y rhaglen i ben gyda seremoni raddio, yn dathlu cyflawniad y myfyrwyr ac yn cynnwys prif araith ysbrydoledig gan James Owen, un o raddedigion llwyddiannus PCYDDS, a anogodd y myfyrwyr i ddilyn eu huchelgeisiau yn hyderus.

Dywedodd Aidan George, Rheolwr Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr:
“Mae’r Cwrs Preswyl Haf yn gyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr brofi bywyd prifysgol yn uniongyrchol. Rydym yn falch o ddarparu amgylchedd cefnogol lle gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, meithrin cyfeillgarwch, a magu hyder i gymryd y cam nesaf tuag at addysg uwch.”

“Roedd y Cwrs Preswyl Haf eleni yn llwyddiant ysgubol,” ychwanegodd Donna Williams, Uwch Swyddog Ehangu Mynediad yn PCYDDS. “Roedd yn bleser croesawu myfyrwyr a ddangosai cymaint o ddiddordeb a brwdfrydedd i’n campysau a’u gwylio yn magu hyder a chysylltiad dros y tridiau. Gobeithiwn groesawu’r myfyrwyr hyn yn ôl i’n campysau yn fuan iawn, boed hynny ar gyfer ymweliadau pellach neu fel aelodau o gymuned PCYDDS yn y dyfodol.”

Rhannodd Iona Wong, un o’r myfyrwyr a gymerodd ran, ei phrofiad:
“Roeddwn wrth fy modd ac wedi mwynhau pob rhan o’r cwrs preswyl hwn. Roeddwn i’n teimlo fel ein bod ni wedi meithrin cyfeillgarwch cryf a chymuned fawr lle roedd pawb yn dod ymlaen mor dda, dros gyfnod o dridiau yn unig. Mae gan y brifysgol gymaint i’w gynnig, ac rwy bellach wir yn ystyried gwneud cais oherwydd y gefnogaeth anhygoel y mae’n ei darparu - cefnogaeth nad ydych yn ei chael yn aml mewn prifysgolion eraill. Roedd pob aelod o staff a’r llysgenhadon yn hollol anhygoel, yn garedig, ac mor gefnogol, gan sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hamser .”

Ychwanegodd: “Cafwyd cyfleoedd newydd yng nghwmni pawb.”
“Dysgodd pawb rywbeth newydd ar y daith - boed yn hyder, yn addasu i le newydd, neu ddatblygu sgiliau newydd. Diolch yn fawr iawn i chi gyd am eich gwaith caled.  Ar ran yr holl fyfyrwyr, gallaf ddweud ein bod wedi cael amser gwych!”

Dywedodd Janette Reynolds, rhiant un o’r cyfranogwyr:
“Cafodd Josh amser gwych yn ystod y cwrs preswyl yn PCYDDS. Fe wnaeth fwynhau’r profiad yn fawr ac mae wedi dod oddi yno’n teimlo’n gadarnhaol ac wedi’i ysbrydoli. Mae Josh bellach yn teimlo’n gyffrous iawn am ei ddyfodol ac yn edrych ymlaen at wneud cais i PCYDDS. Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i’w wneud yn gymaint o lwyddiant.”

Yr ysgolion a’r colegau a fu’n rhan o’r cwrs preswyl oedd:

  • Ysgol Olchfa
  • Coleg Sir Benfro
  • Coleg Sir Gâr
  • Coleg Ceredigion
  • Ysgol Greenhill
  • Ysgol Gyfun Cynffig
  • Coleg y Cymoedd Nantgarw
  • Coleg Gwent - Crosskeys
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd
  • Coleg Caerdydd a’r Fro
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
  • Ysgol Dyffryn Taf
  • Esgob Vaughan 
  • DZ&Բ;ŵ
  • Ysgol Bro Caereinion 
  • Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth 
  • Ysgol Harri Tudur
  • Varndean College
  • Newham Collegiate Sixth Form 
  • Katharine Lady Berkley 
  • Welling Secondary school 
  • University College Birmingham 

Mae’r Cwrs Preswyl Haf yn rhan o ymrwymiad parhaus PCYDDS i ehangu mynediad, codi dyheadau, a chefnogi darpar fyfyrwyr ar eu taith i addysg uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd allgymorth yn y dyfodol yn PCYDDS, cysylltwch â’r tîm Allgymorth Recriwtio Myfyrwyr yn SROutreach@uwtsd.ac.uk.

A group of students enjoying UWTSD's Summer Residential

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;01267&Բ;676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon