Y Prentis Graddedig sy'n helpu i yrru Arloesi Digidol yng Nghymru
Mae Gareth Williams yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn addysg wrth ddatblygu gyrfa. Wedi’i gyflogi ar hyn o bryd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae Gareth wedi adeiladu gyrfa drawiadol yn y GIG a bellach mae’n cymryd camau breision i foderneiddio’r defnydd o ddata iechyd a gofal ledled Cymru yn rhan o Raglen yr Adnodd Data Cenedlaethol.

Gan adfyfyrio ar ei daith, mae Gareth, a raddiodd yn ein Seremoni Aeaf yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar 26 Tachwedd, wedi rhannu sut y gwnaeth ei brofiad a’i uchelgais ei arwain i geisio addysg bellach.
“Erbyn 2018, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cyrraedd uchafbwynt yn fy ngyrfa. Gyda phwysigrwydd cynyddol cyfrifiadura cwmwl mewn busnesau, penderfynais archwilio cyrsiau cyfrifiadura i ehangu fy ngwybodaeth a’m sgiliau.”
Yn benderfynol o wella ei gymwysterau, cofrestrodd Gareth mewn rhaglen brentisiaeth gradd ddigidol yn Y Drindod Dewi Sant. Roedd y rhaglen yn caniatáu iddo ennill sgiliau gwerthfawr wrth barhau i weithio’n amser llawn. Dwedodd Gareth fod hwn yn gyfle unigryw i dderbyn addysg prifysgol.
Uchafbwyntiau’r Daith
Bu’r cwrs yn drawsnewidiol yn broffesiynol ac yn bersonol. Er gwaethaf ei amheuon i ddechrau, dwedodd Gareth ei fod wedi synnu ei hun trwy ragori mewn arholiadau llyfr caeedig a mwynhau defnyddio cyfleusterau’r campws megis y llyfrgell a mannau astudio. Canfu fod myfyrwyr yn gefnogol i’w gilydd mewn tasgau cydweithredol ac unigol.
“Er i mi deimlo’n frawychus ar y dechrau, fe dyfais i’n gyflym i edrych ymlaen at fynychu’r campws bob wythnos. Roedd cael fy amgylchynu gan bobl a oedd hefyd am ddysgu yn ysgogol,” meddai.
Bu’r rhaglen hefyd yn allweddol yn ei rôl, gan wella sgiliau beirniadol megis ymchwilio, meddwl yn feirniadol, ac ysgrifennu. Cafodd pynciau megis seiberddiogelwch effaith uniongyrchol ar ei allu i gefnogi cydweithwyr a hyrwyddo arferion gorau yn y gwaith.
Goresgyn Heriau
Roedd pandemig COVID-19 yn her sylweddol, gan orfodi Gareth i oedi ei astudiaethau am flwyddyn i ganolbwyntio ar ymdrechion ymateb y GIG. Fodd bynnag, roedd hyblygrwydd y cwrs yn caniatáu iddo ailgydio ar ôl i’r sefyllfa sefydlogi. Bu’r sgiliau a ddysgwyd, yn helpu Gareth i arwain ar ddylunio a datblygu datrysiad Olrhain Contractau Covid Cymru gan ddefnyddio technolegau cwmwl ac adeiladu’r sylfeini ar gyfer Llwyfan Data Cenedlaethol GIG Cymru.
Edrych Ymlaen
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dwedodd Gareth fod ganddo hyder o’r newydd yn ei alluoedd a’i sgiliau cyfathrebu gwell. Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy ddilyn gradd meistr mewn data neu arweinyddiaeth ddigidol.
“Mae’r profiad hwn wedi tynnu sylw at fy mhenderfyniad ac wedi cryfhau fy nghred ynof fi fy hun,” ychwanegodd.
“Mae ehangder y cynnwys yn anhygoel. Dim ond i chi fynd ati’n benderfynol, fe welwch chi fod y modylau’n ddiddorol ac yn hylaw, hyd yn oed mewn meysydd lle nad oes gennych chi lawer o brofiad blaenorol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071