Ҵý

Skip page header and navigation

I Imtiaz Begum, mae addysg bob amser wedi bod yn fwy na diddordeb personol, mae wedi bod yn addewid, yn rhodd, ac yn weithred bwerus o drawsnewid. Mae ei thaith ysbrydoledig o gefnogi llwyddiant academaidd ei phlant i gael Anrhydedd Dosbarth Cyntaf heddiw, a bellach yn dilyn astudiaeth ôl-raddedig, yn dyst i’r gred nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu, tyfu ac arwain. 

Imitaz Begum

Er i addysg ffurfiol Imtiaz ei hun ddod i ben yn yr ysgol uwchradd, gwnaeth adduned gadarn: y byddai ei phlant yn cael y cyfleoedd na chafodd hi. “Fe wnes i ymroi fy mywyd i’w hannog a’u cefnogi yn eu hastudiaethau, gan eu hatgoffa bob amser bod ‘bywyd heb addysg yn fywyd heb obaith,” meddai. 

Gwnaeth ei hymrwymiad ddwyn ffrwyth. Heddiw, mae ei merched yn weithwyr proffesiynol llwyddiannus: yn bennaeth cynorthwyol, yn gydymaith meddygol, ac yn therapydd galwedigaethol yn Awstralia. Gyda’i theulu’n tyfu ac yn ffynnu, trodd Imtiaz ei sylwi at ei breuddwydion ei hun a roddwyd o’r neilltu amser maith yn ôl ond nad aethant fyth yn angof. 

Dechreuodd Imtiaz ailgydio mewn addysg trwy astudio diploma mewn celf colur, cam a aildaniodd ei hangerdd am ddysgu. Wedi’i grymuso gan y llwyddiant hwn, cofrestrodd ar BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Birmingham. 

“Roedd dychwelyd i addysg ar ôl blynyddoedd lawer yn codi ofn,” mae’n cyfaddef. “Roedd y disgwyliadau academaidd ac addasu i dechnolegau newydd yn fy llethu ar y dechrau.” Ond roedd ei gwytnwch yn drech na hynny. Trwy “ddyfalbarhad, cysondeb, a pharodrwydd i geisio cymorth pan fo angen,” magodd Imtiaz hyder a ffynnu yn ei hastudiaethau. 

Roedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn llwybr naturiol ac addas iddi, pwnc a oedd yn cyd-fynd â’i diddordeb hirsefydlog mewn iechyd, llesiant, a helpu eraill. “Roedd y cwrs yn cynnig profiad dysgu eang a gwerth chweil,” meddai. “Datblygodd fy sgiliau ymarferol ac academaidd.” 

Yn ogystal â llwyddo yn ei hastudiaethau, fe wnaeth Imtiaz roi yn ôl yn hael i eraill. Fel llysgennad myfyrwyr, cefnogai ddigwyddiadau’r brifysgol a gwasanaethau allgymorth. Erbyn Lefel 5, dechreuodd ganolbwyntio’n agosach ar helpu cyd-fyfyrwyr, yn enwedig y rhai oedd yn ei chael hi’n anodd addasu yn eu blwyddyn gyntaf. Daeth yn fentor PAL (Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid), gan arwain myfyrwyr trwy eu haseiniadau a’u helpu i fagu hyder yn eu galluoedd academaidd. 

Heddiw, mae Imtiaz yn parhau â’i thaith academaidd trwy MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith, cwrs sydd wedi cryfhau ei sgiliau cyfathrebu ymhellach ac ehangu ei phersbectif ar lesiant cymunedol. Ond hyd yn oed wrth iddi astudio, mae’n parhau i roi yn ôl, gan fentora myfyrwyr a’u hannog i ddilyn eu nodau. 

“Mae fy nhaith yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i ddilyn eich nodau,” meddai. “A chyda phenderfyniad, mae unrhyw beth yn bosibl.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon