Angharad Tomos i Draddodi Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2025
Siaradwr gwadd Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2025 yw Angharad Tomos.
Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ddydd Iau, 10 Ebrill 2025.
Yn Nyffryn Nantlle y mae Angharad Tomos wedi byw erioed, gan fynychu Ysgol Dyffryn Nantlle, prifysgolion Aberystwyth a Bangor, a’r Coleg Normal. Gradd mewn Cymraeg a Chymdeithaseg sydd ganddi ac M.Phil mewn Hanes. Mae wedi ennill ei bywoliaeth drwy ysgrifennu, gan gyfrannu colofn i’r Herald ers 30 mlynedd. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, ac mae wedi cyhoeddi hanner dwsin o nofelau. Dyfarnwyd Gwobr Goffa Mary Vaughan Jones iddi yn 2009 am ei gwaith gyda Chyfres Rwdlan, sydd wedi goroesi deugain mlynedd. Mae wedi ymgyrchu llawer gyda Chymdeithas yr Iaith, ac mae’n weithgar gyda menter gymunedol Yr Orsaf ym Mhen-y-groes. Yno y mae’n byw gyda’i gŵr a’i mab.
Mae ei darlith, ‘Mary Silyn, Syniad am Stori’, yn deillio o’i nofel ddiweddaraf, Arlwy’r Sêr, sy’n adrodd stori garu Mary a Silyn Roberts, arloeswyr y mudiad addysg i’r gweithwyr (WEA). Mae ei thaid, David Thomas, yn gymeriad yn y nofel hefyd, fel Sosialydd ac athro i oedolion.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Mae hi’n fraint cael gwahodd Angharad Tomos i draddodi Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams eleni. Mae cyfraniad aruthrol Angharad fel awdur toreithiog ac fel ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith yn cwmpasu pum degawd erbyn hyn, a’i dylanwad yn treiddio yn ei milltir sgwâr, yn genedlaethol a thu hwnt i Gymru. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei chroesawu ac at glywed ei darlith.’
Traddodir y ddarlith yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom, am 5.00 o’r gloch ar 10 Ebrill.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell. Bydd paned am 4.30yh. E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.
Croeso cynnes i bawb!


Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Mae’r Ganolfan yn dathlu ei deugain oed eleni a chynhelir cynhadledd ryngwladol i nodi hynny yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 17-19 Medi 2025.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467076