Cyn-fyfyriwr PCYDDS yn derbyn cronfa ymchwil rhyngwladol mawr ei bri
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi bod Thomas Humphrey y dyfarnwyd Gradd Meistr iddo y llynedd wedi derbyn gwobr Cronfa Goffa Vronwy Hankey ar gyfer astudiaethau Aegeaidd gan yr Ysgol Brydeinig yn Athen.

Mae’r wobr genedlaethol gystadleuol tu hwnt hon yn cefnogi ymchwil ôl-raddedig ym maes archeoleg Aegeaidd. Mae’r rheiny sydd wedi derbyn y wobr yn ddiweddar yn cynnwys myfyrwyr o brifysgolion megis Rhydychen, Caergrawnt, Y Sorbonne a Phrifysgol Athen, gan dynnu sylw at enw da’r gronfa am feithrin talent academaidd ar draws y byd.
Archwiliodd traethawd hir doethurol Thomas,” Examining the Social Lives of Cylinder Seals in Late Cypriot Society” arwyddocâd yr arteffactau bach ond pwerus hyn yng nghyd-destun Cyprus ar ddiwedd yr Oes Efydd. Bydd ei ymchwil newydd a gefnogir gan Gronfa Vronwy Hankey yn ymestyn yr astudiaeth arloesol hon i’r byd Aegeaidd, gan ganolbwyntio ar seliau silindr o gyd-destunau Myseneaidd – dosbarth o arteffact nad yw’n cael eu hystyried yn aml yn ysgolheictod ehangach Groeg Myseneaidd.
“Bydd y gwaith hwn yn llenwi bwlch mawr yn ein dealltwriaeth o’r Oes Efydd Egeaidd” meddai Thomas. “Byddaf yn archwilio tua 50 o seliau silindr yng nghasgliadau amgueddfeydd Thebes, Nafplion a’r Amgueddfa Archeoleg Genedlaethol, gan ddefnyddio adnoddau gwych yr Ysgol Brydeinig yn Athen hefyd. Fy nod yw archwilio sut neu, yn wir, a gafodd seliau silindr eu hintegreiddio i draddodiadau sêl Groeg Myseneaidd. Mae hyn yn adeiladu’n uniongyrchol ar ymchwil fy nhraethawd hir ar sut mabwysiadwyd ac addaswyd y gwrthrychau hyn yn Cyprus ar ddiwedd yr Oes Efydd, a ddilynodd lwybr gwahanol iawn.”
Bydd Thomas yn defnyddio methodolegau fel dadansoddiadau manwl o arwynebau ac ochrau a phrocemeg yn ei astudiaeth ymarferol, gan wella dealltwriaeth ysgolheigaidd ymhellach o rôl gymdeithasol ac ystyr seliau silindr yn ystod y cyfnod hwn.
Meddai’r Athro Louise Steel o PCYDDS: “Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Thomas. Mae’r wobr hon yn dyst i ansawdd yr ymchwil y mae ein myfyrwyr yn ei chynhyrchu a’r effaith y gall ei chael ar ysgolheictod rhyngwladol. Mae ei waith yn helpu i ail-lunio sut rydym yn deall defnydd o wrthrychau a hunaniaeth yn y byd hynafol.”
Mae’r gydnabyddiaeth hon nid yn unig yn tanlinellu safon amgylchedd ymchwil ôl-raddedig PCYDDS, ond, yn ogsytal, mae’n tynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio archeoleg a hanes yn y brifysgol.
Eisiau gwybod mwy am astudio Archeoleg a Hanes yn PCYDDS?
Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein cyrsiau:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076