Ҵý

Skip page header and navigation

Ar ôl blynyddoedd o brofiad proffesiynol ar draws sawl diwydiant, gwnaeth Ibrahim Gazi y penderfyniad i ddychwelyd i addysg - penderfyniad a fyddai’n ail-lunio nid yn unig ei yrfa ond sut roedd yn gweld ei hun yn y gweithle.

Ibrahim Gazi at his graduation

Wedi’i eni a’i fagu yn Greenwich, De-ddwyrain Llundain, mae Ibrahim yn fab i rieni Twrcaidd Cyprus a symudodd i’r DU yn eu hieuenctid. Ar y dechrau, roedd yn blaenoriaethu gweithio dros astudio. 

“Rydw i wedi bod yn gweithio ers pan oeddwn i’n 13,” meddai. “Pan ddechreuais yn y coleg, dewisais incwm dros addysg. Ar y pryd, roedd elw ariannol yn ymddangos yn bwysicach.”

Dros y blynyddoedd, adeiladodd yrfa eang ac ymarferol mewn gweithgynhyrchu bwyd, dosbarthu, bwytai, darlledu radio, ac yn ddiweddarach, y diwydiant diogelwch. Ond yn y pen draw, roedd yn cydnabod bwlch yn ei ddealltwriaeth o sut roedd busnesau’n gweithredu - yn enwedig yr ochr ariannol - a phenderfynodd ei bod hi’n bryd gwneud rhywbeth am y peth.

“Dewisais astudio Rheolaeth Busnes oherwydd roeddwn i eisiau deall yn well y ffordd y mae cwmnïau’n rhedeg ac i ddatblygu’r sgiliau nad oeddynt gen i - yn enwedig o ran darllen data ariannol, ysgrifennu adroddiadau, a chyflwyno’n broffesiynol.”

Gan gofrestru yn PCYDDS fel myfyriwr aeddfed, daeth Ibrahim â ffynnon ddofn o brofiad go iawn gydag ef, a ddefnyddiodd i wneud yn fawr o’i amser yn y brifysgol. 

“Doeddwn i ddim eisiau’r radd ar bapur yn unig. Fe wnes i ddefnyddio’r cwrs i gynllunio fy nghamau nesaf yn iawn – gan edrych ar sut y gallwn gymhwyso’r hyn roeddwn i’n ei ddysgu mewn amser real i’r gwaith roeddwn eisoes yn ei wneud.”

I Ibrahim, roedd budd mwyaf y cwrs yn ymarferol - dysgu sut i ddeall cyllidebau, siarad yn hyderus mewn cyfarfodydd, a strwythuro ei ddull cyfathrebu yn fwy proffesiynol. Roedd yn trin pob modwl ac aseiniad fel ffordd o fireinio sut roedd yn gweithio. “Roedd popeth a gyflwynais wedi’i seilio ar senarios bywyd go iawn,” meddai. “Fe wnaeth hynny fy helpu i gysylltu’r theori â’r hyn oedd yn digwydd yn fy swydd.”

Roedd heriau ynghlwm wrth jyglo gwaith academaidd, cyflogaeth amser llawn, a bywyd personol, ond drwy gynllunio gofalus a disgyblaeth gref, fe lwyddodd. 

“Roedd adegau pan oedd y cyfan yn teimlo’n ormod. Ond roeddwn i’n gwybod pam roeddwn i’n ei wneud, ac roedd hynny’n fy helpu i ffocysu. Rydw i wedi bod yn unigolyn trefnus erioed, ond aeth y cwrs â hynny i lefel arall. Fe wnes i hefyd wella wrth ofyn am help pan oeddwn ei angen.”

Talodd y dyfalbarhad hwnnw ar ei ganfed yn gynt na’r disgwyl. Hanner ffordd trwy ei astudiaethau, symudodd Ibrahim o’r diwydiant diogelwch ac i rôl newydd ym maes rheoli eiddo - diolch yn rhannol i’r newidiadau roedd pobl o’i gwmpas wedi dechrau sylwi arnyn. 

“Gwelodd cleient roeddwn i wedi gweithio gydag ef ers blynyddoedd y gwahaniaeth yn y ffordd yr oeddwn i’n cario fy hun. Roedden nhw’n gwybod fy mod i eisiau symud i faes newydd, ac fe wnaethon nhw gynnig dyrchafiad i mi. Roedd yn drobwynt.”

Ac yntau bellach yn graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheolaeth Busnes o gampws Llundain PCYDDS, mae Ibrahim yn parhau â’i yrfa ym maes rheoli eiddo ac eisoes yn meddwl am yr hyn sydd nesaf. 

“Rwy’n anelu at wneud cymhwyster diwydiant-benodol ac efallai gradd meistr yn y pendraw. Fe wnes i synnu fy hun gyda pha mor bell rydw i wedi dod - ac rydw i eisiau parhau i wthio fy hun.”

Mae Ibrahim yn credu bod y cwrs yn addas iawn i’r rhai sydd ag uchelgeisiau clir. “Os ydych chi eisiau rheoli busnes neu symud i rôl arweinyddiaeth, bydd y cwrs hwn yn bendant yn helpu. Nid yw’n hawdd - yn enwedig os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl egwyl hir - ond mae’n werth yr ymdrech yn y diwedd.”

Wrth adfyfyrio ar y daith, ychwanega:

Bob blwyddyn, roeddwn i’n amau a fyddwn i’n dod i ben â’r cyfan. Ond fe wnes i ddyfalbarhau, a dyma fi. Fy nghyngor i? Gwneud cynllun, bod yn amyneddgar, gwneud y gwaith, a rhoi cyfle i chi’ch hun edrych yn ôl a gweld faint rydych chi wedi tyfu.”

Ibrahim Gazi crossing the stage at his graduation

Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon