Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi derbyn Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE.

Students walking on campus

Cenhadaeth y Siarter Cydraddoldeb Hil yw gwella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr o hilion leiafrifiedig mewn addysg uwch. Mae’n darparu fframwaith trwyadl a chadarn y mae sefydliadau ei ddefnyddio i weithio er mwyn adfyfyrio’n feirniadol a gweithredu ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy’n rhwystro dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr o hilion leiafrifiedig.

Mae’r Wobr Efydd yn arwydd bod y Drindod Dewi Sant wedi adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hil a’u dileu wrth feithrin diwylliant cynhwysol sy’n gwerthfawrogi pob aelod o’i chymuned. 

Roedd cyflawni’r achrediad hwn yn cynnwys hunanasesiad trylwyr o sefyllfa bresennol y Brifysgol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu i dywys newid ystyrlon dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor: “Mae’r Brifysgol yn falch o ennill y  Siarter Cydraddoldeb Efydd gan Advanced HE, sy’n dangos ein hymrwymiad i adeiladu cymunedau cryf a chynhwysol ar draws ein campysau. Mae’r Siarter yn cydnabod y gwaith yr ydym wedi’i wneud gyda chydweithwyr a myfyrwyr i yrru newid ystyrlon ac yn darparu llwyfan ar gyfer gwelliant pellach”.

Dywedodd Anne Mwangi, Pennaeth y Siarter Cydraddoldeb Hil, “Mae’r Wobr Efydd yn gydnabyddiaeth o sylfaen gadarn sefydliad ar gyfer dileu anghydraddoldebau ar sail hil, datblygu diwylliannau cynhwysol a symud o ymrwymiad i weithredu cynaliadwy ac integredig, beiddgar ac uchelgeisiol.

“Mae Advance HE yn edrych ymlaen at gefnogi’r Drindod Dewi Sant wrth iddi fwrw ymlaen â’i chynlluniau gweithredu i hyrwyddo cydraddoldeb hil.”

Meddai ,Tianran Liu (Rainna) a Jennifer Taylor, Llywyddion Undeb y Myfyrwyr: “Mae Undeb y Myfyrwyr yn llongyfarch y Brifysgol ar ennill y wobr efydd yn y Siarter Cydraddoldeb Hil. Gwaith diflino swyddogion fel Rhobyn Grant (Llywydd Campws Llambed 24-25) a chydweithwyr y Brifysgol sydd wedi arwain at y cyflawniad hwn. Gan weithio mewn partneriaeth, crëwyd nifer o adnoddau i gefnogi staff wrth ddatblygu cwricwla mwy cynhwysol ac i helpu myfyrwyr i ddeall cydraddoldeb ethnig. Mae mwy i’w wneud o hyd yn y sector addysg drydyddol ac yn y gymdeithas ehangach ar amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth i’w ddathlu ar y ffordd o’n blaenau”.

Mae’r fframwaith Siarter Cydraddoldeb Hil yn cwmpasu ac yn effeithio’n gadarnhaol ar:

  • Staff academaidd a phroffesiynol;
  • Profiad, dilyniant a chyrhaeddiad myfyrwyr;
  • Amrywiaeth y cwricwlwm.

Canlyniad y broses hon yw cynllun gweithredu sydd wedi’i alinio â  thri maes Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol 2024-2028, sef Dealltwriaeth, Perthyn a Deilliannau.  Trwy hyn, mae’r Drindod Dewi Sant yn parhau i weithio’n weithredol ar gael gwared ar rwystrau at gyfranogiad, gwerthfawrogi gwahaniaethau, dathlu amrywiaeth a chefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiad i gyflawni eu potensial.

Ychwanegodd yr Athro Elwen Evans, CB: “Roedd ein Tîm Hunanasesu Cydraddoldeb Hil yn cynnwys cydweithwyr a myfyrwyr o’n holl gampysau. Rwy’n ddiolchgar i’r tîm cyfan am y mewnwelediadau, yr arbenigedd, y brwdfrydedd a’r profiadau byw a helpodd i lunio ein cais llwyddiannus”. 

Logo Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hil

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;01267&Բ;676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon