Dylunydd graddedig yn lansio datrysiad clyfar i gywiro'r ymbarél bregus
Mae’r Dylunydd Cynnyrch a chyn-fyfyriwr Dylunio Modurol PCYDDS, Richard Heale, wedi troi ei arbenigedd dylunio tuag at fenter entrepreneuraidd sy’n mynd i’r afael â phroblem gyffredin a rhwystredig: yr ymbarél bregus. Er y gallai fod unwaith wedi dychmygu dyfodol wedi’i dreulio mewn twneli gwynt yn profi uwch-geir, mae Richard bellach wedi sianelu ei angerdd am beirianneg i ymbarél sy’n gwrthsefyll y tywydd ac sydd wedi’i gynllunio i bara.

Wedi’i leoli yn Camden Town, Llundain, mae Richard wedi cymhwyso dros 20 mlynedd o brofiad mewn dylunio cynnyrch ar draws gwahanol ddiwydiannau i greu datrysiad gwydn ar gyfer mater pob dydd. Ar ôl gwylio gormod o ymbarelau yn crychu o dan bwysau gwyntoedd cryfion y ddinas - gan droi’n adenydd olwyn wedi’u torri a charpion ffabrig - mae wedi mynd ati i greu rhywbeth gwahanol.
“Yn 2011, fe wnaeth pum ymbarél wrthdroi a thorri dros gyfnod o chwe mis wrth i mi gerdded i’r gwaith ar draws pont yn Canary Wharf pan oedd hi’n chwythu’n arw” meddai Richard. “Ar ôl i’r pumed un dorri, penderfynais nad oeddwn i’n mynd i wastraffu rhagor o arian. Yn lle hynny, es i adref y noson honno a gosod her i mi fy hun: ail-beiriannu yr ymbarél rhad hwn yn rhywbeth gwirioneddol wydn, wedi’i gynllunio i fedru delio â’r gwynt, para’n hirach, a thorri’r cylch o orfod ei amnewid yn gyson.”
Cafodd y syniad ar gyfer yr halo® Umbrella ei siapio y noson honno, wedi’i fraslunio o far mewn tafarn yn Camden. Blynyddoedd o ddatblygiad a phrofi yn ddiweddarach, mae gweledigaeth Richard yn realiti. Mae’r ymbarél wedi cael ei brofi’n drylwyr mewn twneli gwynt a ddefnyddir fel arfer ar gyfer aerodynameg cerbydau a chwaraeon perfformiad ac mae wedi cael ei brofi ochr yn ochr â chystadleuwyr blaenllaw. Gyda ffocws ar wrthiant gwynt ac effeithlonrwydd strwythurol, mae’n gwrthsefyll gwrthdroad ac yn dal ei dir hyd yn oed yn yr amodau llymaf.
Gan gyfuno symlrwydd â pherfformiad, creodd Richard ddatrysiad clyfar sydd nid yn unig yn gwella hirhoedledd ond sydd hefyd yn anelu at leihau gwastraff amgylcheddol. Gyda hyd at 1 biliwn o ymbarelau yn cael eu gwerthu bob blwyddyn, llawer ohonynt yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw, mae’r halo® Umbrella yn cynnig dewis cynaliadwy sy’n lleihau’r angen am amnewidiadau cyson.
Yn rhyfeddol, mae’n cynnig perfformiad ymbarél premiwm sydd ym mhen ucha’r farchnad – gyda phrisiau sydd bum gwaith yn uwch fel arfer - am gost fforddiadwy sydd o dan £15.
“Roeddwn i eisiau creu ymbarél sydd ddim yn ychwanegu costau ychwanegol, defnyddiau egsotig, nac yn gofyn am gynhyrchu arbenigol,” meddai Richard. “Rydych chi’n cael gwydnwch a pherfformiad ymbarél drud am bris model cost isel, cydio a mynd.
“Mae’n fach ac yn ysgafn - yn ddigon bach i ddiflannu i’ch bag neu’ch blwch menig - ac mae ei faint wedi ei lunio’n fwriadol ar gyfer bywyd yn y ddinas, felly gallwch gerdded trwy strydoedd gorlawn yn rhwydd a chamu trwy ddrysau heb orfod straffaglu i’w gau yn y glaw.”
Bydd yr halo® Umbrella yn lansio ar Kickstarter ddydd Mawrth yma, 15 Ebrill.
Cefnogwch genhadaeth Richard i leihau gwastraff a gwneud ymbarél sydd wir yn gwrthsefyll y gwynt yn hygyrch i bawb. Helpwch i dorri’r cylch ymbarelau tafladwy a bod yn rhan o rywbeth sy’n para.
Darllenwch ragor am stori Richard a dyluniad arloesol yr halo® Umbrella, a chefnogwch lansiad Kickstarter:


Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996