Eicon heddwch byd-eang a Llysgennad Ewyllys Da UNESCO, Phan Thị Kim Phúc, i draddodi darlith agoriadol Bridging Futures yn Abertawe
Cyfarfod Cyffredinol UNESCO BRIDGES i ymgynnull arweinwyr rhyngwladol, lleisiau brodorol, ac ysgogwyr newid yng Nghymru, Gorffennaf 16-17, 2025
Mae Clymblaid UNESCO-MOST BRIDGES yn falch o gyhoeddi ei Gyfarfod Cyffredinol, , a gynhelir ar 16-17 Gorffennaf, 2025, yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe.

Bydd y digwyddiad o bwys hwn yn cynnwys Darlith Gyhoeddus Nodedig gyntaf Bridging Futures, a draddodir gan - Llysgennad Ewyllys Da UNESCO, eiriolwr heddwch byd-eang, a’r unigolyn sydd wrth wraidd un o’r ffotograffau mwyaf eiconig mewn hanes.
Mae Kim Phúc, y cyfeirir ati’n aml yn anffurfiol fel “y ferch yn y llun” o Ryfel Fietnam, wedi trawsnewid ei thrawma yn genhadaeth gydol oes dros heddwch, cymod a thosturi. Mae ei phresenoldeb yn Abertawe yn dynodi galwad bwerus am iachâd a dynoliaeth gyffredin mewn cyfnod o her fyd-eang.
“Mae heddwch yn dechrau gyda thrugaredd - atom ni ein hunain, at ein gilydd, ac at y blaned. Yn Abertawe, rwy’n gobeithio rhannu nid yn unig fy stori i, ond neges y gellir trawsnewid poen yn bwrpas, ac y gallwn, gyda’n gilydd, adeiladu dyfodol mwy cyfiawn a heddychlon,” meddai Phan Thị Kim Phúc (Kim).
Bydd Bridging Futures yn taflu goleuni ar ddeddfwriaeth arloesol Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan dynnu sylw at ymdrechion byd-eang tuag at lywodraethu cynaliadwy, cynhwysol sy’n pontio’r cenedlaethau.
Cyfarfod Cyhoeddus o Weledyddion Byd-eang
Mae diwrnod cyntaf y digwyddiad (16 Gorffennaf) yn agored i’r cyhoedd drwy a bydd yn dod i ben gyda phrif ddarlith Kim Phúc. Bydd y diwrnod yn cynnwys , yn fwyaf nodedig anerchiad gan . Bydd mynychwyr hefyd yn clywed gan ffigurau blaenllaw gan gynnwys:
- Jane Davidson, Cyn Weinidog Cymru dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd;
- Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;
- Gustavo Merino, Cyfarwyddwr Polisi Cymdeithasol, UNESCO;
- Arweinwyr meddwl byd-eang o Academi Celfyddyd a Gwyddoniaeth y Byd, Club of Rome, a Phrifysgol Talaith Arizona.
Bydd sgwrs gartrefol a chyfarfod bord gron lefel uchel ar bolisi hinsawdd a chynaliadwyedd yn dyfnhau trafodaethau ar heriau cyfredol a strategaethau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol BRIDGES:
“Ar adeg o aflonyddwch byd-eang dwys, rhaid i ni adeiladu pontydd rhwng cenedlaethau, disgyblaethau a diwylliannau i lunio dyfodol sy’n gyfiawn, yn gynaliadwy ac yn heddychlon. Nid adeilad yn unig yw pont. Mae’n symbol o gysylltiad a chyfeiriad, sy’n cysylltu ble yr ydym i ble mae’n rhaid i ni fynd. Mae Abertawe, gyda’i hanes cyfoethog o weithredu dros heddwch a chyfiawnder, yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer Darlith gyntaf Bridging Futures. Wedi’i gyflwyno gan Lysgennad Ewyllys Da UNESCO, Kim Phúc, mae’r digwyddiad hwn yn nodi eiliad bwerus o fyfyrio a chyd-ymrwymiad i fyd lle mae tosturi, doethineb ac arweinyddiaeth sy’n ystyriol o’r dyfodol yn arwain ein dewisiadau.”

Sut i fynychu
Cofrestrwch eich diddordeb i fynychu drwy Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Ynglŷn â’r Gyfres Darlithoedd
Mae’r Gyfres o Ddarlithoedd Bridging Futures yn fenter fyd-eang newydd sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n seiliedig ar foeseg. Fe’i noddir ar y cyd gan Glymblaid UNESCO-MOST BRIDGES, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona.
Ynglŷn â UNESCO-MOST BRIDGES:
Mae BRIDGES yn gynghrair ym maes gwyddor cynaliadwyedd, sydd wedi’i hangori o fewn Rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (Management of Social Transformations neu MOST) UNESCO, sy’n ymroddedig i feithrin ymchwil a deialog drawsddisgyblaethol ar gynaliadwyedd, cyfiawnder cymdeithasol, a dyfodol cynhwysol. Mae’n dwyn ynghyd rwydwaith byd-eang o ymchwilwyr, llunwyr polisi, ymarferwyr a phartneriaid cymunedol i bontio gwybodaeth a gweithredu ar gyfer byd mwy cynaliadwy a theg.
Ynglŷn â’r Noddwyr:
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gynnal Hwb y DU a Swyddfa Rhaglen Ryngwladol UNESCO-MOST BRIDGES. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y brifysgol i’w rôl wrth feithrin trafodaethau ac ymchwil gydweithredol ar gyfer dyfodol cynaliadwy sy’n gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol.
Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona:
Yn gartref i Hwb Blaenllaw BRIDGES a Rhwydwaith Byd-eang y Dyniaethau ar gyfer yr Amgylchedd, mae Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona yn arweinydd a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol. Gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau byd-eang hanfodol i greu dyfodol ffyniannus i bawb, nod y Labordy Dyfodol Byd-eang yw cynhyrchu gwybodaeth a datblygu atebion ar gyfer byd cynaliadwy a theg.
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn gorff annibynnol a sefydlwyd i weithredu fel gwarcheidwad er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Mae’n cefnogi cyrff cyhoeddus i ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gan anelu at sicrhau Cymru sy’n amgylcheddol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd fywiog am genedlaethau i ddod.
Cyswllt:
UNESCO-MOST BRIDGES IPO
E-bost: unesco-most.bridges.ipo@uwtsd.ac.uk
Gwefan:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076