ĂÜĚŇ´«Ă˝

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o gyhoeddi bod Ellie Jones wedi ennill Gwobr Goffa D D Rees ar gyfer Mathemateg eleni. Derbyniodd Ellie y clod yn ystod seremoni raddio heddiw (8 Gorffennaf) yng Nghaerfyrddin.

Ellie Hones headshot in graduation gown on Carmarthen campus

A hithau’n Gymraes o Abertawe, dewisodd Ellie y Drindod Dewi Sant am ei phwyslais cryf ar y Gymraeg a’i diwylliant, gyda’r nod o hybu ei hyder i ddefnyddio’r iaith. “Fel Cymraes o Abertawe, ni chefais lawer o gyfleoedd i wneud defnydd o’r iaith gartref. O ganlyniad, dewisais Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei Chymreictod er mwyn helpu i fagu fy hyder yn yr iaith,” eglurodd Ellie.

Mae ei thaith yn PCYDDS wedi’i nodi gan dwf personol a phroffesiynol sylweddol, diolch i gefnogaeth ddiwyro gan staff y brifysgol. “Wrth ddechrau gyda’r brifysgol, gwelais nid yn unig ddefnydd cryf o’r iaith yn addysgol ac yn gymdeithasol, ond y gefnogaeth gan staff. Gyda chefnogaeth gref fy mentoriaid, rwyf wedi cael y cyfle i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol,” meddai.

Mae ymroddiad Ellie i addysg, yn enwedig mewn mathemateg, wedi ei hysgogi i fynd i’r afael â rhwystrau cyffredin a wynebir gan fyfyrwyr yn y pwnc hwn. “Wrth gwblhau ystod o brofiadau addysgu, sylweddolais y rhwystrau cyffredin mewn addysg heddiw, yn enwedig wrth ddysgu mathemateg. Mae’n gallu bod yn anodd iawn annog plant i fwynhau mathemateg a rhifedd, felly fe wnes i ymchwilio i weld pa strategaethau sydd ar gael i wella’r sefyllfa ,” nododd.

Arweiniodd ei dull arloesol hi i archwilio integreiddio dysgu awyr agored mewn gwersi mathemateg a rhifedd. Cynhaliodd Ellie ymchwil helaeth, gan gynnwys arsylwadau, cyfweliadau, a holiaduron, i gasglu mewnwelediadau gwerthfawr. “Gyda’r wybodaeth a gesglais, es ymlaen i ysgrifennu aseiniad i gymharu fy nghanfyddiadau â llenyddiaeth ac roeddwn yn gallu rhannu hyn ag ysgolion. Heb gymorth y brifysgol, ni fyddwn byth wedi gallu dychmygu bod hyn yn bosibl,” dywedodd Ellie.

Yn gweithio fel athrawes gyflenwi ar hyn o bryd, mae Ellie yn gobeithio sicrhau swydd addysgu barhaol yn fuan. Mae ei hangerdd dros ysbrydoli myfyrwyr yn amlwg wrth iddi edrych yn Ă´l ar ei thaith addysgol. “Mae plant yn cofio’r ffordd y gwnaeth eu hathrawon eu hysbrydoli am byth. Rwy’n dal i gofio’r angerdd a ddangosodd fy athrawon wrth fy ngwthio i fod y gorau y gallwn i fod. Am y rheswm hwn, roeddwn yn siŵr mai dyma’r yrfa berffaith i mi. Gallai’r athrawes yma nawr fod yno i gefnogi nifer o blant yn y dyfodol a hynny o ganlyniad i gymorth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,” meddai.

Cliciwch isod am ragor o wybodaeth am raglenni Addysgu a TAR PCYDDS:

/cy/subjects/addysgu-tar 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07384&˛Ô˛ú˛ő±č;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon