Rhaglen Arweinyddiaeth Weithredol yn cefnogi nodau'r Gymanwlad
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu arweinwyr gwleidyddol Maharashtra yn India i astudio ei Rhaglen Arweinyddiaeth Weithredol.

Ymwelodd aelodau Cynulliad Deddfwriaethol Maharashtra (MLA) yn India â’r DU yr wythnos hon yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Weithredol gyda’r nod o gefnogi menter Dyfodol Byd-eang sydd wedi’i lleoli ar gampws Llambed Y Drindod Dewi Sant.
Datblygwyd y rhaglen beilot i gefnogi nodau’r Gymanwlad o ddemocratiaeth, datblygiad a heddwch ac fe’i cefnogir gan Lefarydd Cynulliad Maharashtra â chyllid gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Meddai Iestyn Davies, Pro Is-Ganghellor yn Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r rhaglen yn adeiladu ar ymrwymiad y Brifysgol i ymchwilio, addysgu a hyrwyddo egwyddorion dyfodol byd-eang. Dyma lle mae dull amlddisgyblaethol yn cefnogi datblygiad ymatebion ymarferol i rai o heriau polisi a gwleidyddol dybryd y byd.
“Mae’r garfan bresennol o Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol Maharashtra yn cefnogi datblygiad rhaglen dros gyfnod hwy i gynorthwyo llunwyr polisi, deddfwyr a phawb sydd wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol cynaliadwy i roi gwahaniaethau ideolegol, crefyddol neu ddiwylliannol o’r neilltu er mwyn chwilio am atebion i wasanaethu ein dynoliaeth gyffredin”.
Dilynodd yr Aelodau gyfres o seminarau yn Llambed ar egwyddorion y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn ogystal â phynciau sy’n ymwneud â meysydd Cynaliadwyedd, Arweinyddiaeth a deialog Aml-ddiwylliannol ac Aml-ffydd. Ymwelon nhw hefyd â Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol i weld casgliadau arbennig y Brifysgol.
Yn ogystal, cynhaliwyd ymweliad â Senedd Cymru gan Alun Davies, AS, lle cyflwynwyd y grŵp i setliad gwleidyddol Cymru ac i gyd-destun ehangach y broses ddatganoli rhwng 1979 a 1997 a arweiniodd, yn y pen draw, at sefydlu Senedd Cymru. Ymwelon nhw hefyd â San Steffan a Thai’r Senedd yn Llundain gan gyfarfod â’r Arglwydd Alderdice, cyn-arweinydd Plaid Cynghrair Gogledd Iwerddon ac Athro Ymarfer yn y Brifysgol.

Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07968&Բ;249335