Taith Theodora i gyflawni breuddwyd gydol oes yn Y Drindod Dewi Sant
Mae Theodora Brown, cyn-nyrs deintyddol o Norfolk, yn dathlu carreg filltir bwysig yr haf hwn wrth iddi raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD) gyda BA mewn Gwareiddiadau Hynafol - gan gyflawni breuddwyd plentyndod a gosod ei bryd ar uchelgeisiau academaidd pellach.

Ar 么l bron i saith mlynedd yn gweithio mewn nyrsio deintyddol, gwnaeth y fyfyrwraig aeddfed benderfyniad beiddgar a newidiodd ei bywyd i ddilyn ei hangerdd dros hanes ac archaeoleg. 鈥淩ydw i wedi ymddiddori mewn diwylliannau hynafol ers cyhyd ag y gallaf gofio,鈥 meddai. 鈥淧an ddes i ar draws y cwrs Gwareiddiadau Hynafol ar gampws Llambed, roeddwn i鈥檔 gwybod mai dyna鈥檔 union yr oeddwn i鈥檔 chwilio amdano. Yn bersonol, mae鈥檙 cwrs hwn wedi fy helpu i wireddu breuddwyd gydol oes o gael gradd hanes ac wedi rhoi鈥檙 ysgogiad i mi nawr gael gradd meistr.鈥
Daeth dewis Llambed yn naturiol. 鈥淪yrthiais mewn cariad 芒鈥檙 lleoliad tawel, heddychlon a harddwch cefn gwlad Cymru. Roedd yn lle perffaith i ganolbwyntio ar rywbeth rydw i wedi鈥檌 garu erioed.鈥
Roedd ei nod yn glir o鈥檙 cychwyn cyntaf: archwilio diwylliannau ac arteffactau amrywiol y byd hynafol trwy ddadansoddi arteffactau. 鈥淵r hyn a鈥檓 denodd at y radd hon yn benodol oedd ei amrwyiaeth,鈥 eglurodd. 鈥淵n wahanol i raddau hanes eraill sy鈥檔 canolbwyntio鈥檔 gul ar un faes neu gyfnod, caniataodd y cwrs hwn i mi ddysgu am lawer o wareiddiadau ar draws y byd hynafol.鈥
Ymhlith uchafbwyntiau ei hamser yn Y Drindod Dewi Sant roedd yr arddulliau addysgu amrywiol a’r ystod o asesiadau. 鈥淒aeth y darlithwyr 芒 mewnwelediadau mor unigryw i bob pwnc, ac roeddwn i wir yn gwerthfawrogi elfennau creadigol ac ymarferol y cwrs. Nid traethawd ar 么l traethawd yn unig oedd hi gan ein bod ni’n cael ein hannog i feddwl yn wahanol a chymhwyso ein gwybodaeth mewn amrywiol ffyrdd.鈥
Daeth profiad arbennig o gyfoethog yn ystod ei hail flwyddyn, pan dreuliodd semester yn astudio ym Mhrifysgol Bologna yn yr Eidal. 鈥淩oedd y profiad hwnnw’n anhygoel,鈥 meddai. 鈥淐ymerais fodiwlau a oedd yn canolbwyntio ar hanes y Dwyrain Agos - rhywbeth na fyddwn i wedi cael mynediad iddo fel arall. Byddwn i’n annog unrhyw fyfyriwr i fanteisio ar y cyfle i astudio dramor; mae wir yn ehangu eich persbectif.鈥
Er gwaethaf ei llwyddiannau, nid oedd y daith heb ei heriau. Roedd byw gyda dyspracsia yn gwneud rheoli amser a hunan-barch yn anodd ar adegau. 鈥淥nd cefais gefnogaeth wych,鈥 meddai. 鈥淩oedd fy nhiwtor cymorth dysgu, Nigel Watkins, yn wych. Roedd yn deall fy anghenion yn iawn ac yn fy helpu i ddatblygu’r offer i lwyddo a theimlo’n falch o fy ngwaith.鈥
Nawr, gyda’i gradd yn ei llaw a’i hyder academaidd ar ei uchaf erioed, mae hi’n paratoi i ddychwelyd i nyrsio deintyddol wrth wneud cartref parhaol yng Nghymru - lle y mae hi wedi dod i’w garu. Ond nid yw ei thaith academaidd drosodd eto. 鈥淩wy’n gobeithio dechrau gradd meistr rhan-amser mewn Gwareiddiadau Hynafol, gan arbenigo mewn eiconograffeg grefyddol yn ystod yr Oes Efydd Hwyr ar draws M么r y Canoldir ehangach. Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r cymhelliant i mi barhau.鈥
I unrhyw un sy’n ystyried astudio Gwareiddiadau Hynafol, mae ei chyngor yn glir: 鈥淥s ydych chi’n angerddol am archaeoleg a hanes hynafol ac eisiau archwilio amrywiaeth o ddiwylliannau yn fanwl, dyma’r cwrs i chi yn bendant.鈥
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
贵蹿么苍:&苍产蝉辫;07384&苍产蝉辫;467076