Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn fwrlwm o gyffro wrth i ddosbarth 2025 ddathlu eu graddio heddiw (7 Gorffennaf) yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin.

Graduating students throw their mortarboard hats in the air in front of the Old College, Carmarthen.

Mae’r seremonïau hyn yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr, gan roi cyfle i gymuned gyfan y Brifysgol anrhydeddu eu cyflawniadau nodedig.

Mynegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor PCYDDS, arwyddocâd yr achlysur: “Mae graddio yn rhoi’r cyfle i ni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu.  Mae eich addysg wedi bod yn fwy na pharatoad ar gyfer gyrfa; mae’n sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes ac yn ymrwymiad i wneud gwahaniaeth. Mae gennych chi’r potensial i ddefnyddio popeth rydych chi wedi’i ddysgu i gael effaith gadarnhaol ar les ein cymdeithas yn y dyfodol ac ar fywydau pobl eraill. Gallwch fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau heddiw. Rydych chi wedi dangos bod gennych chi’r penderfyniad, yr ymrwymiad, a’r gwytnwch i lwyddo.”

Mae’r dathliadau yn para dau ddiwrnod, gyda seremonïau ar 7 a 8 Gorffennaf, yn nodi achlysur llawen i raddedigion, eu teuluoedd, a chymuned gyfan y Brifysgol.

I’r rhai na allant ddod yn bersonol, mae PCYDDS yn cynnig ffrydio byw o bob seremoni ar wefan y Brifysgol:

Ymunwch â ni i ddathlu taith a llwyddiant anhygoel dosbarth PCYDDS 2025!

Drone shot of Carmarthen campus on graduation day

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon