Pennod newydd yn dechrau: Y myfyrwyr cyntaf yn graddio mewn Cytgord a Chynaliadwyedd yn Y Drindod Dewi Sant
Mae dau fyfyriwr wedi graddio am y tro cyntaf o’r cwrs arloesol MA ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS) - rhaglen sy’n annog persbectif ffres ar ein cysylltiad â’r byd naturiol.

Wedi’i lansio yn 2023, mae’r cwrs yn tynnu ysbrydoliaeth o Harmony: A New Way of Looking at Our World, llyfr sy’n ysgogi meddwl a gyd-awdurwyd yn 2010 gan noddwr y Brifysgol, Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru ar y pryd, ochr yn ochr â Tony Juniper Juniper (pennaeth Cyfeillion y Ddaear y DU ar y pryd) ac Ian Skelly. Mae’r llyfr yn cynnig fframwaith amserol yn seiliedig ar egwyddor glasurol Cytgord - y syniad bod popeth yn y byd yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn ei gymhwyso fel canllaw i adnewyddu amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae’r graddedigion cyntaf, Markus Schlotbohm a Jennifer Williams, wedi cyfrannu safbwyntiau ffres ac ystyrlon i faes cynyddol astudiaethau Cytgord.
Dywedodd Dr Nicholas Campion, Athro Cyswllt Cosmoleg a Diwylliant a Chyfarwyddwr Sefydliad Cytgord y Brifysgol, a ddatblygodd y rhaglen MA:
“Mae’n fraint gallu helpu i wireddu gweledigaeth ymarferol Tywysog Cymru ar y pryd o fyd gwell, mwy cysylltiedig. Mae gwaith Markus a Jennifer yn dangos pa mor berthnasol ac angenrheidiol yw’r ffordd hon o feddwl.”

I Markus Schlotbohm, mae’r cysyniad o Gytgord wedi cael effaith drawsnewidiol. Archwiliodd ei ymchwil sut y gallai ategu dull mwy moesegol ac integredig o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
“Mae’r cysyniad o Gytgord wedi llunio’n ddwfn fy null o ran lles personol a chyfunol,” meddai. “Mewn byd lle mae rhaniadau yn gynyddol gyffredin, rwy’n gweld Cytgord fel rhywbeth hanfodol ar gyfer creu’r cydgysylltedd sy’n galluogi cynaliadwyedd gwirioneddol.”
Trodd Jennifer Williams ei ffocws at y berthynas rhwng plant a’r byd naturiol, gan ymchwilio i ffyrdd o fynd i’r afael â’r hyn a elwir yn aml yn ‘anhwylder diffyg natur’.
“Helpodd archwilio’r berthynas rhwng Cytgord a Datblygu Cynaliadwy fi i weld bod Cytgord yn cynnig dull gadarn sy’n canolbwyntio ar bobl i fynd i’r afael â heriau cymhleth byd-eang,” myfyriodd. “Rwyf wedi dod i gredu bod rhaid i newid parhaol a chynaliadwy gael ei yrru gan hunangymhelliant, ac mae cytgord yn meithrin hynny drwy gysylltu’r personol a’r planedol mewn ffordd ystyrlon.”
Pwysleisiodd David Cadman, Athro Ymarfer Heddwch a Chytgord y Brifysgol ac unigolyn allweddol wrth lunio’r rhaglen, arwyddocâd ehangach cytgord yn y byd heddiw:
“Trwy astudio cytgord, a’i ddwy egwyddor allweddol o gyfanrwydd a chysylltiad, rydym yn dechrau gweld natur ac ansawdd perthnasoedd - boed mewn economeg, addysg, iechyd, neu ecoleg. Yr hyn sydd ei angen nawr yw iaith newydd o gysylltiad, ac mae astudio cytgord yn ein helpu i ddod o hyd iddi.”
Wrth i’r Drindod Dewi Sant nodi’r garreg filltir hon, mae’r Brifysgol yn gwahodd eraill i ymuno â’r daith weledigaethol hon - un sy’n plethu doethineb hynafol a meddwl cyfoes, ac yn gosod perthynas, cydbwysedd, a gofal wrth wraidd cynaliadwyedd.
Diddordeb mewn astudio Cytgord a Chynaliadwyedd?
Anfonwch e-bost at Dr Nicholas Campion yn n.campion@uwtsd.ac.uk
Ewch i Sefydliad Cytgord:
Dysgwch fwy am y llyfr Harmony: A New Way of Looking at Our World:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076