Ҵý

Skip page header and navigation

Mae animeiddiad a phodlediad newydd Dr Rebekah Humphreys yn herio datgysylltiad emosiynol mewn gwyddoniaeth ac yn galw am ymagwedd fwy sensitif at ymchwil.

Er bod llawer o wyddoniaeth fodern yn falch o’i gwrthrychedd a’i manwl gywirdeb clinigol, mae prosiect newydd dan arweiniad ymchwil gan Dr Rebekah Humphreys, yr academydd athroniaeth o’r Drindod Dewi Sant, yn herio ymchwilwyr i ailystyried dimensiynau emosiynol eu gwaith yn arbennig mewn meysydd llawn materion moesegol fel arbrofi ar anifeiliaid.

Picture of outside Lampeter Campus, grey brick building with grey flagstone walkway with a water fountain in the centre and two green bushes in grey square plant pots on a sunny day

Wrth wraidd gwaith Dr Humphreys mae cysyniad dadsensiteiddio ac adrannu eithafol: prosesau seicolegol sy’n caniatáu i weithwyr proffesiynol ddatgysylltu’n emosiynol rhag tasgau sy’n anodd yn foesegol. Mewn cyd-destunau fel profion anifeiliaid, gofal iechyd, ac ymchwil milwrol, yn aml, mae’r mecanweithiau hyn yn cael eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn i weithwyr proffesiynol allu parhau i weithredu’n effeithiol. Ond beth sy’n digwydd, gofynna Dr Humphreys, pan fydd datgysylltiad yn mynd yn rhy bell?

 “Mae yna berygl go iawn, pan fyddwn yn pellhau ein hunain yn emosiynol oddi wrth bwysau moesegol ein gwaith, y byddwn yn dechrau colli’r gallu neu’r parodrwydd i ofyn cwestiynau beirniadol,” meddai Dr Humphreys. “Nid dim ond ein teimladau y gall adrannu eu pylu, ond hefyd ein sylw moesegol.”

O Athroniaeth i Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Er mwyn archwilio’r cwestiynau hyn, gwnaeth Dr Humphreys gydweithio’n ddiweddar â Research Outreach i recordio podlediad yn dadbacio tirlun moesegol ymchwil anifeiliaid, a gweithio gyda SciAni i gynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio sy’n dangos yn fyw y gwrthdaro mewnol hwnnw y gall gwyddonydd ei brofi.

Canlyniad hyn yw pecyn gafaelgar, pryfoclyd o gynnwys ar gyfer y cyhoedd sy’n dod ag athroniaeth academaidd i mewn i drafodaeth â phenblethau moesegol bob dydd, gan bontio gwyddoniaeth a’r Dyniaethau. 

&Բ; Gwrandewch ar y podlediad::

  • 🎥 Gwyliwch yr animeiddiad:

 “Roedd arnom ni eisiau i’r animeiddiad, yn arbennig, wneud y profiad emosiynol yn weladwy a’r cynnwys a’r syniadau yn hygyrch i bawb,” meddai Dr Humphreys. “Ei bwrpas yw dangos yr erydiad cynnil o sensitifrwydd moesegol sy’n gallu digwydd pan fydd arferion yn cael eu normaleiddio a’u sefydliadu.”

Ail-sensiteiddio Gwyddoniaeth

Gan ddefnyddio moeseg athronyddol ac arsylwi ar y byd go iawn, mae ymchwil Dr Humphreys yn gosod achos cymhellol dros “ail-sensiteiddio” gwyddoniaeth ac ailgyflwyno adfyfyrio emosiynol yn rhan ddilys o arfer ymchwil moesegol.Yn bell o fod yn rhwystr rhag cynnydd gwyddonol, gall teimlo’n anghyffyrddus neu’n ansicr fod yn signalau moesol pwysig, a thynnu sylw at anghysondebau yn ein beirniadaeth foesol, a hyd yn oed arwain at weithredoedd na fyddent yn bosibl oni bai am ryw fath o adrannu eithafol yn y meddwl.

Mae’r ymagwedd ryngddisgyblaethol hon yn amlygu’r angen am gydweithio agosach rhwng y gwyddorau a’r Dyniaethau. Mae Dr Humphreys yn dadlau bod athroniaeth mewn sefyllfa unigryw i chwilota’r mannau llwyd moesol a allai gael eu hesgeuluso gan ganllawiau technegol neu restrau gwirio rheoliadol, yn arbennig mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag ‘ymarferoldeb’.

 “Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym beth allwn ni ei wneud. Mae Athroniaeth yn gofyn p’un a ddylwn ei wneud,” meddai. “Pan ddaw’r ddau safbwynt yna at ei gilydd, cyfyd ymagwedd fwy cyflawn, ymatebol at wneud penderfyniadau moesegol.”

Taro Tant ar draws Disgyblaethau

Er bod ei gwaith yn canolbwyntio ar ymchwil anifeiliaid, mae’r themâu’n taro tant yn fwy eang na hynny. Gellir gweld datgysylltiad emosiynol ar draws ystod o feysydd. O ddeallusrwydd artiffisial i bolisi amgylcheddol, mae materion moesegol cymhleth mewn perygl o gael eu troi’n broblemau technegol neu o gael eu hanwybyddu’n gyfan gwbl.

 “Mae yna dueddiad i drin ymatebion emosiynol fel rhywbeth anwyddonol neu afresymol,” esbonia Dr Humphreys.“Ond maent yn aml yn ein pwyntio tuag at rywbeth mae angen i ni ei gymryd o ddifri a’i herio.”

Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth addysgu, lle mae Dr Humphreys yn ymgorffori’r syniadau hyn mewn modylau sy’n annog myfyrwyr i archwilio fframweithiau moesegol, ond hefyd, profiad go iawn o wneud penderfyniadau anodd.

 “Rydym yn siarad digon am foeseg yn nhermau rheolau a deilliannau, ond ddim digon am sut mae’n teimlo i wneud dewis sydd â chanlyniadau go iawn,” meddai. “Mae yna fwlch y gall y Dyniaethau helpu ei lenwi.”

Cyfathrebu creadigol, Effaith Go Iawn

Nid dim ond offer allgymorth yw’r podlediad a’r animeiddiad.Maent hefyd yn enghreifftiau o sut y gellid cyfathrebu syniadau academaidd cymhleth mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd cyhoeddus ac annog adfyfyrio.

Trwy gyfuno ymholi athronyddol ag adrodd straeon creadigol, mae Dr Humphreys yn helpu i lunio diwylliant ymchwil sy’n fwy ymwybodol yn emosiynol a chadarn yn foesegol – un sy’n gwerthfawrogi cydymffurfiaeth, ond cydwybod hefyd.

Wrth i ddadleuon ynghylch hawliau anifeiliaid, cyfrifoldeb gwyddonol, a llafur emosiynol barhau i ddatblygu, mae ei gwaith yn ein hatgoffa’n amserol, nad yw teimladau cryf yn wendid bob amser ond yn hytrach yn rhan hanfodol o feddwl yn glir.

Gweler ‘Sensitising Science to Research involving Animals’ (ynghlwm); Ethics and Language: The Philosophy of Meaningful Communication in the Lives of Animals (Palgrave, 2023); ac Animal Studies and Philosophy (Polity, 2023) sydd ar y gweill. 

Mae Dr Rebekah Humphreys yn uwch ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac yn uwch gymrawd o’r Academi Addysg Uwch. Mae hi’n arbenigo mewn moeseg gymhwysol, yn arbennig moeseg anifeiliaid a moeseg amgylcheddol.

Eisiau dysgu rhagor am Athroniaeth yn PCYDDS?

Gallwch weld pa gyrsiau sydd ar gael drwy wasgu’r ddolen a ganlyn:

/cy/pynciau/athroniaeth-diwinyddiaeth-ac-astudiaethau-crefyddol 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon