Ҵý

Skip page header and navigation

Kylie Boon

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Rheolwr Rhaglen Doethuriaeth Proffesiynol mewn Celf a Dylunio ac MA Celf a Dylunio

Coleg Celf Abertawe

Ffôn: 01792 481000
E-bost: kylie.boon@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n Rheolwr Rhaglen Dros Dro ar yr MA Celf a Dylunio a’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio. Yn ogystal, rwy’n darlithio ar y cwrs BA Ffilm a Theledu a’r cwrs BA Cyfathrebu, sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Malaya-Cymru (UM-Cymru).

Cefndir

Rwyf wedi bod gyda’r Drindod Dewi Sant er 2012, gyda chefndir cryf yn y dyniaethau, gan arbenigo mewn athroniaeth a ffilm. Yn ogystal â’m gwaith academaidd, rwyf hefyd wedi gweithio fel fideograffydd llawrydd i gwmnïau fel Autodesk.

Diddordebau Ymchwil

A minnau’n dod o gefndir ym maes y dyniaethau, mae fy ffocws academaidd presennol ar ‘Addysg Hauntolegol: Archwiliad o naratifau darlithwyr o’r gorffennol a’u canfyddiadau ar gyfer y dyfodol, a sut mae hyn yn effeithio ar integreiddio deallusrwydd artiffisial mewn Prifysgol yn y DU ar hyn o bryd’. 

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sut y gall technolegau datblygol, yn enwedig deallusrwydd artiffisial, drawsnewid addysg. Roedd fy ngwaith blaenorol ar adrodd straeon ac addysg, yn archwilio cyd-destunau rhyngwladol ac yn ailddiffinio addysg gyfunol y celfyddydau ar-lein trwy addysgeg naratif.

Cyhoeddiadau

Cynhadledd NEXUS Cymru (cynhadledd ddysgu ac addysgu flynyddol); Camu i Realiti Newydd: Defnyddio VR i Drawsnewid Addysg Ymchwil. (2023).

Cynhadledd Ryngwladol y Fforwm Academaidd Rhyngwladol ar y Celfyddydau a’r Dyniaethau.  Teitl y Cyflwyniad: “Tradition is the Illusion of Permanence. Rethinking Online Teaching and Learning Among Cohorts in the Arts”

(2019), The Monster Within: Lily in Penny Dreadful, yn Steven Gerrard, Samantha Holland, Robert Shail (gol.)Gender and Contemporary Horror in Television (Emerald Studies in Popular Culture and Gender, Volume) Emerald Publishing Limited, tt.71-82

Proffil yn y byd academaidd

Wedi arddangos yn arddangosfa Lyric One, (2014), Oriel Mission.

Ffilm wedi’i dangos yn ASFF (Gŵyl Ffilmiau Byrion Aesthetica) (2013).

Wedi arddangos yn yr arddangosfa Convergene, (2012), Oriel Mission.

Ffilm fer wedi’i henwebu am y ‘Ffilm arbrofol orau’ yng Ngŵyl Ffilmiau Screen Tests Llundain (2010).