
Cyfleusterau Busnes, Rheolaeth a Chyfrifeg
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Mae Busnes, Rheolaeth a Chyfrifeg yn cynnig profiad deinamig a chyfoethog i fyfyrwyr. Yn PCYDDS, rydym yn meithrin amgylchedd sy’n cyfuno rhagoriaeth academaidd gydag ymarferoldeb yn y byd go iawn. Mae gennym gyfleusterau sydd heb eu hail, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth modern, labordai technoleg uwch, a lleoliadau arbennig er gyfer astudio, a’r cyfan wedi’u dylunio i’ch cefnogi trwy gydol eich taith addysg.
Rydym yn cydweithio’n agos â chyflogwyr i sicrhau bod ein cwricwlwm yn ymateb i anghenion y farchnad ac yn arfogi ein graddedigion â’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd arnyn nhw eu hangen ar gyfer gweithio yn amgylchedd busnes dynamig ein hoes. Trwy roi cymorth gyrfaoedd wedi’i deilwra a chyfleoedd i arfer yr hyn a ddysgir yn y byd go-iawn, rydym yn’n galluogi ein myfyrwyr i droi eu llwyddiannau academaidd yn rhagoriaeth broffesiynol yn ddidrafferth.
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys
Wedi’u lleoli ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin, bydd myfyrwyr busnes a rheolaeth yn mwynhau ystod o gyfleusterau eithriadol. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau addysgu bach, mannau addysgu pwrpasol, ac ystafell drochi. Hefyd, mae myfyrwyr yn elwa o offer TG helaeth, mannau addysgu awyr agored, a chymorth cymheiriaid, gan greu amgylchedd dysgu cynhwysfawr a diddorol.

Ystafelloedd Trochi
Mae ein hystafelloedd trochi yn amgylcheddau dynamig a rhyngweithiol sy’n chwyldroi’r profiad astudio. Mae’r lleoliadau blaengar hyn yn defnyddio’r technolegau diweddaraf, fel realiti rhithwir a thafluniadau 360-gradd, i greu amgylcheddau realistig sy’n gwella dysgu a dealltwriaeth. Gall ein myfyrwyr drin a thrafod cysyniadau cymhleth mewn ffyrdd ymarferol, gallan nhw gydweithio â chyfoedion yn haws, a dysgu o brofiad mewn ffordd sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl mewn ystafell ddosbarth arferol. Trwy ymgolli yn yr amgylcheddau dyfeisgar yma bydd myfyrwyr yn cael gwell dealltwriaeth o’u pwnc.

Ystafelloedd Dosbarth Bach

Addysgu Pwrpasol

Cymorth gan Gymheiriaid

Amrywiaeth o Offer TG ar Gael

Mwynhau’r Awyr Iach
Mae darlithwyr PCYDDS yn defnyddio harddwch naturiol mannau gwyrdd Caerfyrddin i gyfoethogi’r profiad dysgu. Trwy gynnal dosbarthiadau yn yr awyr agored, maen nhw’n creu amgylchedd ysgogol ac ysbrydoledig i fyfyrwyr, sydd yn ei dro’n gwella ymgysylltiad a chreadigrwydd. Mae’r dull yma o addysgu yn caniatáu i fyfyrwyr feithrin cysylltiad dyfnach â’r pwnc yn ogystal â gwella’u llesiant a lleihau straen. Mae addysgu yn yr awyr agored yn annog dysgu gweithredol, meddwl beirniadol, a’r chymhwyso cysyniadau damcaniaethol yn y byd go iawn, gan wneud addysg yn fwy deinamig ac effeithiol.

Oriel Gyfleusterau
Discover Swansea Campus

Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.
Campus Life

Bywyd ar gampws Caerfyrddin
Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.