
Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth
Mynegwch eich ochr artistig gyda’n rhaglenni Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, lle mae gennym enw da hirsefydlog am ragoriaeth. Mae ein hathroniaeth academaidd arloesol yn canolbwyntio ar y gallu i addasu ac mae ein cysylltiadau ardderchog â’r diwydiant yn creu graddedigion mentrus sy’n gallu achub ar y cyfleoedd gyrfaol anhygoel yn y diwydiannau creadigol er mwyn i chi allu dylunio eich dyfodol.
Rydym yn darparu profiad Coleg Celf lle byddwch yn teimlo’n gartrefol iawn, gan ddarparu’r lle a’r cyfleusterau stiwdio sydd eu hangen arnoch i fwrw iddi a mynd i’r afael â’ch dewis faes.
Rydym yn annog ac yn cefnogi’n myfyrwyr i wneud defnydd llawn o’n cyfleusterau helaeth, felly does dim gwahaniaeth pa gwrs rydych chi’n ei ddilyn, gallwch archwilio ein gweithdai ymarfer digidol cyfoes a thraddodiadol wrth i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.
Gydag ystod eang o raddau creadigol ar gael, o Gelf Gain i Ffotograffiaeth a Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, mae ein rhaglenni’n elwa ar amrywiaeth o leoliadau yn y diwydiant, prosiectau byw a darlithwyr gwadd, gyda chwmnïau megis H&M, Jaguar Land Rover, a Rolls Royce, gan eich galluogi i fynd ar y blaen yn eich gyrfa.
Rydyn ni’n 1af yng Nghymru, 3ydd yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau, 1af yng Nghymru, 4ydd yn y DU ar gyfer Cynhyrchu Ffilmiau a Ffotograffiaeth, 1af yng Nghymru , 11eg yn y DU ar gyfer Dylunio Graffig a 1af yng Nghymru ar gyfer Celfyddyd Gain (The Guardian University Guide 2024), sy’n egluro pam yr ydym yn falch o gael graddedigion yn gweithio i Lego, McLaren, Apple a Rolls Royce. Mae’r cyraeddiadau rhagorol hyn yn brawf o ymrwymiad ein staff i greu profiad eithriadol lle byddwch yn gallu ffynnu yn eich gyrfa, fel nifer o’r myfyrwyr o’ch blaenau sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd disglair yn y celfyddydau a chwmnïau dylunio gwerth miliynau o bunnoedd.
Pam astudio Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn PCYDDS?
Spotlights

Cyfleusterau
Mae ein rhaglenni’n cynnig mynediad i chi i ystod eang o weithdai ymarfer cyfoes a thraddodiadol. Felly, p’un a fyddwch yn dewis gweithio gyda phrosesau traddodiadol neu dechnolegau mwy newydd, neu ar draws y ddau, mae gennym yr ateb yma i chi. Darperir lleoedd stiwdio, neu ddewisiadau amgen, ar ein holl raglenni.