
Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar
Mae ein clwstwr amrywiol o raglenni Gwaith Ieuenctid a Blynyddoedd Cynnar yn borth i fyd lle mae eich brwdfrydedd dros gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill yn dod yn fyw. Gallwch ddewis astudio’n hyblyg yn ystod y dydd neu gyda’r nos, gan ganiatáu i chi ddewis y llwybr sy’n gweithio orau i chi.
Gwnewch wahaniaeth i fywydau plant ifanc. Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn caniatáu i chi astudio holl agweddau ar ddatblygiad a dysgu plant ifanc. Hefyd, mae cyfleoedd i fynd ar leoliad yn caniatáu i chi raddio gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar fel y gallwch ddatblygu dyfodol addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Paratowch am yrfa werth chweil gyda phlant a phobl ifanc trwy ein cyrsiau Gwaith gyda Phobl Ifanc a Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol, y ddau wedi’u teilwra’n unigryw i fodloni’r heriau a’r cyfleoedd sydd yng Nghymru a thu hwnt. Cewch ennill y wybodaeth a’r sgiliau sy’n grymuso pobl ifanc ac yn cefnogi eu datblygiad.
Mwynhewch y posibiliadau a ddarperir gan opsiynau astudio ar y campws, ar-lein a dysgu cyfunol gydag addysgu cydamserol i ganiatáu i fyfyrwyr rannu a thrafod syniadau. Cofleidiwch awyrgylch cymunedol bywiog ein cyrsiau bach, lle caiff eich llais ei glywed. Cewch hefyd ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda nifer o’n cyrsiau ar gael i’w hastudio’n Gymraeg, gan ddarparu amgylchedd dysgu unigryw a throchol.
Mae ein hymrwymiad i feithrin gweithwyr proffesiynol tosturiol yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan sicrhau eich bod yn graddio gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen er mwyn llwyddo ym meysydd dynamig addysg blynyddoedd cynnar, gwaith ieuenctid ac eiriolaeth. Ymunwch â ni i lunio dyfodol mwy disglair trwy addysg, cefnogaeth ac eiriolaeth. Dyma ddechrau eich taith, bydd graddedigion yn mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd neu hyfforddiant ôl-raddedig gan gynnwys gwaith ieuenctid, addysgu, darlithio, gwaith cymdeithasol, llesiant a chymorth i deuluoedd.
Pam asudio Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar?
Spotlights

Cyfleusterau
Yn fyfyriwr Addysgu, Addysg, a Gwaith Ieuenctid, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu. Mae gan ein rhaglenni Addysg Awyr Agored ac Addysg Gorfforol fynediad i Cynefin hefyd, Canolfan y Brifysgol ar gyfer gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys trac pwmpio ar gyfer Beiciau Mynydd, mynediad i Afon Tywi a llwybr Arfordir Cymru, Ysgol Goedwig a lleoliad a gwersyll crefftau coedwriaeth. Mae’r man penodedig hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu’r rhaglen ymhellach gyda mwy o fynediad i adnoddau, mannau addysgu gwell a chyfleusterau ar y safle.

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.