ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Mae ein cyfleusterau Peirianneg Sifil a Pheirianneg wedi’u lleoli ar ein campws yng nglannau Abertawe. Mae’r lleoliad hyfryd hwn yn cynnig adnoddau o’r radd flaenaf ac amgylchedd dysgu deinamig, ar lannau bendigedig yr arfordir. Mae campws y glannau yn gefnlen sy’n ysbrydoli gweithgareddau creadigol a thechnegol, gan feithrin cymuned lle mae arloesi a chydweithio yn ffynnu. Ochr yn ochr â chyfleusterau arbenigol, caiff myfyrwyr fynediad i lyfrgell gynhwysfawr a digonedd o fannau astudio. Yma, gall myfyrwyr ymgolli eu hunain wrth fwynhau bywyd bywiog y ddinas a’r harddwch naturiol sydd gan Abertawe i’w gynnig. 

Ein Cyfleusterau

Modelau o adeiladau wedi’u gwneud o gardfwrdd yn gorffwys ar fwrdd, ar yr ochr arall mae dau fyfyriwr yn gweithio ar liniaduron.

Ein Cyfleusterau Pensaernïaeth

Mae ein cyfleusterau pensaernïaeth wedi’u cynllunio i ysbrydoli creadigrwydd. Mae gennym ddwy stiwdio bwrpasol gyda chyfleusterau darlunio traddodiadol a symudol, gweithfannau CAD, plotwyr fformat mawr, ystafell olau ar gyfer ffotograffiaeth modelau, a storio modelau. Hefyd, mae gan fyfyrwyr fynediad i Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru CWIC, sy’n cynnwys gweithdai ar gyfer gwneud modelau fformat mawr, torri â laser, peiriannau CNC, argraffwyr 3D, dronau, a thechnoleg thermograffig. 

Dyn a menyw mewn siacedi melyn llachar yn edrych ar sgaffaldau ac yn cynnal y gwaith o  lenwi adran y to mewn olion adeilad brics.

Ein Cyfleusterau Adeiladu a Pheirianneg Sifil

Ymhlith y cyfleusterau ar gyfer adeiladu a pheirianneg sifil mae gweithdai a labordai o’r radd flaenaf, gweithdy adeiladu sydd ag offer profi, offer arolygu, gweithleoedd CAD a meddalwedd fel Revit, ystafell arolygu ddigidol sydd â chyfarpar VR, sganwyr 3D, dronau, offer thermograffig, a labordy amgylcheddol ar gyfer profi pridd. Hefyd, mae gan fyfyrwyr adeiladu a pheirianneg sifil fynediad i’r gweithdai ar gyfer gwneud modeli fformat mawr, torri â laser, peiriant CNC ac argraffwyr 3D. 

Oriel Gyfleusterau  

Bywyd ar y Campws

four students on beach playing in shallow water

Bywyd Campws Abertawe

Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.