
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Mae ein rhaglenni Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol wedi’u cynllunio i feithrin awduron creadigol a hwyluso’r gwaith o greu gweithiau newydd mewn cymuned gefnogol ond beirniadol. Byddwch yn cael eich annog i archwilio grym a phrydferthwch iaith. P’un ai ysgrifennu barddoniaeth, nofelau, sgriptiau ffilm neu ddadansoddi llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau sy’n mynd â’ch bryd, byddwch yn mwynhau dod gyda ni ar daith i fyd geiriau.
Archwiliwch amrywiaeth o gyfnodau a genres llenyddol mewn llenyddiaeth Saesneg a defnyddio’r wybodaeth hon wrth fynd ati i ysgrifennu’n greadigol. Byddwch yn cael eich annog i holi â meddwl agored am y ffyrdd amryfal o greu gwahanol gysyniadau a gwerthoedd o fewn y ddisgyblaeth, er mwyn llywio eich addysg eich hun.
Pwrpas ein cyrsiau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yw astudio rhaglenni sydd wedi’u cynllunio i godi ymwybyddiaeth greadigol a beirniadol o elfennau a thechnegau ysgrifennu effeithiol. Drwy fynd i’r afael â’r rhaglenni a digwyddiadau llenyddol eraill, y chi fydd awdur eich addysg.
Byddwch yn cael y cyfle i astudio awduron canonaidd, testunau sefydledig a llenyddiaeth gydnabyddedig wrth gael eich annog i ddefnyddio’r sgiliau iaith a llenyddiaeth a ddysgwyd i fyfyrio’n feirniadol ac yn llawn dychymyg ar yr hyn yr ydych yn ei ddysgu a’ch ffordd o feddwl ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau y byddwch yn eu meithrin o fudd i chi wrth chwilio am waith mewn meysydd amrywiol o hysbysebu, ysgrifennu sgriptiau, llenyddiaeth a llawer mwy ym maes y diwydiannau creadigol.
Byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, deallusol, trin a thrafod ac ymarferol trwy ymgysylltu a throchi dwfn ac estynedig yn arferion, dulliau a deunydd y rhaglenni. Daw’r ystod eang hon o wybodaeth a sgiliau wrth weithio ar y cyd â chyfoedion mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Pam astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn PCYDDS?
Spotlights

Cyfleusterau
Cewch eich addysgu mewn dosbarthiadau grŵp bach lle bydd eich llais a’ch barn yn cael eu clywed. Ymgysylltu ar gampws lle mae trafodaethau diwylliannol pellach yn cael eu hannog. Bydd gennych fynediad at ystod eang o lenyddiaeth o’n llyfrgelloedd ar y campws, yn ogystal â mynediad i’r Archifau yn ein lleoliad yn Llambed.