Cyfrifiadura Cymhwysol (Rhan amser) (BSc Anrh)
Os hoffech chi adeiladu gyrfa mewn cyfrifiadura, mae ein gradd ran-amser BScCyfrifiadura Cymhwysol yn cynnig hyblygrwydd i ennill y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y sector TG.
Mae’r sector TG yn cynnig gyrfaoedd amrywiol mewn gwahanol ddisgyblaethau cyfrifiadurol, megis peirianneg meddalwedd, rheoli data, deallusrwydd artiffisial (AI), rhwydweithio, seiberddiogelwch, profiad defnyddwyr a thechnolegau gwe. Trwy astudio ein rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol, byddwch yn elwa ar ystod eang o sgiliau technegol sy’n hanfodol ar gyfer y meysydd hyn. Mae’r cwrs yn cynnwys technolegau a ddefnyddir yn eang yn y sector cyfrifiadura, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer y dyfodol.
Mae ein rhaglen yn rhoi pwyslais sylweddol ar reoli data a chreu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Fel myfyriwr graddedig, bydd gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arwain tîm a rheoli prosiectau, sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y diwydiant.
Rydym yn deall efallai na fydd gan rai myfyrwyr faes diddordeb penodol pan fyddan nhw’n dechrau. Mae’r rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol ar ein campws yn Abertawe wedi’i chynllunio er mwyn ystyried hyn. Mae’r cwrs yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau dewisol wedi’u hadeiladu ar sylfaen o fodiwlau craidd. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn eich helpu i ddewis y modiwlau sy’n cyd-fynd orau â’ch diddordebau a’ch nodau gyrfa.
Mae ein ffocws ar wybodaeth a sgiliau technegol yn golygu y byddwch yn astudio meysydd fel cynllunio cronfeydd data a datblygu’r we. Mae’r pynciau hyn yn hanfodol ar gyfer cyfrifiadura modern a byddant yn gwella eich rhagolygon gyrfa. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn peirianneg meddalwedd neu seiberddiogelwch, bydd ein rhaglen yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi.
Trwy gwblhau’r rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol byddwch yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth mewn TG. Bydd y sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn berthnasol i rolau amrywiol, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr i ddarpar gyflogwyr. Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i gefnogi eich datblygiad, yn academaidd ac yn broffesiynol, gan sicrhau eich bod yn barod i gwrdd â heriau’r sector TG.
Mae ein campws yn Abertawe yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol gyda thiwtoriaid profiadol sy’n ymroddedig i’ch helpu i lwyddo. Gan ganolbwyntio ar wybodaeth ymarferol a damcaniaethol, mae’r rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn ddewis ardderchog i unrhyw un sydd am ddilyn gyrfa yn y sector TG.
Ymunwch â ni yn Abertawe a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa lwyddiannus mewn cyfrifiadura. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth a gewch yma yn agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd yn y diwydiant TG. P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n ystyried newid eich llwybr gyrfa, mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi’ch dyheadau a’ch helpu i gyflawni’ch nodau.
Yn ogystal, rydym yn cynnig Blwyddyn Sylfaen fel rhan o’n hymrwymiad Ehangu Mynediad. Mae hyn yn rhoi llwybr mynediad i fyfyrwyr sy’n chwilio am newid gyrfa neu’r rhai sydd angen diweddaru eu sgiliau i fodloni gofynion mynediad. Mae’r hyblygrwydd hwn yn sicrhau bod ein rhaglenni yn hygyrch i ystod eang o fyfyrwyr.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Cyfrifiadura Cymhwysol yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol, meddwl beirniadol, a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Rydym yn cyfuno profiad ymarferol gyda dysgu damcaniaethol dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector TG.
Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu sylfaen gref trwy astudio amrywiaeth eang o bynciau, mewn datblygu meddalwedd, mathemateg cyfrifiadura, cysyniadau gwe a chronfeydd data, a saernïaeth gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu hanfodol, gan osod y sylfeini ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd i ddod.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo ymhellach, gyda modylau mewn rheoli prosiectau TG, dadansoddi systemau, gwaith Fforensig ar gyfrifiaduron ac egwyddorion peirianneg meddalwedd a phrofi meddalwedd. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau gweithredu rhwydwaith a gwasanaethau rhwydwaith yn ogystal â modylau dewisol, megis rhoi ar waith rwydweithio uwch, a Rhaglennu Ystadegol gan wella eich galluoedd technegol a dadansoddol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn eich pumed flwyddyn a’r flwyddyn olaf, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o weithrediadau systemau TG, rheoli data, pensaernïaeth a pherfformiad cronfeydd data a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Byddwch yn cynnal prosiect annibynnol sylweddol, gan weithredu eich gwybodaeth ar gyfer senarios y byd go iawn a’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant TG.
Gorfodol
(40 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
104 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: BCC, BTEC: DMM, IB: 31
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol datblygiad systemau cyfrifiadura a gwybodaeth. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi ym meysydd datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth ayb.