Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Mae ein Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Peirianneg Meddalwedd yn cynnig addysg ymarferol â ffocws ar ddiwydiant sydd wedi’i llunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi sydd eu hangen i lwyddo yn y byd sydd ohoni sy’n cael ei yrru gan dechnoleg. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddarparu sylfaen gadarn mewn datblygu meddalwedd, rhaglennu, a dylunio systemau, gan eich paratoi ar yr un pryd i fodloni gofynion byd peirianneg meddalwedd sy’n datblygu’n gyflym.
Dan arweiniad tîm o academyddion â phrofiad helaeth yn y diwydiant, mae’r cwrs hwn yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymwysiadau o’r byd go iawn. Byddwch yn elwa o’u harbenigedd a’u mewnwelediad, gan ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o dueddiadau, offer ac arferion cyfredol y diwydiant. O’r cychwyn cyntaf byddwch yn dysgu mewn amgylchedd ymarferol gan ddefnyddio labordai arbenigol ac offer datblygu meddalwedd o safon y diwydiant.
Gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau cyfrifiadura a rhaglennu hanfodol, gan ddechrau gyda sylfaen gadarn cyn symud ymlaen i feysydd mwy arbenigol peirianneg meddalwedd. Byddwch yn meistroli egwyddorion allweddol mewn dylunio meddalwedd, methodolegau datblygu, a rheoli prosiectau, gan eich galluogi i ddylunio a gweithredu systemau meddalwedd cymhleth. Mae’r cwricwlwm hefyd yn integreiddio datblygu ‘pentwr llawn’, rheoli cronfeydd data, a phensaernïaeth meddalwedd i sicrhau eich bod â’r ystod lawn o sgiliau sy’n angenrheidiol i’r gweithle modern.
Mae ein rhaglen HND wedi’i llunio i feithrin cyflogadwyedd drwy ffocws ar ddysgu ymarferol, yn seiliedig ar brosiectau. Byddwch yn gweithio ar brosiectau o’r byd go iawn sy’n efelychu heriau diwydiant, gan ddarparu profiad ymarferol gyda thechnolegau sy’n cael eu defnyddio yng nghwmnïau meddalwedd y byd sydd ohoni. Bydd yr aseiniadau ymarferol hyn, ar y cyd â phwyslais ar waith tîm a datrys problemau, yn sicrhau eich bod yn graddio â’r hyder a’r sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn y diwydiant peirianneg meddalwedd.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn barod i ddilyn amryw o gyfleoedd gyrfa mewn datblygu meddalwedd, dylunio systemau, a rheoli prosiectau, neu symud ymlaen at lefel astudio uwch. P’un a fyddwch yn anelu at ymuno â’r gweithlu ar unwaith neu barhau ar eich taith academaidd, bydd y rhaglen HND mewn Peirianneg Meddalwedd yn darparu’r arbenigedd technegol a’r profiad ymarferol i’ch rhoi ar y ffordd i lwyddo.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydym yn credu mewn dysgu ymarferol ynghyd â sylfeini damcaniaethol cryf. Mae ein dull o addysgu yn sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer rhagori yn y byd go iawn.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu hanfodion ieithoedd rhaglennu, technegau datblygu meddalwedd ac egwyddorion peirianneg meddalwedd. Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau sylfaenol ac yn cael profiad ymarferol gyda thechnolegau blaengar.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Bydd eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddiogelwch data a chydymffurfiaeth uwch ac egwyddorion peirianneg meddalwedd a phrofi. Byddwch yn ymchwilio i systemau gweithredu ac uwch datblygu meddalwedd uwch, gan wella eich gallu i ddatblygu a rheoli systemau meddalwedd cymhleth.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
48 o Bwyntiau Tariff UCAS
- e.e. Safon Uwch: D, BTEC: PPP, IB: 24
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
- Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
Lleoliad
Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel: Rhaglennydd Ffiseg, Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd, Profwr Meddalwedd a Rheolwr Adeiladu TG.