Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) gyda Blwyddyn Sylfaen (Rhan amser) (BSc Anrh)
Pwyslais y rhaglen hon yw datblygu meddalwedd, graffeg cyfrifiadurol a gemau cyfrifiadurol. Dewiswch y cwrs hwn i ddod yn fedrus a gwybodus yn nulliau technegol datblygu meddalwedd, gyda ffocws penodol ar gemau. Mae graddedigion y rhaglen hon yn debygol o gael cyflogaeth naill ai o fewn y diwydiant gemau neu gyda sefydliadau meddalwedd arbenigol.
Byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn o sgiliau a gwybodaeth ar y rhaglen hon. Fe gewch wybodaeth am sefyllfa gyfredol y diwydiant ac mae hefyd pwyslais ar sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes, fel y byddwch yn gallu diweddaru eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa.
Mae’r rhaglen hon yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau ym maes Gemau Cyfrifiadurol ac yn eu galluogi i ddilyn diddordebau mwy arbenigol.
Wedi graddio o’r cwrs hwn, bydd eich cyflogaeth o fewn y maes hwn yn debygol o ddechrau fel aelod o dîm, yn synio, dylunio, datblygu a gweithredu meddalwedd cymhleth ar gyfer y diwydiannau gemau neu ddiwydiannau cysylltiedig.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal gemau cyfrifiadurol o ansawdd uchel. Bydd y myfyriwr yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar raglennydd proffesiynol i greu datrysiadau i broblemau mawr a chymhleth. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy beiriannu gemau cyfrifiadurol yn rhan o dîm yn uchel iawn eu parch ymhlith cyflogwyr.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(40 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
104 pwynt tariff UCAS (260 cynt) gan gynnwys:
- Dwy radd C Safon Uwch/AVCE; neu
- Ddiploma Cenedlaethol BTEC gradd Teilyngdod, Pas, Pas; neu
- Dystysgrif Genedlaethol BTEC graddau Teilyngdod, Teilyngdod; neu
- NVQ Lefel 3 - Pas
Dylai pynciau Lefel Uwch gynnwys TGCh, Cyfrifiadura, Mathemateg, Ffiseg neu debyg.
Mae angen TGAU Mathemateg Gradd 4 (C cynt) neu uwch.
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel Rhaglennydd Iau, Prif Raglennydd, Rhaglennydd Injan/Offer, Rhaglennydd Graffeg/Effeithiau Arbennig/Rendro, Rhaglennydd/Peiriannydd Awdio, Rhaglennydd Deallusrwydd Artiffisial, Rhwydweithio/Aml-chwaraewr, Rhaglennydd Rhwydweithio, Rhaglennydd Gemau Symudol, Rhaglennydd Ffiseg, Pheiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd ayb.