ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) gyda Blwyddyn Sylfaen (Rhan amser) (BSc Anrh)

Abertawe
6 Mlynedd Rhan amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae’r BSC (Anh) Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) rhan amser gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Cymry Y Drindod Dewi Sant wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn datblygu meddalwedd, ond a allai fod angen paratoi’n ychwanegol cyn dechrau gradd lawn.  

Byddwch yn dechrau gyda Blwyddyn Sylfaen, lle byddwch yn datblygu sgiliau academaidd a thechnegol allweddol. Mae hyn yn cynnwys dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio, datrys problemau a defnyddio offer meddalwedd sylfaenol. Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, byddwch yn symud i astudio meddalwedd craidd.  

Byddwch yn cael profiad ymarferol gyda phrosiectau byd go-iawn, yn defnyddio offer safon y diwydiant ac arferion gweithio megis datblygiad hyblyg a DevOps. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a chyflogadwyedd, gan eich helpu i adeiladu sgiliau y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr.  

Yn ogystal, byddwch yn datblygu gwaith tîm, rheoli prosiectau, a sgiliau cyfathrebu – pob un sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant technoleg heddiw.  Mae’r fformat rhan amser hwn yn golygu y gallwch astudio ochr yn ochr â gwaith neu gyfrifoldebau eraill. 

Erbyn i chi raddio, byddwch yn barod i ddechrau gyrfa mewn datblygu meddalwedd neu barhau ag astudiaethau pellach mewn meysydd arbenigol o gyfrifiadura. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
6 Mlynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dechrau Cefnogol: Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn helpu adeiladu eich hyder a’ch sgiliau academaidd cyn symud ymlaen i’r radd lawn.
02
Ffocws ar Yrfa: Wedi’i ddylunio i roi’r sgiliau i chi y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi yn y diwydiant meddalwedd.
03
Astudio Hyblyg: Dysgu rhan amser sy’n eich helpu i gydbwyso eich astudiaethau â’ch gwaith a’ch bywyd. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn cael gwybodaeth am ddatblygu meddalwedd, datrys problemau, trin data, seiberddiogelwch, a mwy. Byddwch yn cymhwyso eich dysgu i dasgau ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer rolau byd go iawn mewn peirianneg meddalwedd.  

Gorfodol 

Dadansoddi a Datrys Problemau

(20 credydau)

Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Gorfodol 

Cyflwyniad i Systemau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Prosiect Integreiddio

(20 credydau)

Gorfodol 

Datblygu Meddalwedd

(20 credydau)

Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfeydd Data

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Gorfodol 

Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch

(20 credydau)

Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith

(20 credydau)

Datblygu Meddalwedd Uwch

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Datblygu Cymwysiadau Cronfeydd Data

(20 credydau)

Diogelwch a Chydymffurfiaeth Data

(20 credydau)

Egwyddorion a Phrofi Peirianneg Meddalwedd

(20 credydau)

Gorfodol 

Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol

(20 credydau)

Gwasanaethau Gwe yn y Cwmwl

(20 credydau)

Rhaglennu a Natur Gydamserol Socedi

(20 credydau)

Dewisol

Tueddiadau sy'n dod i'r Amlwg

(20 credydau)

Ymchwil Seiliedig ar Ddiwydiant

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

CISCO logo: Networking Academy Partner 2025.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol. 

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o Bwyntiau Tariff UCAS     

    • e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth Ã¢ thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu  er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    TGAU 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno Ã¢â€™n gradd baglor, gallech ystyried: 

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth Ã¢ blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar Ã´l seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth Ã¢ sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill. 

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 


     

  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol peirianneg meddalwedd. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniad ac arholiad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr.  Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Lleoliad

    Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi. Dengys ystadegau diweddar bod y mwyafrif helaeth yn dilyn eu dewis lwybrau gyrfaol o fewn chwe mis i raddio.

    Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel: Rhaglennydd Ffiseg, Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr Meddalwedd, Profwr Meddalwedd a Rheolwr Adeiladu TG.

Mwy o gyrsiau Cyfrifiadura

Chwiliwch am gyrsiau