Image and intro

Cyfarwyddwr Gweithredol ac Uwch Ddarlithydd
Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg
E-bost: g.collett@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau arbenigol.
Cefndir
Mae Gareth Collett yn Frigadydd a Diplomydd wedi ymddeol o Fyddin Prydain, a arbenigai mewn difa bomiau ym maes gwrthderfysgaeth. Mae ganddo Ddoethuriaeth mewn Amddiffyn a Diogelwch, gan arbenigo mewn ffrwydron cartref, rhagsylweddion cemegol ffrwydrol, ac effeithiau gwenwynig ffrwydron ar y corff dynol. Mae’n siarad Arabeg yn rhugl ar ôl cyflawni nifer o rolau diplomyddol yn y Dwyrain Canol, yn Beiriannydd Siartredig gyda’r Cyngor Peirianneg, ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Ffrwydron.
Fe’i penodwyd yn CBE yn 2013 yn bennaeth y proffesiwn difa bomiau yn y DU ac yn brif anogwr diogelu gweithrediadau gwaredu ordnans ffrwydrol (EOD) rhyngwladol ledled y byd. Roedd hwn yn gyfnod arbennig o heriol gan fod ei ddyletswyddau’n cwmpasu blynyddoedd prysuraf lleoli milwyr Prydain yn Afghanistan a pharatoi protocolau diogelwch ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.
Mae Gareth yn arbenigwr blaenllaw ar atal dyfeisiau ffrwydrol byrfyfyr (C-IED), lliniaru ffrwydradau, a gwaith fforensig yn dilyn ffrwydradau, ac yntau yn ddiweddar wedi cwblhau adroddiadau technegol ffurfiol ar Theatr Mariupol, trychineb Porthladd Beirut, ac adfer yn ddiogel 1.1 miliwn o gasgenni o olew crai o’r tancer storio a dadlwytho tanwydd ‘Safer’ a ddifrodwyd yn Yemen. Gwnaeth ei gynllun lliniaru ffrwydrad atal ffrwydrad tanwydd-aer rhag digwydd yn ystod gweithrediadau trosglwyddo SMIT Boskalis ac osgoi trychineb amgylcheddol yn y Môr Coch a Gwlff Aden. Ef hefyd oedd cychwynnwr y ‘datrysiad cyfunol’ yn Irac, menter glirio a ddaeth â’r gymuned clirio ffrwydron fyd-eang at ei gilydd a hwyluso dychwelyd yn urddasol dros dair miliwn o bobl oedd wedi’u dadleoli ar ôl rhyddhau’r wlad rhag Daesh.
Yn academaidd, mae Gareth yn canolbwyntio ar gyhoeddiadau sy’n ymwneud â ffrwydron cartref (HME), rhagsylweddion cemegol ffrwydrol, y risg y gall ffrwydron achosi canser y llwybr wrinol, y gwaith dyngarol o glirio ffrwydron, gweithredu fforensig dyngarol a gwaith fforensig yn dilyn ffrwydradau. Mae wedi ysgrifennu tri llyfr yn ymwneud ag arfer gorau difa dyfeisiau ffrwydrol byrfyfyr (IED), y peryglon sy’n gysylltiedig â HME yn y gwaith dyngarol o glirio ffrwydron, ac Addysg Risg Ordnans Ffrwydrol i blant ac oedolion agored i niwed.
Yn ei amser hamdden, mae Gareth yn Aelod Bwrdd dwy Elusen Ryngwladol sy’n ymwneud â Chymorth i Ddioddefwyr, yn gynghorydd i Action on Armed Violence (AOAV), yn uwch aelod o Grŵp Sefydlogi Sifil y DU ac yn uwch Gynghorydd Technegol i’r Cenhedloedd Unedig.
Diddordebau Academaidd
Mae ei feysydd addysgu’n canolbwyntio ar amgylchoedd risg uchel, ordnans ffrwydrol a ffactorau dynol. Mae’n cyflwyno’r modylau canlynol yn benodol: Egwyddorion Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (OME); Egwyddorion Gwyddonol OME; Awduro Technegol; Diogelwch Niwclear; a Ffactorau Dynol mewn Amgylcheddau Peryglus Iawn.
Mae wrthi’n astudio ar gyfer PhD mewn rheoleiddio rhagsylweddion cemegol ffrwydrol ar hyn o bryd, sydd wedi’i gymryd gan y Cenhedloedd Unedig fel menter liniaru fyd-eang.
Meysydd Ymchwil
N/A
Arbenigedd
- Ymgynghorydd preifat yn ymwneud â throseddau rhyfel
- Gwaith dyngarol difa ffrwydron
- Gwaith fforensig dyngarol
- Risgiau a rheoli risg
- Ffactorau dynol
- Ffrwydradau a lliniaru ffrwydradau
- Peirianneg ordnans ffrwydrol