Sustrans Cymru
Teitl: Mapiau Cyffyrddol Trawsnewidiol ar gyfer Pobl â Namau ar y Golwg
Maes Ymchwil: Argraffu 3D a Phrototeipio
Partner: Sustrans Cymru
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Mewn prosiect peilot arloesol, cydweithiodd ATiC â Sustrans Cymru i archwilio sut y gallai mapiau cyffyrddol a wnaed gan argraffwyr 3D gefnogi teithiau annibynnol a llywio annibynnol i bobl sydd â namau golwg yng Nghymru. Nod y prosiect oedd gwneud seilwaith teithio llesol yn fwy cynhwysol trwy alluogi mewnbwn ystyrlon gan unigolion â nam ar eu golwg yn ystod y broses ddylunio.
Dangosodd yr astudiaeth fod mapiau cyffyrddol yn offeryn pwerus ar gyfer cysylltu â defnyddwyr â namau ar y golwg, gan eu helpu nhw i ddarparu adborth ar amgylcheddau trefol mwy diogel, mwy hygyrch. Mae’r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ymchwil bellach i fanteision mapiau cyffyrddol cyferbyniad uchel yn gyfrwng ymgynghori.
Cyfraniad ATiC:
Chwaraeodd ATiC ran ganolog wrth ddatblygu a gwerthuso’r mapiau cyffyrddol, gan sicrhau eu bod yn weithredol ac yn hawdd ei ddefnyddio.
Arbenigedd ATiC:
- Wedi asesu effeithiolrwydd amrywiol ddyluniadau mapiau cyffyrddol - megis ffyrdd osgoi bysiau a llwybrau beicio cyffredin – yn offer ymgynghori.
- Trosi dyluniadau seilwaith teithio llesol 2D yn fapiau cyffyrddol digidol, i’w hargraffu, wedyn, ar argraffydd 3D a’u mireinio ar gyfer gwahanol brosesau gweithgynhyrchu.
- Cynnal profion defnyddioldeb gydag aelodau o Visual Impairment West Glamorgan i werthuso perfformiad map a chasglu adborth defnyddwyr.
Effaith:
Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos sut y gall dylunio cynhwysol a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg rymuso cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a llunio mannau cyhoeddus mwy hygyrch.