
Unigolion – Beth sydd ynddo i chi?
Datglowch eich Potensial gyda’r Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP)
Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnig llwybr unigryw i unigolion i wella eu gyrfaoedd tra byddant yn parhau i weithio. Pa un a ydych yn awyddus i gamu ymlaen yn eich rôl bresennol, symud i yrfa newydd, neu ddyfnhau eich gwybodaeth mewn ffordd benodol, mae’r FfAP yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg, ymarferol ac achrededig sy’n cyd-fynd â’ch ymrwymiadau proffesiynol a phersonol.
Datglowch eich Potensial gyda’r Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP).

-
Byddwch yn astudio heb yr angen i fynychu’r brifysgol yn wythnosol. Mae’r modylau wedi’u llunio i’w cwblhau trwy ymrwymiad addysgu sy’n cyfateb i hyd at 4 diwrnod, gan ganiatáu i chi sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng gwaith, astudio a bywyd.
-
Byddwch yn derbyn arweiniad a mentoriaeth arbenigol gan diwtoriaid profiadol.
-
Byddwch yn elwa o’r modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL), lle gallwch hawlio hyd at ddwy ran o dair o’ch cymhwyster yn seiliedig ar eich gwybodaeth a’ch profiad cyfredol.

-
Byddwch yn integreiddio dysgu academaidd yn uniongyrchol i’ch amgylchedd proffesiynol, gan gymhwyso sgiliau a gwybodaeth newydd ar unwaith.
-
Gallwch ddewis o ystod o gymwysterau ar lefel Israddedig ac Ôl-raddedig.
-
Cewch fynediad at fodylau generig sy’n addas i bob diwydiant, ynghyd â chyrsiau arbenigol a luniwyd i fodloni nodau gyrfaol penodol a gofynion diwydiant.
-
Sy’n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfa heb gymryd saib o’r gwaith.
-
Sy’n awyddus i symud i faes newydd neu wella eu sgiliau cyfredol.
-
Sydd â diddordeb mewn datblygiad personol a phroffesiynol trwy ddysgu hyblyg, achrededig.
-
I ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill o’r un anian ac ehangu eich rhwydwaith.

Sut i Wneud Cais
Mae gwneud cais am y Fframwaith Arfer Proffesiynol yn syml. Dilynwch y camau hyn i ddechrau eich taith addysgol:
-
Ewch i wefan y Drindod Dewi Sant: Ewch i adran y FfAP i gael gwybodaeth fanwl am y rhaglenni a gynigir.
-
Dewiswch eich rhaglen: Dewiswch y dyfarniad a’r modylau penodol sy’n cyd-fynd â’ch nodau a’ch diddordebau proffesiynol.
-
Trefnwch drafodaeth: Byddai aelod o dîm Derbyn FfAP yn falch iawn i drafod eich dyheadau gyrfa a’ch helpu i benderfynu ar y lefel fwyaf addas i chi.
-
Cyflwynwch eich cais: Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein a’i chyflwyno ynghyd â’ch dogfennau ategol.
Cymryd y Cam Nesaf
Ymunwch â’r Fframwaith Arfer Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant ac ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich gyrfa wrth i chi barhau i gynnal eich ymrwymiadau proffesiynol a phersonol. Cysylltwch â ni i ddechrau eich taith addysgol gyda’r FfAP - ppf@uwtsd.ac.uk.