Virtus Tech
Teitl: Ysbyty Rhithwir Cymru – Trawsnewid Addysg Feddygol Trwy Dechnoleg Ymdrochol
Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesur Seicoffisiolegol / Cipio Realiti, Modelu 3D ac Efelychu Rhithwir
Partner: Virtus Tech, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, AaGIC, Byrddau Iechyd GIG Cymru
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Gweithiodd Virtus Tech, busnes bach a chanolig o Gymru sy’n arbenigo mewn realiti rhithwir ac offer dysgu digidol, mewn partneriaeth ag ATiC a chonsortiwm o sefydliadau academaidd a gofal iechyd i ddatblygu Ysbyty Rhithwir Cymru. Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn yn dwyn ynghyd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, nifer o Fyrddau Iechyd y GIG, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i greu amgylchedd dysgu rhithwir ar-lein arloesol ar gyfer addysg feddygol.
Mae’r platfform yn galluogi clinigwyr i ddylunio tri math o brofiadau dysgu ymdrochol a phob un yn canolbwyntio ar senarios cleifion:
- Amgylcheddau llonydd 360° gyda chynnwys wedi’i wreiddio mewn modylau e-ddysgu
- Amgylcheddau fideo 360° lle mae chwaraewyr yn ymwneud yn rhyngweithiol mewn modd canghennog ac anghanghennog â gemau
- Efelychiadau 360°/3D hollol ymdrochol ar gyfer hyfforddiant rhithwir ymarferol
Mae’r system hefyd yn cynnwys dyluniad rhyngwyneb deuol – y naill ar gyfer dysgwyr a’r llall ar gyfer clinigwyr sy’n creu a lanlwytho cynnwys - gan sicrhau hygyrchedd a rhwyddineb wrth ei ddefnyddio.
Cyfraniad ATiC:
Chwaraeodd ATiC rôl allweddol wrth werthuso defnyddioldeb ac effeithiolrwydd addysgol y platfform, gan helpu Virtus Tech i fireinio profiad y defnyddiwr ac ehangu ei gyrhaeddiad yn y sector addysg feddygol.
Arbenigedd ATiC:
- Wedi cynnal gwerthusiadau hewristig a phrofion defnyddwyr strwythuredig ar yr amgylcheddau rhithwir
- Wedi defnyddio olrhain llygaid a chyfweliadau lled strwythuredig i asesu rhyngweithiad defnyddwyr a chanlyniadau dysgu
Effaith:
Mae’r cydweithrediad hwn nid yn unig yn cefnogi twf Virtus Tech mewn marchnadoedd newydd ond hefyd yn darparu gwerth addysgol sylweddol i fyfyrwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a darparwyr hyfforddi – sydd o fudd i ofal cleifion yn y pen draw.